Facebook Pixel

Sut i ysgrifennu CV ar gyfer prentisiaeth?

Person on a computer about to write CV for an apprenticeship

Os ydych chi’n chwilio am brentisiaeth adeiladu, dylai cael CV amlwg sy’n adlewyrchu eich sgiliau a’ch cymwysterau yn gywir fod yn brif flaenoriaeth i chi.

Pam mae angen CV prentisiaeth arna i?

Mae CV yn bwysig oherwydd bydd yn rhoi argraff gyntaf i ddarpar gyflogwyr ohonoch chi ar sail eich addysg, eich profiad gwaith, eich sgiliau, eich hobïau a’ch cyflawniadau. CV, neu curriculum vitae, yw eich ffenestr siop i bob pwrpas.

Pethau i’w cynnwys ar eich CV prentisiaeth

Nid oes un dull sy’n addas i bawb wrth strwythuro CV prentisiaeth da, ond mae rhywfaint o wybodaeth y dylai pob CV ei chynnwys.

Mae rhywfaint o wybodaeth sylfaenol y mae pob cyflogwr am ei gweld ar CV, fel manylion cyswllt a chanolwyr, ac er bod y rhan fwyaf o CVs yn cynnwys yr un math o wybodaeth, gall y ffordd y caiff ei gyflwyno a'i drefnu wneud byd o wahaniaeth.

Strwythur a fformat eich CV

Dyma strwythur enghreifftiol sy’n cofnodi’r holl wybodaeth y mae cyflogwyr ei heisiau, ac sy’n addas ar gyfer pobl â phob lefel o brofiad ac addysg.

Manylion cyswllt

Dylai eich enw fod ar frig y ddogfen – does dim angen i chi ysgrifennu ‘CV’ na ‘curriculum vitae’. O dan hynny, dylech gynnwys:

  • Eich cyfeiriad llawn a’ch cod post
  • Rhif llinell dir neu ffôn symudol – pa un bynnag rydych chi’n fwyaf tebygol o fod ar gael arni yn ystod diwrnod gwaith
  • Cyfeiriad e-bost – gwnewch yn siŵr eich bod yn ei gadw’n broffesiynol

Does dim angen i chi gynnwys manylion eraill fel eich oed, eich statws priodasol, eich dyddiad geni, eich cenedligrwydd ac ati. Gallwch gynnwys dolen i'ch proffil ar safle cyfryngau cymdeithasol proffesiynol fel LinkedIn, os oes gennych un.

Datganiad personol

Nid yw datganiad personol yn hanfodol, ond mae'n ffordd dda o gyflwyno pwy ydych chi, eich nodau yn eich gyrfa a nodweddion allweddol. Mae’n ddatganiad byr sy’n ceisio profi pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd, gan eich helpu i sefyll allan.       

Ei bwrpas yw dweud wrth y cyflogwr yn gryno pa brofiad sydd gennych chi neu beth yw eich swydd bresennol, beth sydd o ddiddordeb i chi am y brentisiaeth a beth yw eich nodau proffesiynol. Cadwch y brawddegau’n fyr gyda dwy neu dair brawddeg.

Dyma rai awgrymiadau ar sut i ysgrifennu datganiad personol ar gyfer CV.

Addysg

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, efallai y byddwch am roi eich hanes gwaith nesaf – os yw eich profiad gwaith yn gyfyngedig neu nad ydych chi wedi cael profiad gwaith, nodwch eich addysg yma.

Yn yr adran hon bydd angen i chi gynnwys y canlynol gan nodi’r rhai diweddaraf yn gyntaf:

  • Enwau a graddau eich cymwysterau
  • Yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol lle buoch chi’n astudio
  • Y dyddiadau y buoch chi’n astudio yno

Mae gan y rhan fwyaf o brentisiaethau ofynion addysgol penodol, fel nifer penodol o gymwysterau a enillwyd neu rai mewn pwnc penodol. Os oes angen cymhwyster mewn pwnc penodol ar gyfer y brentisiaeth a bod gennych chi gymhwyster lefel uwch ynddo, cofiwch sôn amdano. Gallai hyn roi mantais i chi dros ymgeiswyr eraill.

Os gwnaethoch chi gwblhau lleoliad gwaith, hyfforddeiaeth, profiad gwaith, ac ati, byddai’n well nodi hyn o dan hanes gwaith.

