Facebook Pixel

Pam ddylech chi wneud prentisiaeth?

Table with stationary equipment for apprenticeship study

Os ydych chi ar fin gadael yr ysgol a ddim yn siŵr beth fydd eich cam nesaf, prentisiaeth yw un o’r dewisiadau fydd gennych chi. Mae nifer o resymau da dros ymgymryd â phrentisiaeth, a byddwn ni’n tynnu sylw at y rhain isod.

Dechrau eich gyrfa yn syth o’r ysgol

Un o’r pethau mae prentisiaid yn dweud maen nhw’n ei hoffi fwyaf yw nad oedden nhw’n gwastraffu amser yn dechrau eu gyrfa cyn gynted ag y byddan nhw’n gadael yr ysgol. Er bod rhai pobl sy’n gadael yr ysgol yn dewis mynd i’r coleg neu’r brifysgol, mae prentisiaid yn teimlo eu bod yn cael eu gwobrwyo drwy gael dechrau da mewn diwydiant y mae ganddynt ddiddordeb ynddo. Gallwch chi wneud cais am brentisiaeth tra byddwch chi’n dal yn yr ysgol, ond mae angen i chi fod dros 16 oed pan fyddwch chi’n dechrau’r brentisiaeth.

Ennill cyflog wrth ddysgu

Mae’n bosibl mai dyma’r darn gorau. Er eich bod chi’n treulio 20% o’ch amser ar brentisiaeth yn astudio, rydych yn cael cyflog rhesymol. Mae’n rhaid i brentisiaid gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol os ydych chi rhwng 16 a 23 oed, a’r Cyflog Byw Cenedlaethol os ydych chi dros 23 oed. Mae gennych hawl i wyliau â thâl, absenoldeb salwch a buddion eraill, a gall rhai prentisiaid gael cyflogau o hyd at £20,000. Bydd eich cyflog chi’n dibynnu ar lefel eich prentisiaeth, y lleoliad a’r diwydiant rydych chi’n gweithio ynddo.

Cael hyfforddiant ymarferol mewn swydd

O’r diwrnod cyntaf, byddwch chi’n cael profiad ymarferol yn y swydd o’ch dewis, ac yn cael eich hyfforddi ar sut i’w wneud ar yr un pryd. Un o’r ffyrdd gorau o ddysgu yw drwy roi’r hyn rydych chi’n ei ddysgu ar waith ar unwaith yn y byd go iawn, a dyna rydych chi’n ei wneud mewn prentisiaeth. Mae prentisiaid yn mwynhau defnyddio’r hyn maen nhw’n ei ddysgu yn y gweithle, a gwneud gwahaniaeth i’w cyflogwyr. Mae’n rhoi gwir ymdeimlad o falchder a chyflawniad i brentisiaid.

Rhagor o wybodaeth am fanteision prentisiaeth adeiladu.

Astudio heb fynd i ddyled

Mae dewis mynd i’r brifysgol neu ddechrau prentisiaeth yn aml yn broblem allweddol i bobl ifanc, yn enwedig os ydyn nhw ar fin sefyll eu harholiadau Safon Uwch. Mae manteision i’r ddau, ac mae cyflogwyr yn parchu’r ddau lwybr. Efallai mai’r gwahaniaeth mwyaf rhwng prifysgol a phrentisiaeth yw’r ffaith bod yn rhaid i fyfyrwyr dalu ffioedd dysgu o hyd at £9,250 y flwyddyn, a fydd yn arwain at ddyledion o bron i £30,000 erbyn graddio ar gyfer cwrs gradd tair blynedd.

Fel y soniwyd, mae prentisiaethau’n swyddi â thâl heb ffioedd. Bydd rhai prentisiaethau’n cynnwys mwy o amser gyda darparwr hyfforddiant, coleg neu brifysgol, ond ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd i elwa o hyn.

Dysgu sgiliau allweddol ar gyfer eich gyrfa

Gallwch chi ddechrau eich prentisiaeth ar yr hyn a elwir yn ‘lefel mynediad’, ond erbyn y diwedd byddwch chi wedi dysgu ystod eang o sgiliau ac wedi ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol. O'i gymharu â phobl sydd wedi mynd i'r brifysgol ac sy'n canolbwyntio ar astudiaethau academaidd (ond efallai eu bod yn dal yn ansicr pa swydd maen nhw am ei gwneud), bydd gennych chi brofiad ymarferol o swydd dros sawl blwyddyn, yn barod i gymryd y cam nesaf hwnnw yn yr yrfa o’ch dewis, gwneud cais am swyddi neu ddod yn gymwys yn eich crefft. Byddwch chi hefyd yn dysgu sgiliau bywyd pwysig, fel cadw amser a gwneud penderfyniadau.

Mae prentisiaeth yn rhoi’r adnoddau i chi adeiladu eich gyrfa a’ch bywyd.

Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau

Os ydych chi’n meddwl bod prentisiaeth yn addas i chi, dysgwch am y gwahanol lefelau, y gofynion mynediad, pa swyddi prentisiaeth sydd ar gael ym maes adeiladu a sut mae gwneud cais.

Dyluniwyd y wefan gan S8080