Ynghylch Go Construct
Mae gwefan Am Adeiladu yn arddangos yr holl gyfleoedd gyrfaol sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu a'r amgylchedd adeiledig. Mae'r safle yn helpu i ddiwallu anghenion sgiliau'r diwydiant yn y dyfodol a recriwtio gweithlu amrywiol sy'n barod am her y dyfodol. Ei nod yw:
Ysbrydoli
Ysbrydoli pobl i ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu
Darganfod
Darganfod sut beth yw gyrfa yn y diwydiant adeiladu mewn gwirionedd
Profi
Cyfle i bobl gael profiad o'r diwydiant adeiladu
Dyluniwyd gan y sector
Mae Am Adeiladu wedi'i ddatblygu o'r cychwyn cyntaf drwy broses o gydgynllunio ac ymgynghori parhaus. Mae ein partneriaid yn cydweithio er mwyn annog pobl o bob cefndir i ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu.
Gweld y rhestr lawn o bartneriaidYn eiddo i'r diwydiant
Mae Am Adeiladu wedi'i ariannu drwy Lefi CITB, sy'n golygu bod y diwydiant cyfan wedi cyfrannu at ei lwyddiant ac yn berchen ar y gwasanaeth - ymgyrch gan y diwydiant, ar gyfer y diwydiant, yw Am Adeiladu.
Gwybodaeth am sut y gallwch fod yn rhan ohonoCyflogwr
- Hyrwyddo'r sector drwy ddefnyddio adnoddau Am Adeiladu
- Cynnig profiad o'r diwydiant i bobl sy'n chwilio am yrfa
- Recriwtio talent newydd i'ch busnes
Rhywun sy'n chwilio am swydd
- Dysgu am y diwydiant
- Darganfod pa lwybrau gyrfa y gallech eu dilyn
- Dod o hyd i brofiad yn y diwydiant adeiladu er mwyn gweld a yw'n addas i chi
- Gwneud cais am eich swydd gyntaf yn y sector
Gweithiwr proffesiynol ym maes gyrfaoedd neu addysg
- Eich helpu i roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd
- Gwella gwybodaeth, cyngor ac arweiniad drwy ddefnyddio adnoddau