Waeth pa ganlyniadau a dderbyniwyd gennych, bydd cyfle gwych yn y diwydiant adeiladu yn aros amdanoch.

Amcangyfrifir y bydd 45,000 o bobl yn ymuno â'r diwydiant adeiladu bob blwyddyn rhwng nawr a 2027. Gallech chi fod yn un o'r bobl hynny, felly dechreuwch eich chwiliad am gyfle nawr gydag Am Adeiladu. Isod mae ambell syniad i'ch rhoi ar ben y ffordd:

1. Cwis Personoliaeth

Os nad ydych chi’n gwybod beth rydych chi eisiau ei wneud nesaf, peidiwch â mynd i banig – mae llawer o bobl o’ch oedran chi yn yr un cwch.

Yr hyn rwy’n ei hoffi am adeiladu yw bod rolau a gyrfaoedd sy’n addas i sgiliau a diddordebau pawb – o Osod Brics i Bensaernïaeth!

Gall y Cwis Personoliaeth helpu i ddiffinio beth sy’n iawn i chi. Bydd yn dangos y gwahanol rannau o’r diwydiant a’r swyddi sy’n gweddu orau i chi. Ar ôl i chi gael canlyniadau eich cwis, gallwch edrych ar bob rôl yn fanylach. 

2. Chwilotwr Gyrfa

Mae llu o bethau y gallwch eu gwneud yn y diwydiant adeiladu, yn dibynnu ar beth yw eich cymwysterau.

Er enghraifft, fe wnaethoch chi dderbyn canlyniadau gwych mewn gwyddoniaeth, gallech chi feddwl am beirianneg sifil (adeiladu ffyrdd, pontydd ac adeiladau mawr fel y Shard), hyd yn oed gwaith amgylcheddol. Efallai y bydd mathemateg yn mynd â chi ar hyd y trywydd i fod yn syrfëwr meintiau. Os gwnaethoch fwynhau astudiaethau busnes, yna efallai mai gyrfa mewn rheoli neu gynllunio prosiect fyddai'r peth i chi.

Mae’r drysau’n agor i’r gwahanol lwybrau hynny, a llawer o rai eraill, yn dibynnu ar eich cymwysterau. Bydd yr adnodd Chwilotwr Gyrfa yn edrych ar eich canlyniadau ac yn eu cyfateb â rhai o’r gyrfaoedd gwych sydd ar gael ym maes adeiladu. 

3. Nawdd

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes adeiladu ond eisiau mynd ymlaen i gael gradd, yna gallai nawdd fod ar gael i chi.

Yn hytrach na thalu dros eich hun i fynd i brifysgol, gallech ddod o hyd i gyflogwr a fydd yn talu am eich ffioedd a'ch llyfrau tra'n talu cyflog da i chi ac yn rhoi'r profiad gwaith sydd ei angen arnoch.

Bydd cwmnïau adeiladu eisiau clywed gennych chi. Maen nhw eisiau hyfforddi a gweithio gyda chi drwy eich gradd ac mae llawer o gynlluniau nawdd a chynlluniau i raddedigion i’w hystyried.

Edrychwch ar yr enghraifft hon gan Laura, a aeth ati i gyfuno gradd â swydd yn Seddon.

4. Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn dal i fod yn un o’r ffyrdd gorau o gamu drwy’r drws, ac fe ddewch chi ar draws llawer o bobl a ddechreuodd fel hyn yn y diwydiant.

Defnyddiwch y Prawf Personoliaeth a’r Chwilotwr Gyrfa i weld pa fath o brentisiaeth allai fod yn addas i chi. Mae ein hastudiaethau achos ‘diwrnod ym mywyd’ a’n sianel YouTube hefyd yn rhoi sylw i brentisiaid sy’n siarad am eu swyddi.

Mae gan y Gwasanaeth Prentisiaethau Cenedlaethol swyddi gwag ym maes adeiladu ar eu gwefan. Dylech hefyd edrych ar golegau lleol, canolfannau gwaith, Ymddiriedolaeth y Tywysog, cwmnïau adeiladu mawr a chwmnïau lleol llai i weld a oes ganddynt swyddi gwag.

Cysylltwch â JTL, BEST neu Summit Skills os ydych chi’n chwilio am brentisiaethau trydanol neu blymio.

5. Paratowch

Ar ôl i chi benderfynu beth rydych chi am ei wneud ym maes adeiladu, dechreuwch gysylltu â chwmnïau a rhoi gwybod iddyn nhw ble rydych chi, beth rydych chi am ei wneud a pha mor wych fyddech chi fel gweithiwr.

Gallwch gael rhestr o gyflogwyr yn eich ardal chi’n gyflym drwy ddefnyddio Google, ond gwnewch yn siŵr bod eich CV yn barod rhag ofn bod ganddynt swydd wag! Dydych chi ddim eisiau gwneud i’ch darpar fos newydd aros tra byddwch chi’n ysgrifennu un.

Peidiwch â bod ofn danfon eich CV yn bersonol os yw’r cwmni’n agos atoch chi. Bydd cyflogwyr eisiau cyfarfod â’r person y tu ôl i’r CV. Byddan nhw’n meddwl, “Alla i weithio gyda’r person yma? Alla i ymddiried ynot ti ac alla i dy hyfforddi?”

Tarwch olwg ar yr awgrymiadau hyn ar sut i ysgrifennu CVs, llenwi ffurflenni cais a sut i greu argraff ar bobl mewn cyfweliad am swydd. 

Paratowch eich hun, byddwch yn barod a bydd gennych siawns llawer gwell o gael yr hyn rydych chi ei eisiau. 

Pob lwc!