Facebook Pixel

Prentisiaethau neu Hyfforddeiaethau

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng hyfforddeiaethau a phrentisiaethau?

Os ydych chi’n chwilio am yrfa ym maes adeiladu, efallai eich bod yn meddwl sut orau i ddechrau arni. Bydd llawer yn dibynnu ar lefel eich profiad, eich cymwysterau a’ch gyrfa. Felly, rydym wedi amlinellu’r prif wahaniaethau rhwng dau lwybr cyffredin.  

Y gwahaniaeth mwyaf rhwng hyfforddeiaeth a phrentisiaeth yw'r cyflog a'r cyfnod y maen yn ei gymryd i'w gwblhau.

  • Mae'n cymryd rhwng wyth wythnos a chwe mis i gwblhau hyfforddeiaethau, heb dâl, ac heb unrhyw sicrwydd o swydd ar y diwedd.
  • Mae prentisiaethau’n cymryd o leiaf blwyddyn, a hyd at chwe blynedd i’w cwblhau. Byddwch yn cael eich talu ac mae’n bosib y cewch gynnig swydd ar ôl eu cwblhau. 

Mae prentisiaethau a hyfforddeiaethau’n ffyrdd gwych o ddechrau gweithio yn y diwydiant adeiladu, ond maent yn wahanol, a gallai’r naill fod yn fwy addas i chi na'r llall. Darllenwch ymlaen i wybod mwy. 

Fel bob amser, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, rydyn ni yma i helpu! Gallwch chi gysylltu â ni yma.

Beth yw hyfforddeiaeth?

Mae’n well meddwl am hyfforddeiaeth fel paratoad ar gyfer y byd gwaith. Fel arfer, cyrsiau byrrach yw’r rhain sy’n eich helpu i feithrin sgiliau hanfodol y gallwch eu defnyddio i gael swydd neu brentisiaeth wedyn. Byddwch yn treulio amser yn dysgu yn y swydd a rhywfaint o amser yn astudio.  

Os nad oes gennych lawer o brofiad o’r diwydiant adeiladu, neu ddim profiad o gwbl, bydd hyfforddeiaeth yn helpu i wella eich CV gyda sgiliau perthnasol. Os nad ydych chi erioed wedi cael swydd o'r blaen, bydd hyfforddeiaeth yn rhoi rhywfaint o brofiad gwaith i chi, sydd hefyd yn ffordd wych o weld a yw rôl yn addas i chi cyn ymrwymo'n llawn iddi. 

Ydych chi’n gymwys i wneud hyfforddeiaeth? Darllenwch ein canllaw llawn i hyfforddeiaethau am bopeth y mae angen i chi ei wybod.   

Beth yw prentisiaeth?

Mae prentisiaeth yn gyfuniad helaeth o ddysgu yn y gwaith gydag astudio i gael cymhwyster academaidd. Rydych yn cael eich cyflogi'n llawn amser wrth i chi astudio, gan helpu i osgoi dyled myfyrwyr a chael yr union gymwysterau sydd eu hangen arnoch ar gyfer swydd ym maes adeiladu. 

Mae prentisiaethau’n amrywiol iawn, sy’n golygu eich bod yn debygol o ddod o hyd i rywbeth sy’n addas i’r rôl, neu’r math o gwmni adeiladu sydd o ddiddordeb i chi. Dysgwch fwy am brentisiaethau, gan gynnwys straeon go iawn gan bobl sydd wedi’u gwneud drwy ddarllen ein canllaw

Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau

Gallwch gael cyngor am brentisiaethau, yn ogystal â manylion am ddeddfwriaeth ar gyflogau ac oriau gwaith gan y Llywodraeth. I ddechrau chwilio am brentisiaeth, rhowch gynnig ar indeed.co.uk neu defnyddiwch ein canllaw ar wneud cais am brentisiaeth.

Mwy o wybodaeth am hyfforddeiaethau

Mae gan y Llywodraeth hefyd dudalen benodol ar gyfer hyfforddeiaethau. Gallwch ddechrau chwilio am un sy’n addas i chi ar indeed.co.uk

Dewisiadau eraill ar gyfer dechrau gyrfa adeiladu

Mae mwy na hyfforddeiaethau a phrentisiaethau ar gael i chi ddechrau arni yn y diwydiant adeiladu, fel cyrsiau prifysgol a lefelau T. Mae gennym ni restr lawn o'ch opsiynau ar gyfer dechrau arni ym maes adeiladu, er mwyn i chi allu dewis y llwybr iawn i chi.

Dyluniwyd y wefan gan S8080