Mae'n bwysig cadw eich sgiliau'n gyfredol mewn unrhyw swydd. Mae pethau bob amser yn newid yn y diwydiant adeiladu ac os nad ydych yn dysgu sgiliau newydd gall fod yn anos i chi gamu ymlaen yn eich gyrfa neu gael swydd gwbl newydd
Mae croes-sgilio yn cyfeirio at y broses o baratoi eich sgiliau, neu ddysgu rhai newydd, ar gyfer math gwahanol o swydd. Rydych yn dechrau ystyried sut y gall eich hyfforddiant eich helpu mewn math arall o rôl a sut y gallwch adeiladu arno er mwyn eich gwneud yn gwell dewis i gyflogwyr.
Mae gan lawer o rolau proffesiynol ym maes adeiladu sefydliadau siartredig sy'n eu cynrychioli. Mae'r rhain yn gweithio i wella sgiliau eu haelodau a chynnal safonau uchel. Maent yn cynnig cyrsiau byr a gweithdai.
Dysgwch fwy am ddod yn siartredig, gan gynnwys sut i ymuno â sefydliad.
Nid dim ond ar gyfer pobl sy'n newydd i'r diwydiant adeiladu y mae'r rhain. Gall prentisiaethau hefyd roi cymwysterau newydd i chi ar gyfer swydd rydych yn ei gwneud eisoes. Os oes gennych brentisiaeth yn barod, efallai y gallech fynd â hi ymhellach drwy gyrraedd lefelau uwch. Mae llawer ohonynt bellach yn cyrraedd lefel gradd ac mae amrywiaeth newydd o safonau prentisiaethau, gan gynnwys sawl rôl dechnegol, wrthi'n cael eu datblygu.
Mae llawer o ffyrdd o feithrin sgiliau newydd a bydd y rhai rydych yn eu dewis yn dibynnu ar eich nodau. Os ydych yn gweithio mewn crefft neu am ddechrau, gall prentisiaethau fod yn ddewis da. Neu gallech ddod yn siartredig er mwyn rhoi hwb i'ch enillion mewn proffesiwn fel mesur meintiau.
Efallai na fydd rhai mathau o hyfforddiant yn gweddu'n dda i brentisiaeth. Efallai y byddwch am wella eich sgiliau cyfathrebu, angen hyfforddiant ar gyfer math penodol o beirianwaith, dysgu am ddiogelwch ar safle neu feithrin sgiliau rheoli. Dyma diben hyfforddiant achrededig.
Caiff hyfforddiant achrededig ei gydnabod gan y diwydiant adeiladu cyfan. Gall grwpiau fel Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) eich helpu gyda hyn. Efallai y gallwch hefyd gael 'hyfforddiant anachrededig' sy'n dal i fod yn ddefnyddiol ond efallai na chaiff ei gydnabod gan bawb.
Cafodd y bont haearn gyntaf ei hadeiladu yn Swydd Amwythig, Lloegr yn 1779 ac mae'n dal i gael ei defnyddio heddiw.
Nid oes rhaid i chi fynd y tu allan i'ch gwaith i uwchsgilio. Mae'n werth gweld pa fath o hyfforddiant y mae eich cyflogwr yn ei gynnig. Gofynnwch i'ch goruchwyliwr neu'r adran adnoddau dynol am ragor o wybodaeth.
Mae'r diwydiant yn defnyddio cymwysterau galwedigaethol (NVQs yng Nghymru a Lloegr, SVQs yn yr Alban) fel y safon feincnod i bobl ddangos eu cymhwysedd mewn galwedigaeth. Mae'r cymwysterau hyn yn sicrhau bod unigolion wedi cyrraedd y safon sydd ei hangen i wneud cais am Gerdyn Cymhwysedd y Diwydiant.
Edrychwch ar yr ystod lawn o safonau galwedigaethol
Os hoffech ddangos eich sgiliau mewn galwedigaeth benodol yn y diwydiant adeiladu, yna mae'r cynlluniau cardiau hyn yn profi bod gennych y sgiliau a'r hyfforddiant iawn ar gyfer swyddi adeiladu. Drwy gael un o'r rhain, byddwch yn dangos eich bod yn gallu cyflawni'r rôl neu'r dasg a nodir ar y cerdyn a bydd yn agor drysau i chi yn y sector cyfan. Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) yw'r mwyaf adnabyddus o'r rhain, ond mae eraill ar gael.
Edrychwch ar restr o'r prif gynlluniau
Mae cynlluniau cardiau'n profi bod gennych y sgiliau a'r hyfforddiant cywir mewn maes penodol yn y diwydiant adeiladu. Y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) yw'r un mwyaf adnabyddus o'r rhain, ond mae eraill ar gael.
Mae sawl math o gardiau CSCS a bydd yr un y byddwch yn ymgeisio amdano'n dibynnu ar y gwaith y byddwch chi'n ei wneud a'r NVQs neu SVQau sydd gennych. Gweld rhestr lawn o'r prif gynlluniau.
Mae dwy ffordd o gael cerdyn CSCS. Gallwch chi wneud cais yn uniongyrchol trwy ddilyn y camau a thalu ffi fach, neu efallai y bydd eich cyflogwr yn gallu trefnu hyn i chi.
Os oes gennych gymwysterau ar wahân i NVQs neu SVQs ac na allant gael cerdyn CSCS, gall y cerdyn SKILLcard neu SCORE fod yn ddewis amgen da.
Cyn i chi wneud cais am gerdyn CSCS, SKILLcard neu gerdyn SCORE, bydd angen i chi fod wedi pasio prawf iechyd, diogelwch a'r amgylchedd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Mae hyn yn sicrhau eich bod chi'n gwybod sut i gadw'n ddiogel ar y safle tra'n cadw pobl eraill yn ddiogel. Mae pedwar math o'r prawf hwn, gan gynnwys gweithiwr, llafurwr, arbenigwr, a rheolwyr/gweithwyr proffesiynol. Bydd yr un y byddwch yn ei gymryd yn dibynnu ar y math o swydd y byddwch chi'n ei wneud a'r cerdyn CSCS y byddwch yn ymgeisio amdano.
Os nad oes amser gennych, neu os nad ydych am roi'r gorau i weithio, er mwyn cael y math hwn o hyfforddiant, gallech gyflawni Asesiad a Hyfforddiant Ar Safle. Mae hyn yn golygu y bydd aseswr yn ymweld â'ch safle wrth i chi weithio ac yn edrych i weld a ydych yn meddu ar y sgiliau cywir ar gyfer y cymhwyster.