Facebook Pixel

Prentisiaethau yn yr Alban

Mae prentisiaethau yn yr Alban yn wahanol i brentisiaethau yng Nghymru a Lloegr, ond yr un yw’r egwyddorion sylfaenol. Gall pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol, myfyrwyr sy’n dal yn yr ysgol neu raddedigion sydd eisoes mewn swyddi amser llawn ennill sgiliau proffesiynol gyda chyflogwyr a datblygu eu gyrfaoedd drwy gyfuniad o ddysgu ymarferol ac academaidd, gan ennill cyflog ar yr un pryd.

Sut mae prentisiaethau’n wahanol yn yr Alban?

Skills Development Scotland sy’n gweinyddu prentisiaethau’r Alban ac mae rhai gwahaniaethau rhyngddynt â’r prentisiaethau sydd ar gael yng ngweddill y DU. Mae tair lefel o brentisiaeth – Prentisiaeth Sylfaen, Prnetisiaeth Fodern a Phrentisiaeth Raddedig. Y gwahaniaeth mwyaf arwyddocaol yw y gall myfyrwyr yn yr Alban ddechrau prentisiaeth tra’u bod yn dal yn yr ysgol.

Pa mor hir yw prentisiaeth yn yr Alban?

Mae’r amser y mae’n cymryd i gwblhau prentisiaethau yn amrywio yn ôl y tair lefel o brentisiaethau. Mae’n cymryd hyd at ddwy flynedd i gwblhau prentisiaeth sylfaen fel rhan o ddwy flynedd olaf addysg myfyriwr.

Gall gymryd hyd at dair blynedd i gwblhau Prentisiaeth Fodern, ac mae Prentisiaeth Raddedig yn cymryd tair i bum mlynedd, yn dibynnu ar hyd eich cwrs gradd.

Pa fathau o brentisiaethau sydd yna yn yr Alban?

Enw

Lefel addysg Awdurdod Cymwysterau'r Alban

Prentisiaethau Sylfaen

Cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 4/5 neu Lefel Uwch 6

Prentisiaethau Modern

Prentisiaeth Uwch 6, Uwch Brentisiaeth 7, Dyfarniadau, Bagloriaeth yr Alban

Prentisiaethau Graddedig

Dyfarniadau Datblygiad Proffesiynol 9-11

Prentisiaethau Sylfaen

Mae Prentisiaethau Sylfaen yn helpu myfyrwyr sy’n dal yn yr ysgol i gael profiad yn y diwydiant. Maen nhw ar gyfer myfyrwyr yn S5 neu S6 sydd am fod ar y droed flaen pan fyddant yn gadael yr ysgol, neu eisiau gweld pa yrfa maen nhw’n ei mwynhau fwyaf. Nid oes tâl i’r rhai sy’n cwblhau Prentisiaethau Sylfaen – maen nhw’n cynnig dysgu yn y gwaith i fyfyrwyr, ond maen nhw’n cael eu dilyn ochr yn ochr â chyrsiau Safon 5 Cenedlaethol ac Uwch. Mae Prentisiaeth Sylfaen yn gymhwyster cydnabyddedig sy’n gallu cefnogi cais am Brentisiaeth Fodern neu Radd-brentisiaeth.

Mae deuddeg o bynciau ar gael ar SCQF lefel 6, gan gynnwys Cyfrifeg, Peirianneg Sifil, Gwasanaethau Ariannol, Cyfryngau Creadigol a Digidol a Thechnolegau Gwyddonol. Mae tri phwnc ar gael ar lefel 4/5: Modurol, Adeiladu a Lletygarwch.

Prentisiaethau Modern

Mae Prentisiaethau Modern ar gyfer pobl sy’n gadael yr ysgol neu’r rheini sy’n 16 oed neu’n hŷn, a’u bwriad yw eich helpu i ennill sgiliau, profiad a chymwysterau yn y diwydiant o’ch dewis. Mae Prentisiaethau Modern yn cynnig cyflog ac mae dros 100 o Brentisiaethau Modern ar gael. Ewch ati i chwilio heddiw!

Byddai disgwyl i ymgeiswyr am swyddi Prentisiaeth Fodern fod wedi pasio 5 gradd Genedlaethol ar lefel C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg, yn ogystal â phynciau penodol sy'n gysylltiedig â'r swydd. Mae Prentisiaethau Modern Adeiladu yn cynnwys swyddi peirianneg sifil, plymio a gwresogi, iechyd a diogelwch ac arolygu adeiladau.

Prentisiaethau Graddedig

Mae Prentisiaethau Graddedig ar gyfer pobl 16 oed neu hŷn a fydd yn gallu cyfuno gweithio i gyflogwr a chael cyflog wrth astudio ar gyfer cymhwyster lefel gradd.

Mae gofynion mynediad Prentisiaeth Raddedig yn debyg i'r gofynion ar gyfer gradd israddedig, a bydd yn amrywio yn ôl y cwrs a’r sefydliad. Fodd bynnag, bydd angen i chi fod yn byw yn yr Alban er mwyn gwneud cais, a bod gennych yr hawl i fyw a gweithio yn yr Alban hefyd. Byddai hefyd yn ddymunol pe baech chi wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen yn barod.

Mae cyfleoedd Prentisiaethau Graddedig ar gael mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau, o Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig i Wyddorau Data a Pheirianneg.

Sut mae gwneud cais am brentisiaeth yn yr Alban?

Os ydych chi’n meddwl bod prentisiaeth yn addas i chi, a’ch bod yn byw yn yr Alban, ewch i wefan Apprenticeships.scot i gael rhagor o fanylion am y gwahanol lefelau o brentisiaethau, y gofynion mynediad, astudiaethau achos ac i chwilio am swyddi gwag.

Dyluniwyd y wefan gan S8080