Facebook Pixel

Arolygydd peiriannau

A elwir hefyd yn -

Rheolwr peiriannau, rheolwr ariannol peiriannau

Mae arolygydd peiriannau’n gyfrifol am oruchwylio a chydlynu’r gweithgareddau cyfrifyddu ac ariannol sy’n ymwneud â pheiriannau ffatri. Fel arolygydd peiriannau, byddwch yn dadansoddi data i asesu perfformiad y peiriannau, ac yn cyflwyno eich canfyddiadau i uwch reolwyr.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£45000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn arolygydd peiriannau

Mae sawl ffordd o ddod yn arolygydd peiriannau. Gallech gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu wneud cais yn uniongyrchol i gwmni am hyfforddiant yn y gwaith.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau tystysgrif sylfaen neu ddiploma uwch neu broffesiynol drwy Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT). Mae’n cymryd rhwng 6 a 18 mis i gwblhau’r cyrsiau.

Ni fydd angen cymwysterau ffurfiol arnoch i ddilyn cwrs sylfaen. Efallai y bydd angen TGAU neu Safon Uwch (neu gymhwyster cyfatebol) arnoch i gwblhau diplomâu uwch a phroffesiynol.

Ar ôl i chi gymhwyso, gallech arbenigo mewn bod yn arolygydd peiriannau.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni cyfrifyddiaeth yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Mae’n cymryd oddeutu dwy flynedd i gwblhau prentisiaeth gyfrifyddiaeth ganolradd. Ar gyfer y cyrsiau hyn, bydd angen TGAU (neu gymhwyster cyfwerth) arnoch ar raddau 9 i 4 (A* i C), gan gynnwys Saesneg a mathemateg. Ar ôl i chi gymhwyso, gallech arbenigo mewn bod yn arolygydd peiriannau.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol o gyfrifyddiaeth mewn diwydiant arall, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i ennill profiad fel arolygydd peiriannau. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i arolygydd peiriannau mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel arolygydd peiriannau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel arolygydd peiriannau: 

  • Sgiliau mathemategol
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol
  • Gallu dehongli data
  • Sylw i fanylion
  • Sgiliau gweinyddol ardderchog.

Beth mae arolygydd peiriannau yn ei wneud?

Fel arolygydd peiriannau, byddwch yn gyfrifol am gydlynu gweithgareddau cyfrifyddu ac adrodd ariannol ynglŷn â’r peiriannau.

Mae swydd arolygydd peiriannau yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Cyfrifo costau
  • Cau cyfrifon a chreu adroddiadau ariannol
  • Cyfrifo treth
  • Rheoli rhestrau eiddo
  • Creu rhagolygon a chyllidebu
  • Cyfrifo elw ar fuddsoddiadau
  • Goruchwylio prosesau a chyfrifon mewnol
  • Cynnig arweiniad ar wella i sicrhau bod peiriannau’n rhedeg yn effeithlon am y gost isaf
  • Cynnal dadansoddiad misol o dueddiadau a rhagolygon i dynnu sylw at risgiau a chyfleoedd ariannol
  • Paratoi adroddiadau ariannol ar gyfer uwch-reolwyr.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel arolygydd peiriannau?

Mae’r cyflog disgwyliedig i arolygydd peiriannau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall arolygwyr peiriannau sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall arolygwyr peiriannau gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £45,000
  • Gall uwch arolygwyr peiriannau ennill £45,000 - £65,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer arolygwyr peiriannau: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel arolygydd peiriannau, gallech ennill profiad a gweithio tuag at fod yn rheolwr masnachol, neu’n gyfrifydd.

I fod yn gyfrifydd ardystiedig siartredig, gallech gwblhau hyfforddiant drwy  Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA).

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Arolygydd peiriannau Goruchwylio cyfrifon mewnol a sicrhau bod peiriannau’n rhedeg yn effeithiol am y...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr masnachol Mae'n gyfrifol am y gyllideb ar brosiectau mawr a pharatoi bidiau newydd i ennil...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080