10 o’r adeiladau uchaf sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd
Mae prosiectau adeiladu cyffrous yn digwydd drwy’r amser, ym mhob cwr o’r byd, ac rydyn ni ar fin edrych ar rai o’r adeiladau uchaf sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Mae’r adeiladau hyn, sy’n cyrraedd uchelfannau newydd, yn llythrennol, yn brawf o’r hyn y gall gweithio ym maes adeiladu ei olygu. Darllenwch ymlaen i gael gwybod am yr adeiladau anhygoel hyn a’r penseiri.
Tŵr Jeddah, Jeddah, Sawdi Arabia - 3,281 troedfedd
Y bwriad yw i Dŵr Jeddah, a oedd yn arfer cael ei alw’n Dŵr y Deyrnas, fod yr adeilad 1 km (3,281 t) o uchder cyntaf yn y byd. Ar ôl ei orffen, dyma fydd canolbwynt atyniad i dwristiaid a fydd yn cael ei alw’n Ddinas Economaidd Jeddah. Crëwyd dyluniad y tŵr gan y pensaer o America, Adrian Smith, a wnaeth hefyd ddylunio’r Burj Khalifa, ond arweinydd y prosiect yw’r tywysog o Sawdi Arabia, Al-Waleed bin Talal.
Cafodd Smith ac Al-Waleed eu hysbrydoli gan ddail yn saethu i fyny o’r ddaear, gan ddylunio’r adeilad i edrych felly, fel symbol o dwf a ffyniant. Ar y brig, bydd penty enfawr yn caniatáu i deulu fyw yng nghoron yr adeilad. Mae teras awyr crwn, a ddyluniwyd i ddechrau fel glanfa hofrenyddion, yn ymwthio o un o’r lefelau uchaf, yr uchaf o’i fath yn y byd.
Merdeka PNB118, Kuala Lumpur, Maleisia - 2,113 troedfedd
Mae Merdeka 118 yn nendwr 118 llawr, 644 metr (2,113 troedfedd) sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn Kuala Lumpur, Maleisia. Ar ôl ei orffen, hwn fydd yr adeilad uchaf ym Malaysia a De-ddwyrain Asia, a’r ail adeilad uchaf yn y byd.
Dyluniwyd y tŵr gyda chymysgedd o ffasedau siâp diemwnt, a’r bwriad yw eu bod yn symbol o amrywiaeth Maleisia. Bydd y pedwar llawr uchaf yn cael eu defnyddio fel dec arsylwi ac amgueddfa. Mae’r adeilad yn cael ei adeiladu o wydr a dur, gyda digon yn digwydd y tu mewn iddo, gan gynnwys canolfan siopa, swyddfeydd ac ardaloedd preswyl.
Canolfan Greenland Wuhan, Wuhan, Tsieina - 2,087 troedfedd
Mae’r tŵr enfawr hwn yn cael ei adeiladu ar lannau Afon Yangtze a bydd yn cynnwys swyddfeydd, fflatiau ac ystafelloedd gwesty. Er ei fod wedi’i ailgynllunio oherwydd rheoliadau gofod awyr, fel nad yw ei uchder yn fwy na 500 metr uwchben lefel y môr, mae ei ddyluniad yn ystyried sefydlogrwydd, gyda chynllun llawr trionglog sy’n culhau’n raddol ar hyd ei uchder i amddiffyn rhag gwyntoedd dwys a digwyddiadau seismig.
Ar ben y tŵr, bydd cromen wedi’i gorchuddio’n llwyr â gwydr, a fydd yn cael ei goleuo er mwyn cael effaith ddramatig. Isod, mae’r adeilad wedi’i strwythuro gyda rhannau o loriau wedi eu gosod yn ôl, gan greu ‘slotiau’ yn y ffrâm gyffredinol i leihau effaith gwyntoedd.
Tŵr Grand Rama 9, Bangkok, Gwlad Thai - 2,018 troedfedd
Mae Tŵr Grand Rama 9, sydd i fod i gael ei gwblhau yn 2021, (a arferai gael ei alw’n Rama IX Super Tower), yn nendwr yn Bangkok, Gwlad Thai. Bwriedir iddo fod yn 125 o loriau, 615 m (2,018 troedfedd) o uchder, a dyma fydd yr adeilad uchaf yng Ngwlad Thai, record sy’n cael ei dal ar hyn o bryd gan Breswylfeydd Glan y Dŵr Magnolias, sy’n 316 m (1,037 troedfedd) o uchder.
Bydd gofod swyddfa 24 awr cyntaf Gwlad Thai ar lefelau isaf y tŵr, gyda dros 90,000 metr sgwâr o ofod. Bydd y lloriau uchaf yn westy 6 seren, gyda dec arsylwi ar gyfer ymwelwyr a thwristiaid ar frig yr adeilad. Bydd Grand Rama 9, a gynlluniwyd gan Architects 49 Cyf, yn sicrhau ardystiad lefel platinwm ar gyfer Arweinyddiaeth mewn Ynni a Dyluniad Amgylcheddol (LEED) gan Gyngor Adeiladau Gwyrdd yr UDA, ac yn eco-gyfeillgar ac yn defnyddio ynni’n effeithlon.
