Facebook Pixel

Cyfarwyddwr adeiladu

Mae cyfarwyddwyr adeiladu yn gyfrifol am fonitro gwaith ar brosiectau adeiladu. Maent yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau'n brydlon ac o fewn y gyllideb, i’r safon a ddisgwylir o’r cwmni. Mae cyfarwyddwyr adeiladu yn rheoli amserlenni gwaith ac yn dirprwyo tasgau i uwch gydweithwyr a'u timau, er mwyn sicrhau fod pob cam o'r gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau yn ôl y bwriad.

Cyflog cyfartalog*

£50000

-

£100000

Sut i ddod yn gyfarwyddwr adeiladu

Mae yna sawl llwybr i ddod yn gyfarwyddwr adeiladu. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch er mwyn cychwyn ar eich llwybr gyrfa trwy gwblhau cwrs prifysgol neu brentisiaeth. 

Dylech archwilio'r opsiynau hyn i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. Bydd gan y mwyafrif o gyfarwyddwyr adeiladu flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech ennill gradd sylfaen, diploma cenedlaethol uwch (HND) neu radd israddedig wedi'i hachredu gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB). Mae pynciau perthnasol yn cynnwys astudiaethau adeiladu, syrfeo, amcangyfrif, adeiladu neu beirianneg sifil, neu reoli safle adeiladu.

Yn gyffredinol, byddwch angen: 

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. 

Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad wrth y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant. 

Gallech gwblhau uwch-brentisiaeth neu radd mewn rheoli adeiladu, neu ddylunio a rheoli adeiladu. Fel arfer, bydd angen 4 - 5 o gymwysterau TGAU (neu gyfwerth) arnoch â graddau 9 - 4 (A* - C) a chymwysterau safon uwch (neu gyfwerth) i wneud hyn.

Gwaith

Os ydych wedi gweithio fel amcangyfrifwr, technegydd adeiladu, syrfëwr neu oruchwyliwr safle ers nifer o flynyddoedd a chyda profiad fel rheolwr a chymwysterau rheoli, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol am swydd rheolwr neu gyfarwyddwr adeiladu.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gellid bod wedi cael y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV. 


Beth mae cyfarwyddwr adeiladu yn ei wneud?

Fel cyfarwyddwr adeiladu, gallech fod yn gwneud y canlynol: 

  • Goruchwylio gofynion logistaidd prosiect
  • Dirprwyo gwaith i uwch gydweithwyr a'u timau
  • Cyfarfod yn rheolaidd â chleientiaid, trydydd parti a rheolwyr i adrodd am gynnydd
  • Gosod targedau, amcanion a chyfrifoldebau ar gyfer yr holl staff a oruchwylir
  • Adolygu amser, cyllideb, llafur, risg a chynlluniau prosiect yn rheolaidd i sicrhau fod gwaith yn parhau ar y trywydd iawn
  • Adrodd am gynnydd prosiectau i gleientiaid ac aelodau’r bwrdd 
  • Darparu cofnodion ariannol
  • Argymell gwelliannau ynghylch polisïau a gweithdrefnau
  • Monitro perfformiad yn ôl meini prawf cytunedig
  • Sicrhau fod ymrwymiadau cytundebol yn cael eu cyflawni
  • Sicrhau y cyflawnir gwaith o ansawdd uchel o fewn amserlenni’r cytundebau
  • Ymdrin ag anghydfodau ynghylch cytundebau a lliniaru effaith unrhyw anawsterau
  • Gweithio mewn swyddfa ac ar safle adeiladu.

Sut brofiad yw bod yn gyfarwyddwr adeiladu?

Kate Whatley


Faint allech ei ennill fel cyfarwyddwr adeiladu?

  • Gall cyfarwyddwyr adeiladu sydd â phrofiad cyfyngedig ennill £50,000 - £60,000
  • Gall cyfarwyddwyr adeiladu sydd â mwy o brofiad ennill £60,000 - £85,000
  • Gall uwch gyfarwyddwyr adeiladu ennill £85,000 - £110,000+.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer cyfarwyddwyr adeiladu:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Gallech arbenigo a goruchwylio maes adeiladu penodol, megis contractau neu gynllunio. Fel arall, efallai y gallech ddod yn ymgynghorydd hunangyflogedig.

Fel cyfarwyddwr profiadol, gallech symud ymlaen i ddod yn gyfarwyddwr gweithredol neu’n brif swyddog gweithredol cwmni, neu sefydlu eich busnes eich hun.


Dyluniwyd y wefan gan S8080