Facebook Pixel

Sut I Gofrestru Ar Gyfer Skillbuild

Yma fe welwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am y broses gofrestru er mwyn cymryd rhan yng nghystadleuaeth SkillBuild eleni.



Mae cofrestru i gystadlu yn eich Ragbrawf Ranbarthol agosaf fel arfer yn digwydd rhwng mis Chwefror a mis Ebrill bob blwyddyn. Gall prentisiaid a dysgwyr amser llawn gofrestru ar eu rhan eu hunain neu gall diwtoriaid a chyflogwyr gofrestru hefyd.

I gofrestru ar gyfer Rhagbrawf Rhanbarthol SkillBuild, rhaid i'r cystadleuwyr fod o leiaf 16 mlwydd oed ar 1 o Fedi y flwyddyn flaenorol a hefyd yn bodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:

  • Mae'r cystadleuydd yn gyflogedig yn y diwydiant adeiladu yn y DU ac wedi cwblhau cymhwyster DU perthnasol yn y 12 mis diwethaf
  • Mae'r cystadleuydd yn astudio tuag at gymhwyster perthnasol yn y DU, gan gynnwys lefelau T
  • Mae'r cystadleuydd yn gweithio tuag at brentisiaeth mewn crefft berthnasol yn y DU

I lenwi ffurflen gofrestru i gystadlu bydd angen i chi gael y wybodaeth isod wrth law:

  • Manylion cyswllt
  • Manylion pwynt cyswllt e.e. tiwtor coleg neu gyflogwr a manylion cyswllt brys, rhiant neu warcheidwad fel arfer
  • Manylion unrhyw anableddau, cyflyrau meddygol, gofynion dietegol a/neu anghenion ychwanegol
  • Gofynnir i gofrestreion ddewis lleoliad dewis cyntaf ac ail. Sylwch, nid yw dewis lleoliad a ffefrir yn gwarantu lle yn y lleoliad hwnnw, bydd y rhain yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost i roi gwybod i chi beth yw lleoliad terfynol y rhagras a darparu mwy o wybodaeth am eich Rhagbrawf Rhanbarthol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin (FAQ’s) neu cysylltwch ag aelod o'r tîm yn SkillBuild@citb.co.uk.

Dyluniwyd y wefan gan S8080