Mae a wnelo'r diwydiant adeiladu â mwy na hetiau caled a siacedi melyn llachar...
Mae mwy na dwy filiwn o bobl yn y sector adeiladu, sy'n golygu mai hwn yw un o'r sectorau mwyaf ei faint a mwyaf amrywiol yn y wlad.
Mae cyflogwyr yn defnyddio sgiliau pobl o ystod eang o gefndiroedd i fanteisio i'r eithaf ar ddatblygiadau ym maes technoleg a ffyrdd o weithio.
Wrth i'r diwydiant esblygu, mae gweithloedd adeiladu wedi dod yn decach, yn fwy cynhwysol ac yn fwy parchus, gyda chwmnïau yn canolbwyntio ar feithrin a chadw staff o'r radd flaenaf.
Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Gyngor y Diwydiant Adeiladu i arferion gwaith ym maes adeiladu wedi esgor ar rai canlyniadau diddorol iawn:
Mae'r sector adeiladu yn cyflogi tua 2.5 miliwn o bobl yn y DU - mae hynny'n golygu bod bron un o bob deg swydd yn y sector adeiladu
Mae prif ffigyrau'r diwydiant yn rhoi cydraddoldeb wrth wraidd eu busnes. Mae cyflogwyr yn chwilio am ffyrdd o greu gweithlu cynhwysol er mwyn denu talent newydd, sicrhau bod staff yn hapus ac yn ymroddedig, a gwella cynhyrchiant. Hefyd, mae rhai o gwsmeriaid mwyaf y diwydiant yn dewis defnyddio cwmnïau adeiladu am fod ganddynt staff o ystod eang o gefndiroedd.
Edrychwch am gwmnïau sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynlluniau canlynol sy'n anelu at hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol:
Nawr, yn fwy nag erioed, mae galw mawr am dalent o grwpiau amrywiol er mwyn sicrhau bod y diwydiant yn gweld newidiadau cadarnhaol yn ei ddiwylliant gwaith am sawl blwyddyn i ddod.
Mae a wnelo pensaernïaeth â dylunio a datblygu adeiladau ac amgylcheddau ar gyfer cymdeithas; mae'n effeithio ar y boblogaeth gyfan a dylai fod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.
Mae Accessing Architecture yn gyfres o dri chanllaw sy'n rhoi cyngor a chymorth ymarferol i bobl anabl ar bob cam o'u gyrfa, o ystyried gyrfa mewn pensaernïaeth, i gael addysg bensaernïol ac yna weithio i gyflawni eu potential yn y proffesiwn.