Mae'r diwydiant adeiladu yn esblygu ac nid yw llawer o'r canfyddiadau cyffredin ynglŷn â gweithio yn y sector yn berthnasol heddiw.
Edrychwch isod i weld sut beth yw gweithio yn y diwydiant adeiladu mewn gwirionedd:
Mae gweithio yn y diwydiant adeiladu yn beryglus ac yn ddrwg i'ch iechyd
Buster
Diwydiant adeiladu'r DU yw'r mwyaf diogel yn Ewrop. Mae gan bawb ran i'w chwarae i gymryd cyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch.
Iechyd a diogelwch pawb yw'r flaenoriaeth bwysicaf bob amser. Caiff sŵn, llwch, baw a deunyddiau peryglus i gyd eu rheoli'n ofalus gan systemau gweithio diogel, arwyddion diogelwch ac asesiadau risg.
Bydd angen hyfforddiant iechyd a diogelwch ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi yn y diwydiant adeiladu. Er enghraifft, rhaid i unrhyw un sy'n mynd ar safle adeiladu gweithredol gyflawni hyfforddiant sefydlu iechyd a diogelwch, gan gynnwys ymwelwyr.
Mae gweithio yn y diwydiant adeiladu yn golygu gwneud swydd ymarferol a gweithio y tu allan yn yr oerfel
Buster
Ceir ystod eang o yrfaoedd yn y diwydiant adeiladu sy'n gallu cynnwys gweithio mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau a gweithleoedd, gan gynnwys safle adeiladu weithredol, swyddfa, gweithdy neu weithio gartref.
Ceir cannoedd o yrfaoedd yn y diwydiant adeiladu a'r amgylchedd adeiladedig sy'n ymwneud â dylunio, rheoli a pheirianneg nad ydynt yn cynnwys gwaith ymarferol.
Mae'r diwydiant adeiladu yn ddiwydiant budr sy'n ddrwg i'r amgylchedd
Buster
Mae llawer o yrfaoedd adeiladu yn ymwneud â thechnolegau gwyrdd a chynaliadwyedd, gan sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei amddiffyn yn ystod y broses adeiladu.
Gall adeiladau modern gael effaith gadarnhaol ar y cymunedau sy'n eu defnyddio. Er enghraifft, gallai ystad dai newydd gynnwys campfa maes chwarae gymunedol y gall yr holl breswylwyr ei defnyddio.
Mae defnyddio ynni, defnyddio deunyddiau niweidiol, ecoleg, llygredd, rheoli gwastraff a rheoli dŵr yn rhai o'r ffactorau a gaiff eu hystyried wrth ddylunio adeilad newydd. Er enghraifft, defnyddio paneli solar i leihau biliau ynni neu godi pont dros draffordd sydd newydd gael ei hadeiladu er mwyn galluogi bywyd gwyllt fel draenogod a moch daear i groesi'n ddiogel.
Diwydiant i ddynion yw'r diwydiant adeiladu
Buster
Mae mwy na 320,000 o ferched yn gweithio yn niwydiant adeiladu'r DU.
Mae merched sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu yn cael eu cyflogi mewn llawer o rolau diddorol ac amrywiol gan gynnwys Peirianwyr Sifil (12% o'r holl Beirianwyr Sifil) a Phenseiri (18% o'r holl Benseiri).
Mae 92% o'r holl ferched sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu yn dilyn gyrfaoedd proffesiynol, er enghraifft Penseiri, Peirianwyr Sifil a Syrfewyr Meintiau.
Mae pob gweithiwr yn y diwydiant adeiladu yn chwibanu ar bobl sy'n cerdded heibio
Buster
Nid diwydiant o ddeinosoriaid mohono mwyach! Mae safleoedd adeiladu modern yn annog pawb i ymddwyn yn barchus a thrin pawb yn deg. Os bydd unrhyw un yn ymddwyn yn amhriodol, er enghraifft chwibanu ar bobl sy'n cerdded heibio, bydd llawer o gwmnïau adeiladu yn delio â hyn yn ddifrifol.
Mae'r diwydiant yn llawn adeiladwyr anghofrestredig
Buster
Gall contractau adeiladu cyhoeddus a phreifat fod yn werth biliynau o bunnoedd.
