Facebook Pixel

Arweinydd Tîm Adeiladu

A elwir hefyd yn -

Goruchwyliwr, goruchwyliwr tîm, rheolwr llinell, uwch reolwr

Mae arweinwyr timau adeiladu yn gweithio mewn rolau goruchwylio ac yn gyffredinol maen nhw’n gyfrifol am dîm sy’n gweithio ar brosiect adeiladu. Fel arweinydd tîm adeiladu, gallech arbenigo mewn goruchwylio maes adeiladu penodol, sy’n ymwneud â’ch sgiliau a’ch profiad blaenorol, fel gosod brics, toi neu grefft arall.

Cyflog cyfartalog*

£19000

-

£45000

Oriau arferol yr wythnos

39-41

Sut i fod yn arweinydd tîm adeiladu

Mae sawl ffordd o ddod yn arweinydd tîm adeiladu. Gallech ddilyn cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn arweinydd tîm adeiladu i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Er nad yw’n gymhwyster hanfodol, gallech fod yn arweinydd tîm adeiladu neu’n rheolwr yn y diwydiant, os oes gennych chi radd neu radd ôl-raddedig sy’n gysylltiedig ag adeiladu.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Nid oes angen cymwysterau penodol i fod yn arweinydd tîm adeiladu na’n rheolwr, ond bydd angen i chi feddu ar lefel dda o brofiad yn eich maes gwaith, a gall fod yn fuddiol cael TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) ar raddau A* i C neu lefelau 4 i 9 mewn mathemateg a Saesneg.

Prentisiaeth

Gallech gwblhau uwch-brentisiaeth i ddod yn arweinydd tîm adeiladu, neu brentisiaeth uwch i symud i faes rheoli.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth lefel uwch)
  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefelau A, neu gymhwyster cyfatebol (uwch brentisiaeth neu radd-brentisiaeth).

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel arweinydd tîm adeiladu. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i arweinydd tîm mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Neu, gallech wneud cais am ddyrchafiad yn eich cwmni, neu symud ymlaen i rôl uwch drwy gwblhau hyfforddiant rheoli mewnol.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel arweinydd tîm adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel arweinydd tîm adeiladu:

  • Sylw ardderchog i fanylion
  • Dealltwriaeth o brosiectau adeiladu
  • Sgiliau da o ran gweithio mewn tîm
  • Sgiliau arwain
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Sgiliau datrys problemau a blaengarwch da.

Beth mae arweinydd tîm adeiladu yn ei wneud?

Fel arweinydd tîm adeiladu, byddwch yn gyfrifol am y gwaith mae eich tîm yn ei wneud. Gall y dyletswyddau gynnwys cynllunio llwythi gwaith a dirprwyo tasgau i’ch cydweithwyr. Efallai y bydd gofyn i chi hefyd gyflawni tasgau ymarferol gyda’ch tîm o ddydd i ddydd.

Gall rôl arweinydd tîm adeiladu gynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Cynllunio llwythi gwaith a rotas
  • Dirprwyo gwaith i aelodau'r tîm
  • Gweithio o fewn cyllidebau a rheoli cyllid y tîm yn effeithlon
  • Briffio eich tîm ynghylch targedau a darparu diweddariadau busnes
  • Monitro perfformiad y tîm a chynnal arfarniadau
  • Sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau ar amser, i safon uchel ac yn unol â chanllawiau iechyd a diogelwch
  • Ymgymryd ag agweddau gwaith penodol eich tîm, fel gosod brics, dymchwel, arolygu neu weinyddu
  • Dangos i weithwyr adeiladu newydd a dibrofiad sut i wneud y gwaith
  • Sicrhau bod gweithwyr yn dilyn polisïau a gweithdrefnau’r cwmni
  • Gwirio a chymeradwyo’r gwaith
  • Gweithio gyda lluniadau technegol a chynlluniau.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel arweinydd tîm adeiladu?

Mae’r cyflog disgwyliedig i arweinydd tîm adeiladu yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall arweinwyr tîm adeiladu sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £19,000 - £25,000
  • Gall arweinwyr tîm adeiladu gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £35,000
  • Gall arweinwyr tîm adeiladu uwch ennill £35,000 - £45,000*
  • Arweinwyr tîm adeiladu hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi cael eu casglu o sawl ffynhonnell yn y diwydiant ac wedi cael eu diweddaru ers 2019

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer arweinwyr tîm adeiladu:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel arweinydd tîm adeiladu, gallech symud ymlaen i rôl fel rheolwr, neu uwch-reolwr ac ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb a goruchwyliaeth dros brosiectau adeiladu.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Arweinydd Tîm Adeiladu Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa fel Goruchwyliwr Galwedigaethol. Byddwch yn g...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gosodwr lloriau mynediad Gweithio ochr yn ochr â chontractwyr eraill i osod lloriau uchel mewn gwahanol d...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gosodwr ystafelloedd ymolchi Mae gosodwyr ystafelloedd ymolchi yn gosod bron bob rhan o ystafell ymolchi - ga...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Saer Mae seiri coed adeiladu yn gosod ffitiadau pren amrywiol, gan gynnwys drysau, ll...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gosodwr deunydd inswleiddio ceudod Mae'n gyfrifol am atal lleithder, inswleiddio atig ac inswleiddio waliau ceudod ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gweithiwr atal lleithder Mae lleithder sy'n codi o'r ddaear yn fygythiad mawr i bob adeilad - felly mae g...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Ataliwr drafftiau Mae ataliwr drafftiau yn gyfrifol am sicrhau bod pob eiddo wedi’i awyru'n iawn h...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gweithiwr leinin sych Mae gweithiwr leinin sych yn creu'r waliau a'r ystafelloedd mewn adeilad. Mae he...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gweithiwr adeiladu cyffredinol Dyma un o’r swyddi gorau i ddechrau eich gyrfa ym maes adeiladu, a byddwch yn he...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gosodwr ceginau Byddwch yn gweithio mewn eiddo domestig a masnachol, ac yn adeiladu ac yn gosod ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gweithiwr Systemau Pared Mae gweithiwr systemau pared yn gyfrifol am rannu adeiladau yn adrannau neu ysta...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gweithiwr gosod seilbyst Fel Gweithiwr Systemau Ymrannu, byddwch yn gyfrifol am greu mannau gwahanol drwy...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Plastrwr Mae'r plastrwr yn aelod anhepgor o'r rhan fwyaf o safleoedd adeiladu – mae'n gwn...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Simneiwr Gan weithio mewn mannau uchel, byddwch yn gwneud gwaith atgyweirio ac adeiladu h...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Technegydd cynnal a chadw priffyrdd Byddwch yn rhan o’r tîm sy’n ymwneud ag archwilio ffyrdd a nodi materion diogelw...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080