Sefyll allan: sut y gall eich sgiliau bob dydd wneud argraff ar gyflogwyr
Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd yn y diwydiant adeiladu neu le ar gwrs, mae'n helpu i sefyll allan. Mae cymwysterau fel NVQs/SVQs a phrofiad gwaith yn bwysig ond gall sgiliau cyffredinol a gaiff eu meithrin gennych yn eich amser eich hun roi mantais i chi o ran ceisiadau a chyfweliadau. Gelwir y rhain yn sgiliau cyflogadwyedd.
Nid oes rhestr benodol o sgiliau cyflogadwyedd ond os ystyriwch y peth, efallai y sylweddolwch fod gennych rai ohonynt yn barod. Gallant gynnwys y canlynol:
Nid yw'r rhain fel rheol yn bethau y gallwch eu dysgu yn y dosbarth neu drwy gymwysterau er, yng Nghymru, mae Bagloriaeth Cymru yn cwmpasu ystod eang ohonynt. Efallai y bydd gennych y sgiliau hyn yn reddfol ond mae'n well cael enghreifftiau o'r ffordd rydych wedi eu meithrin a sut rydych yn eu defnyddio bob dydd.
Mae'r tŷ lleiaf ym Mhrydain Fawr yng Nghonwy. Mae'n 3 metr o uchder a dim ond arwynebedd llawr o 1.8 metr sgwâr sydd ganddo.
Efallai eich bod yn rhan o dîm chwaraeon neu glwb neu'n helpu i redeg busnes y teulu. Gallwch gysylltu gweithgareddau fel hyn â llawer o'r sgiliau uchod. Er enghraifft:
Gall chwaraeon ddangos eich bod yn llawn cymhelliant ac yn cyfathrebu'n dda mewn tîm. Os ydych byth wedi bod yn gapten neu wedi arwain sesiwn hyfforddi gallai hynny ddangos arweinyddiaeth.
Mae angen ffocws ac ymroddiad ar unrhyw hobi. Gall casgliad ddangos eich bod yn wych am wneud ymchwil. Os ydych yn dysgu canu offeryn neu iaith, gallai hynny olygu eich bod yn glynu wrth nodau.
Mae gwaith elusennol neu gymunedol yn dangos ymroddiad a dibynadwyedd. Os yw mewn siop, efallai eich bod yn dda gyda rhifau a phobl.
Hyd yn oed os nad ydych yn ymwneud ag unrhyw un o'r gweithgareddau uchod, gallwch ddechrau meithrin sgiliau cyflogadwyedd ar unrhyw adeg. Os oes elusen sydd o ddiddordeb i chi, gofynnwch a oes angen help arni. Gall hyn fod mor hawdd â galw i mewn i siop elusen ar y stryd fawr.
Gwelir y dystiolaeth gynharaf o waith coed yn Ewrop yng Ngogledd Swydd Efrog - llawr wedi'i wneud o fyrddau pren wedi'i gloddio yn dyddio'n ôl 11,500 o flynyddoedd.
Mae elusennau bob amser yn chwilio am gymorth ychwanegol a gall cyfleoedd gwirfoddoli helpu i feithrin eich sgiliau yn ogystal â chynnig boddhad. Dysgwch fwy yn CharityChoice.
Mae'r math hwn o wirfoddoli fel arfer yn effeithio ar bobl yn agosach i gartref na gwirfoddoli i elusen. Gallech helpu i lanhau maes chwarae lleol neu helpu cymydog oedrannus gydag ychydig o DIY. Dysgwch fwy yn do-it.org neu ewch i wefan Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol.
Os ydych yn 15, 16 neu 17 oed gallwch gymryd rhan yn NCS. Byddwch yn dysgu llawer o sgiliau bywyd, yn mynd ar deithiau ac yn helpu i wella eich cymuned. Dysgwch fwy am y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol. (Lloegr yn unig)