Hanes gwaith

Hyd yn oed os nad oes gennych chi unrhyw brofiad sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r maes o’ch dewis, cofiwch sôn am unrhyw brofiad sydd gennych chi. Gallai hyn gynnwys gwaith rhan-amser, rhaglenni profiad gwaith mewn ysgolion, gwaith gwirfoddol ac unrhyw brentisiaethau rydych chi wedi’u gwneud yn barod.

Amlinellwch eich cyfrifoldebau a hyd eich profiadau. Bydd angen i chi roi manylion am y canlynol:

  • Y cyflogwr, gan nodi’r un diweddaraf yn gyntaf
  • Teitl y swydd
  • Y dyddiadau y buoch chi’n gweithio yno
  • Amlinelliad byr o’r hyn a wnaethoch chi

Wrth drafod eich cryfderau a'ch sgiliau, defnyddiwch eiriau gweithredol fel 'trefnwyd', 'adeiladwyd', 'crewyd', 'rheolwyd', neu 'cynlluniwyd'.

Yn hytrach na rhestru eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau yn unig, mae rhoi enghreifftiau cadarnhaol o'r hyn a gyflawnoch yn ffordd wych o gyfeirio ar eich rhinweddau y mae'r cyflogwr yn chwilio amdanynt. Mae’r dull STAR yn ffordd dda o wneud hyn:

  • Sefyllfa – Eich rôl mewn lleoliad gwaith blaenorol
  • Tasg– Amser y bu’n rhaid i chi ddefnyddio’ch rhinweddau i gwblhau tasg benodol neu ddatrys problem.  Ystyriwch sut mae hyn yn berthnasol i rinwedd benodol yn y swydd rydych chi’n ceisio amdani
  • Gweithred (Action) – Sut wnaethoch chi gwblhau’r dasg hon? Defnyddiwch enghreifftiau penodol
  • Canlyniad (Result)– Beth oedd canlyniad eich gweithred, a sut y cyfrannodd at lwyddiant?

Hobïau, diddordebau neu gyflawniadau

Nid yw’r adran hon yn hanfodol, felly os byddwch chi’n ei chynnwys, dylech ei chadw’n gryno. Mae’n lle da i gynnwys llwyddiannau nad ydynt yn gysylltiedig â gwaith neu addysg, fel rhedeg marathon, ennill gwobr, dringo mynydd, ac ati.

Pa sgiliau ddylech chi eu cynnwys ar CV prentisiaeth?

Mae rhai CVs yn cynnwys adran ar wahân sy’n rhestru sgiliau ymgeiswyr. Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, does dim angen cynnwys hyn gan y byddwch chi wedi sôn am eich holl sgiliau yn yr adrannau eraill. Fodd bynnag, gall fod yn ffordd ddefnyddiol o dynnu sylw at sgiliau os oes gennych brofiad arbennig mewn maes penodol.

Mae’n well defnyddio sgiliau penodol, fel pecynnau meddalwedd rydych chi’n hyfedrus ynddynt, yn hytrach na thermau cyffredinol fel sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm ac amldasgio. 

Geirdaon

Bydd cyflogwyr yn gofyn am eirdaon os byddant yn cynnig y swydd i chi. Fel arfer, byddan nhw’n gofyn am ddau ganolwr, a dylai eich cyflogwr diwethaf fod yn un ohonynt. Os nad ydych wedi cael swydd o'r blaen, gallwch ofyn i gyflogwr rydych wedi gwneud profiad gwaith gyda nhw, athro neu athrawes neu unrhyw un sy'n eich adnabod nad ydynt yn aelod o'ch teulu. Mae’n helpu os ydynt yn cael eu cyflogi neu’n gweithio mewn proffesiwn neu ddiwydiant.

Rhagor o wybodaeth

Rydych chi wedi ysgrifennu CV gwych – beth nesaf? 

Mae angen llythyr eglurhaol ochr yn ochr â’ch CV ar gyfer llawer o geisiadau am brentisiaethau – a hyd yn oed os nad ydynt, mae’n arfer da cynnwys un.

Os ydych chi wedi llwyddo i gael cyfweliad prentisiaeth – da iawn chi! Darllenwch ein cynghorion a’n hawgrymiadau ar gyfer cyfweliadau.

Dyluniwyd y wefan gan S8080