Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae arbenigwyr gorchudd adeiladau yn gosod ac yn atgyweirio gorchuddion anstrwythurol i adeiladau gan ddefnyddio amryw o ddeunyddiau fel pren, gwydr a metel. Mae dylunio gorchudd adeilad yn faes arbenigol o ymarfer pensaernïol a pheirianneg sy’n deillio o bob maes gwyddor adeiladu a rheoli’r hinsawdd dan do.
£17000
-£50000
Mae sawl ffordd o fod yn arbenigwr gorchudd adeiladau. Gallech chi ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth neu hyfforddiant yn y gwaith. Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Coleg
Er nad oes angen cymwysterau penodol i fod yn arbenigwr gorchudd adeiladau, mae cael TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg yn fanteisiol gan y bydd yn rhaid i chi weithio yn ôl mesuriadau manwl a dilyn cyfarwyddiadau’n ofalus.
Gallech chi gwblhau diploma Lefel 2 mewn Galwedigaethau Cladio (Adeiladu) – Llenni a Gorchuddion ar Doeau, i’ch helpu i ddod yn arbenigwr gorchudd adeiladau.
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Prentisiaeth
Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.
Gallech chi ddilyn prentisiaeth fel gweithiwr gorchudd adeiladau fel man cychwyn ar eich llwybr gyrfa.
Bydd angen i chi gael 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Gwaith
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gontractwr gorchudd adeiladau i gael profiad ar y safle fel arbenigwr gorchudd adeiladau. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i arbenigwr gorchudd adeiladau mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Profiad gwaith
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel arbenigwr gorchudd adeiladau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Sgiliau
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel arbenigwr gorchudd adeiladau:
Fel arbenigwr gorchudd adeiladau, byddwch yn gyfrifol am ddylunio ac adeiladu systemau gorchudd adeiladau ar draws amrywiaeth o strwythurau, o greu’r cysyniad i’r cam adeiladu. O asesiadau ar y safle a pharatoi dogfennau adeiladu, i wasanaethau rheoli prosiectau yn ystod y cam adeiladu, mae’r rôl yn amrywiol a gall olygu llawer o deithio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Fel arbenigwr gorchudd adeiladau, fe allech chi fod yn:
Mae’r cyflog disgwyliedig i arbenigwr gorchudd adeiladau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer arbenigwr gorchudd adeiladau:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel arbenigwr gorchudd adeiladau, gallech chi symud ymlaen i swydd rheolwr safle neu amcangyfrifydd.
Neu, gallech weithio fel ymgynghorydd hunangyflogedig ar brosiectau adeiladu.