Sylw i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBTQ+) ar safleoedd: dod allan yn y diwydiant adeiladu

Yn ystod Mis Hanes LGBTQ+, rydyn ni’n dysgu sut beth yw dod allan yn y diwydiant adeiladu. Mae’r arweinydd a’r actifydd, Christina Riley, Uwch Gynllunydd yn Kier Group, yn sgwrsio â ni am ei phrofiadau.

Thema Mis Hanes LGBTQ+ eleni yw heddwch, actifiaeth a chymodi, a byddwn yn ymchwilio i’r rhain yn ein cyfres 3 rhan.

Gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y diwydiant adeiladu, mae taith bersonol Christina Riley wedi cyffwrdd â’r tri.

Mae mannau diogel ar gael i bobl sydd angen siarad. Rydyn ni’n symud i’r cyfeiriad iawn.


Actifiaeth

Ers dod allan yn 2014, mae Christina wedi bwrw ati i ymgyrchu dros gydraddoldeb a chynhwysiant i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn y gweithle, gyda chefnogaeth Kier.

“Doeddwn i erioed wedi disgwyl bod yn fodel rôl, ond rydw i wedi cynnal dros 50 o sgyrsiau â gwahanol gwmnïau am faterion LGBTQ+,” meddai.

“Rwy’n is-gadeirydd y Pwyllgor Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol a’u Cyfeillion yn Kier ac rwy’n aelod o bwyllgor gwaith Adeiladu Cydraddoldeb, cynghrair o rwydweithiau LGBT cwmnïau, sy’n ysgogi cynhwysiant ym maes adeiladu.”

“Fe wnaethon ni ei sefydlu yn 2015 gyda 4 cwmni ac erbyn hyn rydyn ni wedi tyfu i 25 – sy’n dangos bod y diwydiant adeiladu’n newid. Mae’n wych gweld gweithwyr adeiladu yn gorymdeithio â Kier ac Adeiladu Cydraddoldeb mewn digwyddiadau Balchder ledled y wlad.”

Mae actifiaeth Christina yn sicr wedi cael ei gydnabod. Fe’i rhestrwyd yn rhif 7 yng ngwobrau Outstanding 50 LGBT+ Future Leaders 2018 y Financial Times, yr unig aelod o’r sector adeiladu a wobrwywyd; ac enillodd y Wobr Seren y Dyfodol Corfforaethol yng Ngwobrau Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol Prydain yn 2017.

“Mae pobl ym maes adeiladu yn meddwl am faterion LGBTQ+ nawr. Mae yna rwydweithiau a grwpiau cefnogi, a llefydd diogel i bobl sydd angen siarad. Rydyn ni’n symud i’r cyfeiriad iawn.”

Cadwch lygad am wybodaeth LGBTQ+, ar y safle: Cymodi, y rhan nesaf yn ein cyfres fer LGBTQ+.

Sylw i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) ar safleoedd: Actifiaeth
Sylw i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) ar safleoedd: Actifiaeth

Cael cymorth

Dywedodd Christina ei bod hi’n haws nag erioed i gael cymorth yn y sector.

“Dewch draw i ddigwyddiadau rhwydwaith LGBTQ+, oherwydd mae digon yn digwydd ac maen nhw’n fannau diogel i bobl LGBTQ+ yn ein diwydiant. Mae gan rai crefftau a phroffesiynau eu grwpiau eu hunain hefyd, fel InterEngineering ar gyfer peirianwyr. Mae llawer o gyngor ar gael a llawer o bobl sy’n gallu cynnig cymorth.”

Cael ysbrydoliaeth

Cyfres fer LGBTQ+:

Darllenwch am hanes LGBTQ+ yn yr amgylchedd adeiledig.

Tarwch olwg ar ein cyfranwyr #TakeoverTuesday gwych ar Instagram sy’n cynnig cipolwg ar eu diwrnod gwaith, gan gynnwys Christina!