Tŵr 1 y Ganolfan Ariannol Fyd-eang, Shenyeng, Tsieina - 1,864 troedfedd
Disgwylir i Dŵr 1 y Ganolfan Gyllid Fyd-eang gael ei gwblhau yn 2021, a bydd yn ganolbwynt trawiadol i ardal fusnes ganolog Shenyang, sy’n adnabyddus fel dinas ddiwydiannol gyntaf y wlad, a hefyd fel cartref hynafiaid ymerawdwyr y Frenhinlin Qing. Bydd yn rhan o’r ‘Coridor Aur’, sy’n edrych dros barc ac Afon Nanyun.
Ar ben yr adeilad, bydd ‘perl’ enfawr, 50 metr o ddiamedr, a fydd yn gartref i glwb gweithredwyr egsgliwsif, a bydd swyddfeydd ar y lefelau is. Gan ei fod yn rhan o gyfadeilad, bydd pum adeilad preswyl moethus uchel yn amgylchynu’r tŵr, pob un yn codi tua 200 metr uwchben podiwm sydd hefyd yn cynnwys canolfan siopa.
Tŵr Tirnod Canolfan Skyfame, Nanning, Tsieina - 1,732 troedfedd
Y bwriad yw i’r adeilad hwn, sydd i fod i gael ei ddadorchuddio yn 2023, gyrraedd uchder o 1,732 troedfedd, gyda 72 llawr uwchben y ddaear. Mae cynlluniau’r prosiect hwn wedi bod yn arbennig o gyfrinachol, ond rydym yn gwybod y bydd yn ninas Nanning yn ne Tsieina, yn agos at ffin y wlad â Fietnam.
Daw ei enw gan y cwmni y tu ôl i’r prosiect adeiladu, Skyfame Limited, ond nid ydynt eto wedi rhyddhau unrhyw gynlluniau swyddogol na lluniau o sut olwg fydd ar yr adeilad ar ôl ei gwblhau. Yn ôl rhai o’r sïon, bydd yn adeilad arbennig o wyrdd, gan ystyried llysenw Nanning fel ‘Y Ddinas Werdd’. Mae’r ddinas yn enwog am doreth o ddeiliach isdrofannol ac am Barc y Bobl hardd yng nghanol y ddinas.
Evergrande International, Hefei, Tsieina - 1,699 troedfedd
Hwn fydd yr adeilad uchaf yn nhalaith Anhui ac un o’r adeiladau uchaf yn y byd ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu, ond mae’r gwaith adeiladu wedi’i atal ar hyn o bryd ar ôl dechrau yn 2016. Gyda thua 112 o loriau’n cynnwys swyddfeydd, eiddo preswyl ac ystafelloedd gwesty, hwn fydd y nendwr cyntaf yn Hefei, ac mae’n cael ei arwain gan y grŵp adeiladu Atkins.
Pan fydd y gwaith yn dechrau, bydd pedwar strwythur is yn amgylchynu’r tŵr canolog, a’r pump yn rhai siâp bambŵ. Dywedodd KY Cheung, cyfarwyddwr dylunio prosiect Atkins: "Ysbrydolwyd ein cysyniad dylunio gan fambŵ, sy’n cynrychioli ffyniant a chryfder yn ôl diwylliant Tsieineaidd."
Central Park Tower, Dinas Efrog Newydd, UDA - 1,550 o droedfeddi
Bydd yr adeilad preswyl moethus hwn ar Res y Biliwnyddion ar 57th Street yn Midtown Manhattan, a dyma fydd yr ail nendwr uchaf yn yr Unol Daleithiau unwaith y bydd wedi’i gwblhau tua diwedd 2020 / dechrau 2021.
Yn ogystal â mannau byw o’r safon uchaf, bydd y pedwerydd llawr yn cynnwys y ‘Central Park Club’ gyda lolfa, theatr, ystafell gynadledda, ardal chwarae a lolfa i blant hŷn. Mae’r gwaith adeiladu wedi cynnwys defnyddio deunyddiau drud ar gyfer y tu mewn, fel lloriau derw gwyn a dodrefn wedi’u gwneud yn arbennig. Ar saith llawr gwaelod y tŵr bydd siop adrannol Nordstrom, a dyna pam mae rhai yn cyfeirio at y tŵr fel ‘Tŵr Nordstrom’.
Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i weithio ym maes adeiladu?
Drwy ddilyn gyrfa ym maes adeiladu, gallech fod yn rhan o brosiectau fel y rhain. Mae angen amrywiaeth o bobl i gwblhau pob prosiect adeiladu, o weithwyr llaw i beirianwyr a thrydanwyr.
Ddim yn siŵr pa opsiynau sydd gennych? Gallwn eich helpu drwy roi rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a phrentisiaethau. Neu, beth am edrych drwy restr A i Y o yrfaoedd ym maes adeiladu? Mae gennym hyd yn oed gwis i’ch helpu i ddod o hyd i’r rolau sydd fwyaf addas i chi ar sail eich diddordebau, eich sgiliau a’ch cymwysterau.
Cysylltwch â ni ar ein cyfryngau cymdeithasol os oes gennych unrhyw ymholiadau:
Instagram - @goconstructuk
Facebook - @GoConstructUK
Twitter - @GoConstructUK