Facebook Pixel

Cydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR)

A elwir hefyd yn -

Rheolwr cyfrifoldeb cymdeithasol

Mae cydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) yn gweithredu fel ‘cydwybod’ cwmni, gan hyrwyddo a datblygu ochr foesegol, amgylcheddol gyfeillgar a chymunedol y busnes. Mae’r swydd yn cynnwys creu cysylltiadau rhwng busnes a’r gymuned, codi ymwybyddiaeth gadarnhaol o ymrwymiad y sefydliad i gyfrifoldeb cymdeithasol cynaliadwy.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£40000

Oriau arferol yr wythnos

35

Sut i fod yn gydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR)

Mae sawl ffordd o ddod yn gydlynydd CSR. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn gydlynydd CSR i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

I fod yn gydlynydd CSR, gallech gwblhau gradd israddedig neu ôl-raddedig mewn unrhyw ddisgyblaeth. Gall astudio pwnc perthnasol, fel hawliau dynol, astudiaethau rhyngwladol, y gyfraith, gwleidyddiaeth, cysylltiadau cyhoeddus, busnes neu reolaeth amgylcheddol wella eich siawns o gael swydd yn y maes hwn.

Bydd angen y canlynol arnoch chi:

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cwrs coleg i’ch helpu i ddechrau ar eich taith i fod yn gydlynydd CSR, fel astudiaethau busnes, daearyddiaeth, y gyfraith neu wleidyddiaeth.

Bydd angen i chi gael hyd at 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) neu gymhwyster cyfatebol i gofrestru ar gwrs coleg.

Prentisiaeth

Gallech gwblhau prentisiaeth i’ch helpu ar eich llwybr gyrfa i ddod yn gydlynydd CSR

Gallech gofrestru ar brentisiaeth seiliedig ar fusnes neu’r gyfraith. Ni fyddai angen i hyn fod gyda chwmni adeiladu o reidrwydd, oherwydd gallech arbenigo ym maes cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn y diwydiant adeiladu ar ôl i chi gymhwyso.

Bydd angen i chi gael hyd at 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i fod yn brentis.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Yn dibynnu ar eich profiad a’ch cymwysterau, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd fel cynorthwyydd CSR, neu swydd debyg. Efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig hyfforddiant i'ch helpu i symud ymlaen mewn rôl cydlynydd.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel cydlynydd CSR. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau sy’n ddymunol ar gyfer cydlynydd CSR: 

  • Yn frwd dros gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a chynaliadwyedd
  • Sgiliau cyfathrebu cadarn
  • Sgiliau meddwl yn rhesymegol ac yn ddadansoddol
  • Sensitifrwydd a dealltwriaeth
  • Gwybodaeth am sut mae busnesau’n gweithredu.

Beth mae cydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) yn ei wneud?

Fel cydlynydd CSR, byddwch chi’n gyfrifol am helpu i ddatblygu polisïau sy’n ymwneud ag amrywiaeth o ffactorau pwysig fel y polisïau’n ymwneud â moeseg a chynaliadwyedd.

Mae swydd cydlynydd CSR yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Datblygu polisïau sy’n ymwneud â chyfrifoldebau moesegol, cynaliadwyedd ac amgylcheddol y cwmni
  • Sicrhau bod cwmni’n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol a’r amgylchedd
  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am ymrwymiadau cyfrifoldeb cymdeithasol y cwmni drwy farchnata
  • Cynnal ymchwil i arferion gorau
  • Ysgrifennu a gweithredu strategaeth cyfrifoldeb cymdeithasol cwmni
  • Creu partneriaethau gyda chleientiaid, gweithwyr, cyflenwyr, elusennau a grwpiau eraill
  • Sicrhau bod polisïau’r cwmni yn diwallu anghenion cyfreithiol a masnachol
  • Trefnu digwyddiadau ar gyfer gweithwyr a’u timau
  • Annog cysylltiadau rhwng y cwmni a grwpiau addysgol neu elusennol
  • Lledu’r gair am y cwmni ac adeiladu yn gyffredinol mewn ysgolion a sefydliadau lleol
  • Adrodd ar weithgarwch cyfrifoldeb cymdeithasol i uwch reolwyr.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel cydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR)?

Mae’r cyflog disgwyliedig i gydlynydd CSR yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall cydlynwyr CSR sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £30,000
  • Gall cydlynwyr CSR hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £40,000. *

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer cydlynwyr CSR:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel cydlynydd CSR, gallech chi symud ymlaen i rôl reoli uwch mewn sefydliad.

Neu, gallech sefydlu eich hun fel ymgynghorydd hunangyflogedig a chynnig cyngor i amrywiaeth o fusnesau.


Dyluniwyd y wefan gan S8080