Facebook Pixel

Dulliau Adeiladu Modern

Mae dulliau adeiladu modern – a elwir hefyd yn MMC neu ‘adeiladu clyfar’ – yn ffordd gyflym o ddarparu adeiladau newydd, drwy wneud y mwyaf o effeithlonrwydd deunyddiau ac adnoddau dynol.

Ynghyd â diwydiannau eraill, mae adeiladu wedi gweld nifer o ddatblygiadau arloesol dros y blynyddoedd diwethaf, â dulliau newydd yn cael eu datblygu, eu gwella a’u haddasu’n barhaus i ddiwallu anghenion yr 21ain ganrif o ran canliadwyedd ac effeithlonrwydd.

Yn yr erthygl hon, rydyn ni’n edrych yn fanylach i ddysgu mwy am y ffordd hon o weithio ac i weld sut mae’n wahanol i ddulliau adeiladu ‘brics a morter’ traddodiadol.

Beth yw dulliau adeiladu modern?

Mae dulliau modern yn broses sy’n canolbwyntio ar dechnegau adeiladu oddi ar y safle, megis masgynhyrchu a chydosod yn y ffatri, yn lle adeiladu traddodiadol.

Disgrifiwyd y broses fel ffordd ‘…i gynhyrchu mwy o gartrefi o ansawdd gwell mewn llai o amser.’ Yn hanesyddol, fe’i crëwyd i gwrdd â galw brys am adeiladau preswyl ar ôl yr Ail Ryfel Byd a daeth y dull yn boblogaidd eto yn ystod yr argyfwng tai yn 2005.

Gellir defnyddio dulliau adeiladu modern i greu cartrefi cyfan gan ddefnyddio modiwlau a adeiladwyd mewn ffatri neu gellir eu defnydido i gyflymu technegau penodol, trwy brosesau arloesol o weithio.

Gellir dadlau bod y dull hwn yn darparu buddion trwy gyflymu’r broses gyflenwi, lleihau costau llafur, dileu gwastraff diangen a gwella ansawdd.

Mae dulliau adeiladu modern wedi’u gweld fel ffordd o helpu datrys argyfwng tai’r DU oherwydd, yn ôl adroddiadau, mae’r ‘…potensial ar gyfer gwelliant o 30% yng nghyflymder adeiladu cartrefi newydd drwy fabwysiadu arloesedd, â gostyngiad posibl o 25% mewn costau, yn ogystal â’r potensial ar gyfer datblygiadau o ran gwella ansawdd ac effeithlonrwydd ynni.’*

Mae dulliau adeiladu modern yn defnyddio arferion arloesol fel:

  • Creu unedau panelog mewn ffatrïoedd, y gellir eu cydosod yn gyflym ar y safle i greu strwythurau 3D.
  • Adeiladwaith cyfeintiol, sy’n gweld unedau 3D, neu rai parod (pre-fab), yn cael eu creu o dan amodau ffatri.
  • Sylfeini concrit wedi’u rhag-gastio a ffrâm gwifriau wedi’u ffurfio ymlaen llaw.
  • Casetiau llawr a tho (paneli) parod.
  • Gwaith bloc ar ffurf twnnel neu ag uniadau-tenau.

Pa heriau sy’n wynebu dulliau modern o adeiladu?

Mae’r defnydd o ddulliau adeiladu modern o fewn y diwydiant wedi’i ystyried yn wael, oherwydd newidiadau rheoleiddio, diffyg hyfforddiant ac ardystiad annigonol. Mae cyflogwyr wedi cael anhawster i recriwtio gweithwyr â’r sgiliau angenrheidiol – prinder a allai gael ei waethygu gan faterion fel pandemig COVID-19 a Brexit.

Bu beirniadaeth hefyd o’r broses yn y DU gan fod llawer o’r deunyddiau a’r systemau parod a ddefnyddir mewn dulliau modern o adeiladu yn cael eu mewnforio, ac felly gallent danseilio gweithgynhyrchu ym Mhrydain.

Yn gyffredinol, mae’r awydd am dai parody n y DU yn isel, efallai gan fod tai ‘pre-fab’ yn gyfystyr ag adeiladau o ansawdd isel a grëwyd yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel.

