Gall cwmnïau adeiladu sydd â gweithluoedd o gefndiroedd ethnig amrywiol gynrychioli a gwasanaethu eu cleientiaid yn well. Mae'r diwydiant wedi sylweddoli hyn, gan gynnig mwy o gyfleoedd i ddarpar gyflogeion.
Dengys tystiolaeth fod pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig bellach yn ymuno â'r sector adeiladu ac yn datblygu yn eu gyrfaoedd, a bydd mwy fyth o gyfleoedd ar gael iddynt yn y dyfodol.
Rhagwelir y bydd poblogaeth y DU yn dod yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd, a gan ei bod yn debygol y bydd pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn ffynhonnell sylweddol o refeniw yn y dyfodol, mae'n hanfodol i'r diwydiant adeiladu bod pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cyflogi.
Nid yn unig y gall gweithlu amrywiol o ran ethnigrwydd wneud cwmni'n fwy apelgar i ddarpar gyflogeion, gall hefyd ei wneud yn fwy apelgar i gwsmeriaid ac yn fwy arloesol yn ei ymagwedd. Yn ôl un gweithiwr adeiladu a gafodd ei holi mewn arolwg:
“Rydym yn darparu gwasanaethau mewn ardaloedd lle ceir llawer o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, ond nid ydym wedi ein lleoli mewn ardal debyg. Rwy'n teimlo bod angen cynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn ein gweithlu er mwyn cynrychioli ein grŵp cleientiaid."
Dywedodd unigolyn arall a holwyd ei fod o'r farn y byddai'n fwy cystadleuol petai ethnigrwydd ei weithlu yn cyd-fynd yn well â'i sylfaen gwsmeriaid amrywiol.
Meddai un arall: "Gyda gweithlu mwy amrywiol, bydd gennym syniadau gwell. Heb arloesi, ni allwn fod yn flaengar. Rhaid i'r tîm ddod ynghyd a chydweithio, yn seiliedig ar wahanol safbwyntiau, a hynny mewn modd cadarnhaol."
Gyda gweithlu mwy amrywiol, bydd gennym syniadau gwell. Heb arloesi, ni allwn fod yn flaengar.
Arolwg Amrywiaeth
Mae'r gyfraith yn rhoi hwb pellach i gyfleoedd ar gyfer pobl o leiafrifoedd ethnig. Nid yn unig y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwahardd gwahaniaethu ethnig, mae hefyd yn cynnwys pwerau newydd sy'n galluogi cyrff cyhoeddus i ddefnyddio prosesau caffael i hybu cydraddoldeb.
Yn gryno, os bydd corff cyhoeddus yn ymrwymo i gontract gyda chwmni adeiladu y canfyddir ei fod yn gweithredu mewn modd gwahaniaethol, gall y corff cyhoeddus fod yn atebol. Diben hyn yw er mwyn craffu ar ddiwylliant busnes contractwyr.
Dysgwch fwy am Ddeddf Cydraddoldeb 2010