Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae arolygydd cyfarpar codi yn cynnal archwiliadau hanfodol i sicrhau bod yr offer a’r peiriannau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer codi yn gweithio’n iawn, fel bod modd ymgymryd â phrosiectau adeiladu yn unol â chanllawiau iechyd a diogelwch llym. Os canfyddir bod angen trwsio offer, byddant yn gwneud y gwaith hwnnw neu’n argymell peiriannydd mwy cymwys ar gyfer y gwaith.
£20000
-£30000
35-40
Gallwch gwblhau cwrs hyfforddiant i ddod yn arolygydd cyfarpar codi. Dan y canllawiau, gall unrhyw berson medrus â phrofiad gynnal archwiliadau, os oes ganddo ef/hi gymhwyster safonol y diwydiant gan Gymdeithas y Peirianwyr Cyfarpar Codi (LEEA).
Er bod angen cymwysterau penodol ar gyfer y rôl hon, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
I fod yn arolygydd cyfarpar codi, bydd angen i chi ennill cymhwyster safonol y diwydiant gan ddarparwr hyfforddiant arbenigol. Mae Cymdeithas y Peirianwyr Cyfarpar Codi (LEEA) yn gyfrifol am hyfforddi peirianwyr cyfarpar codi newydd, yn ogystal â gosod safonau a darparu gwybodaeth am iechyd a diogelwch. Mae’n cynnig cymwysterau, sy’n amrywio o Dystysgrif Mynediad Rhan 1, y cwrs hyfforddi lefel sylfaenol, i'r Diploma Archwilio Craen Symudol (dyfarniad mwy arbenigol i'r rhai sy'n archwilio craeniau telesgopig symudol).
> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Os oes gennych rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni sy'n cyflenwi neu'n cynnal cyfarpar codi i gael profiad fel arolygydd cyfarpar codi. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i arolygydd cyfarpar codi mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel arolygydd cyfarpar codi. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel arolygydd cyfarpar codi:
Mae’r cyflog disgwyliedig i arolygydd cyfarpar codi yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer arolygwyr cyfarpar codi:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel arolygydd cyfarpar codi, gallech symud i rolau cysylltiedig, fel cynghorydd SHEQ (diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd) wrth i’ch sgiliau a’ch profiad wella.