Mae llawer o gartrefi parod yn defnyddio pren. Er bod y deunydd cynaliadwy hwn yn aml yn fwy ecogyfeillgar, gall risgiau diogelwch tân cynyddol adeilad ffrâm bren hefyd atal pobl rhag eisiau cartrefi a grëwyd gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern.

Pa ddulliau adeiladu modern sydd wedi bod yn llwyddiannus?

Er hyn, oherwydd datblygiadau newydd ac ymwybyddiaeth gynyddol o faterion cynaliadwyedd, mae dulliau modern o brosesau adeiladu yn dod yn fwy poblogaidd. Edrychwn ar un neu ddau o brosiectau yn fwy manwl i ganfod y buddion:

Stryd Goldsmith, Norwich, DU

Enghraifft o brosiect arobryn sy’n defnyddio dulliau adeiladu modern yw Stryd Goldsmith yn Norwich, a enillodd Wobr RIBA Stirling yn 2019. Fel y cynllun mwyaf Passivhaus yn y DU, mae’n batrwm o ddyluniad tai cyndeithasol, gan ddarparu cartrefi modern, fforddiadwy.

Mae’r datblygiad mewn ardal orlawn, dim ond 15 munud ar droed o ganol dinas Norwich. Gan fod y safle wedi’i amgylchynu gan breswylfeydd cyfagos, roedd yn rhaid cynllunio cyfnodedd a logisteg y prosiect yn ofalus er mwyn lleihau unrhyw effeithiau negyddol yn ystod y gwaith adeiladu.

Trwy ddefnyddio dulliau adeiladu modern a defnyddio dull adeiladu oddi ar y safle, lleihawyd y tagfeydd traffig o amgylch y safle a gellid saernïo’r ffrâm bren mewn modd fwy effeithlon a chynaliadwy, â llawer llai o wastraff.**

Goldsmith image

Bwrdeistref Barking a Dagenham yn Llundain

Mae prinder tai yn Llundain i’w weld yn arbennig yn Barking a Dagenham, lle mae galw mawr am dai fforddiadwy. Defnyddiwyd dulliau adeiladu modern i greu cartrefi fforddiadwy, â allyriadau misol is ar gyfer preswylwyr.

Mae tai modiwlaidd wedi’u datblygu yn yr ardal i greu fflatiau fforddiadwy, ynni-effeithlon, gan leihau cost biliau’r cartref yn sylweddol a gwneud y mwyaf o olau dydd naturiol i wella lles preswylwyr. Mae’r adeiladau hefyd wedi’u creu gan ddefnyddio system sy’n atal colli gwres yn ddiangen.***

Beth yw’r potensial ar gyfer dyfodol dulliau adeiladu modern?

Mae llywodraeth y DU yn awyddus i genfogi dulliau modern o adeiladu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maent wedi cynnig hwb ariannol mawr i ddulliau adeiladu oddi ar y safle, gan ragweld cynnydd y nifer y prosiectau sy’n defnyddio’r dull hwn, yn enwedig ar gyfer seilwaith cyhoeddus.

Os defnyddir dulliau adeiladu modern yn ehangach yn y dyfodol, dylai fod yn bosibl adeiladu hyd at bedair gwaith yn fwy o gartrefi â’r un nifer o waith ar y safle, sy’n golygu y gallai amser adeiladu ar y safle gael ei leihau gan fwy na hanner.****

Os caiff prosiectau eu cynllunio’n drylwyr, mae gan ddulliau adeiladu modern y potensial i liniaru’r prinder sgiliau ledled y DU yn y diwydiant adeiladu, yn ogystal â gwella perfformiad amgylcheddol adeiladau, yn ystod ac ar ôl eu hadeiladu. Oherwydd technoleg newydd, gynaliadwy, mae’n gynyddol wir bod dulliau adeiladu modern yn galluogi creu tai o ansawdd gwell na’r rhai a adeiladwyd trwy ddulliau traddodiadol.

Cyfeiriadau:

*https://www.nhbcfoundation.org/wp-content/uploads/2018/11/NF82.pdf  

**https://www.rgcarter-construction.co.uk/project/goldsmith-street/  

***https://www.pbctoday.co.uk/news/modular-construction-news/blueprint-for-modular-success/48852/  

****https://www.nao.org.uk/report/using-modern-methods-of-construction-to-build-homes-more-quickly-and-efficiently/

Dyluniwyd y wefan gan S8080