Mae'r diwydiant adeiladu yn llawn cyfleoedd ar gyfer pobl sy'n dechrau ar eu gyrfaoedd, ond gall cymryd y camau cyntaf hynny i fyd gwaith fod yn anodd heb y profiad cywir. Mae hyfforddiaethau yn galluogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddechrau mewn swydd neu brentisiaeth.
Dim ond yng Nghymru a Lloegr y mae hyfforddiaethau ar gael ar hyn o bryd.
Mae hyfforddiaethau yn cyfuno profiad gwaith ymarferol gyda chymorth gyda Saesneg a mathemateg os byddwch yn dymuno ei gael. Gallant bara rhwng cwpwl o wythnosau a chwe mis, ond dylent helpu hyfforddai i feithrin ei sgiliau a pharatoi am brentisiaeth neu swydd yn y diwydiant adeiladu bob amser.
Find out more about Luke's role, and the variety of roles available in the construction industry with the Go Construct Career Explorer.
Mae hyfforddiaethau yn ffordd wych o ymuno â'r diwydiant adeiladu. Maent yn rhoi profiad gwaith i chi ac yn eich helpu gyda'ch sgiliau academaidd. Gallwch wneud cais os byddwch yn bodolni'r meini prawf canlynol:
Yr adeilad hynaf sydd dal yn gyfan yn y DU yw Cnwc Howar yn Orknay. Mae bron yn 6,000 mlwydd oed.
Os ydych yn teimlo fod gennych ddigon o brofiad eisoes, efallai eich bod yn barod i ddechrau ar brentisiaeth yn syth. Gallwch chwilio am brentisiaethau yn eich ardal ar dudalen 'Find an apprenticeship' GOV.uk.
Gallwch ganfod hyfforddeiiaeth mewn llawer o leoedd ac mae'n werth edrych ar wefannau cwmnïau rydych yn awyddus i weithio iddynt. Efallai y bydd gofyn i chi ddangos gwybodaeth benodol pan fyddwch yn gwneud cais, fel tystiolaeth eich bod yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith.
Defnyddiwch yr adnoddau hyn i ddechrau chwilio:
Yn debyg i brentisiaethau, mae hyfforddiaethau yn rhoi cyfle i gyflogwyr feithrin cydberthnasau yn y gymuned a rhoi hyfforddiant i weithwyr ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Maent wedi'u dylunio er mwyn paratoi person ifanc ar gyfer prentisiaeth, gan helpu i sicrhau bod y prentisiaid rydych yn eu cyflogi yn barod i weithio.
Maent wedi'u dylunio er mwyn diwallu anghenion y cyflogwr yn ogystal â'r hyfforddai, felly byddant yn cyfrannu'n sylweddol at y cwmni. Bydd derbyn hyfforddai hefyd yn rhoi cyfle i'ch staff feithrin sgiliau arwain.
Y newyddion da yw y bydd y Llywodraeth yn talu'r holl gostau hyfforddiant. Os bydd yr hyfforddai yn mynd ymlaen i brentisiaeth gyda'ch cwmni, efallai y gallech gael grant o hyd at £1,500. Dysgwch fwy am hyfforddiaethau.
Yr ardal adeiledig fwyaf gogleddol yn y DU yw Shaw yn Ynysoedd Shetland. Mae'n fwy agos at Norwy nag at Gaeredin.
Mae'n rhaid i gwmni ymrwymo i rai pethau pan fydd yn derbyn hyfforddai. Mae'n rhaid i'r profiad gwaith fod o safon uchel a phara o leiaf 100 o oriau dros gyfnod o chwe mis. Mae angen iddo gynnwys y canlynol hefyd:
Caiff cwmnïau eu hannog hefyd i helpu gyda chostau teithio a chostau prydau bwyd yr hyfforddai. Pan ddaw'r hyfforddeiiaeth i ben dylech drefnu cyfweliad am swydd yn y busnes neu roi adborth ysgrifenedig defnyddiol er mwyn ei helpu i ddod o hyd i waith neu brentisiaeth yn y dyfodol os nad oes swydd ar gael.
Mae llawer o gymorth ar gael i gyflogwyr sy'n awyddus i gymryd rhan mewn hyfforddiaethau. Mae tudalen 'Employer guide to Traineeships' y Llywodraeth yn cynnwys gwybodaeth am ganfod hyfforddeion a'ch cyfrifoldebau ar ôl i chi gytuno i'w derbyn.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Gwasanaeth Prentisiaethau Cenedlaethol i gael cyngor a chymorth ar ddechrau mewn rhaglen hyfforddi.