Facebook Pixel

Asesydd ynni domestig

A elwir hefyd yn -

Asesydd tystysgrif perfformiad ynni (EPC)

Mae aseswyr ynni domestig yn cyfrifo effeithlonrwydd ynni cartrefi, fflatiau ac adeiladau domestig eraill.

Cyflog cyfartalog*

£18000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut mae dod yn asesydd ynni domestig

I fod yn asesydd ynni domestig, bydd angen i chi gwblhau cwrs hyfforddiant arbenigol.   

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Cwrs hyfforddiant arbenigol

I weithio fel asesydd ynni domestig, bydd angen i chi gwblhau Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Ynni Domestig a dod yn aelod o gynllun achredu cymeradwy. 

Os oes gennych brofiad blaenorol mewn maes tebyg, fel arolygu eiddo neu beirianneg ynni, efallai na fydd yn rhaid i chi gwblhau cymaint o hyfforddiant â rhywun sy’n dechrau o’r newydd.  

> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol 

> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi 

> Cyngor am gyllid 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel asesydd ynni domestig. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

> Dysgwch fwy am brofiad gwaith 

Sgiliau  

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel asesydd ynni domestig:  

  • Gwybodaeth am beirianneg
  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Sgiliau mathemateg da 
  • Sylw trylwyr i fanylion 
  • Sgiliau meddwl yn rhesymegol 
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol 
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun. 

Beth mae asesydd ynni domestig yn ei wneud?

Fel asesydd ynni domestig, byddwch yn gweld pa mor ynni effeithlon ydy adeiladau preswyl. 

Mae swydd asesydd ynni domestig yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Gweithio yng nghartrefi cleientiaid, archwilio eiddo a dadansoddi unrhyw systemau dŵr poeth a gwresogi presennol
  • Arolygu nifer a maint ystafelloedd, lloriau, coridorau, ffenestri, drysau a llefydd tân mewn adeilad domestig
  • Defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i gynhyrchu sgôr effeithlonrwydd ynni a Thystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC)
  • Rhannu sgoriau effeithlonrwydd gyda pherchnogion eiddo ac esbonio eich canfyddiadau
  • Cynghori landlordiaid a pherchnogion eiddo ar ffyrdd o wella effeithlonrwydd ynni. 

Faint o gyflog allech chi ei gael fel asesydd ynni domestig?

Mae’r cyflog disgwyliedig i asesydd ynni domestig yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall aseswyr ynni domestig sydd newydd gael eu hyfforddi ennill oddeutu £18,000
  • Gall aseswyr ynni domestig profiadol ennill hyd at £35,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer aseswyr ynni domestig:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi. 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel asesydd ynni domestig, gallech symud i rôl fel asesydd ynni masnachol. 


Dyluniwyd y wefan gan S8080