Bydd cwmnïau cyfrifol llai yn cofrestru â ffederasiynau a chymdeithasau, fel checkatrade.com, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr a Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr, sydd â meini prawf aelodaeth llym ac sy'n asesu ansawdd gwaith eu haelodau.
Fe wnes i'n dda yn yr ysgol, felly nid adeiladu yw'r diwydiant i mi
Buster
Mae'r diwydiant adeiladu yn llawn cyfleoedd i bobl lwyddiannus sydd wedi cael addysg i lefel gradd ddilyn gyrfa sy'n talu'n dda. Mae gan lawer o gyflogwyr raglenni datblygu cydnabyddedig i raddedigion.
Mae llawer o gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu yn noddi israddedigion wrth iddynt astudio ar gyfer gradd, felly gallwch ennill cyflog wrth ddysgu!
Mae angen lefel uchel o sgiliau a gallu i reoli prosiect adeiladu sy'n werth miliynau o bunnoedd neu fusnes adeiladu.
Mae safleoedd adeiladu yn tarfu ar gymunedau lleol
Buster
Mae prosiectau adeiladu yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i'n cymunedau a'n ffordd o fyw, boed hynny'n ysbyty, ysgol, ffordd neu bont newydd.
Mae'r 'Cynllun Adeiladwyr Ystyriol' yn sicrhau bod cwmnïau adeiladu sy'n gweithio mewn cymunedau wedi gwneud ymrwymiad i'r preswylwyr lleol. Er enghraifft, caniatáu i breswylwyr lleol ymweld â'r safle adeiladu neu adnewyddu gardd gymunedol leol.
Mae llawer o gwmnïau adeiladu yn cyflogi staff 'Cyswllt â'r Gymuned' sy'n gyfrifol am roi sylw i bryderon y gymuned cyn ac yn ystod proses adeiladu prosiect adeiladu.
Bydd swyddogion cynllunio'r cyngor lleol yn ystyried unrhyw darfu ar y gymuned leol cyn i ganiatâd cynllunio gael ei roi i brosiect.
Mae'r diwydiant adeiladu yn ddiwydiant hen ffasiwn a thraddodiadol iawn
Buster
Mae'r diwydiant adeiladu modern yn datblygu ac yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, gan gynnwys Modelu Gwybodaeth am Adeiladu (BIM), Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a hyd yn oed nanodechnoleg.
Mae dulliau a deunyddiau adeiladu newydd yn datblygu'n gyson, ond mae dulliau adeiladu traddodiadol (sgiliau treftadaeth) yn hanfodol ar gyfer cynnal a chadw adeiladu hŷn sydd o bosibl yn rhestredig. Mae'r sgiliau treftadaeth hyn yn sgiliau arbenigol iawn ac mae angen llawer o hyfforddiant i'w meithrin.
Mae disgwyl i hyd yn oed hen adeiladau hanesyddol gyrraedd safonau newydd o ran lefelau carbon isel a lleihau gwastraff, felly mae cynnal estheteg adeilad gan sicrhau ei fod yn cyrraedd safonau modern ar yr un pryd yn dipyn o her!
Dim ond pobl sy'n gweithio neu'n buddsoddi yn y diwydiant adeiladu sy'n elwa ohono
Buster
Mae cymdeithas yn elwa o'r diwydiant adeiladu am ei fod yn adeiladu seilwaith i gyflenwi dŵr glân a rheoli gwastraff, yn rhoi systemau amddiffyn rhag llifogydd ar waith ac yn gwella systemau trafnidiaeth.
Y diwydiant adeiladu sy'n rhoi lleoedd i bob un ohonom fyw, gweithio a mwynhau gweithgareddau hamdden ynddynt.
Dim ond ychydig o bosibiliadau gyrfa sydd i'w cael o brentisiaethau adeiladu
Buster
Dechreuodd llawer o Reolwyr Adeiladu a gweithwyr adeiladu proffesiynol eraill eu gyrfaoedd fel prentisiaid.
Gall prentisiaethau fod yn ffordd o gael Addysg Uwch neu fynd i'r Brifysgol.
Gallwch astudio Prentisiaethau Uwch neu Brentisiaethau Gradd. Mae'n bosibl y bydd rhai cwmnïau hyd yn oed yn talu'r ffïoedd dysgu!
Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ddechrau arni yn y diwydiant os ydych am ennill cyflog wrth ddysgu.