Facebook Pixel

Cyfarwyddwr prosiect

Mae gan gyfarwyddwyr prosiect gyfrifoldeb cyffredinol am gwblhau prosiectau adeiladu yn llwyddiannus. Maent yn goruchwylio rheolwyr prosiect, sy'n cydlynu timau i sicrhau fod gwaith yn cael ei gwblhau yn brydlon ac o fewn y gyllideb, i safon uchel. Mae cyfarwyddwyr prosiect yn darparu arweinyddiaeth i reoli risg yn strategol, monitro cyllid a sicrhau fod pob cam o'r gwaith yn cael ei ddechrau neu ei gwblhau yn brydlon.

Cyflog cyfartalog*

£40000

-

£100000

Sut i ddod yn gyfarwyddwr prosiect

Mae yna sawl llwybr i ddod yn gyfarwyddwr prosiect. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth.

Dylech archwilio'r opsiynau i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. Fel arfer, bydd cyfarwyddwr prosiect wedi cael nifer o flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Y Brifysgol

Gallech gwblhau gradd sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), gradd israddedig neu radd ôl-raddedig wedi’i hachredu gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB). Mae pynciau perthnasol yn cynnwys rheoli adeiladu, rheoli busnes a phrosiect neu astudiaethau adeiladu.

Yn gyffredinol, byddwch angen: 

Coleg/darparwr hyfforddiant

Efallai y bydd eich coleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau sy'n ymwneud ag adeiladu ar lefel tystysgrif genedlaethol uwch (HNC) neu ddiploma cenedlaethol uwch (HND), a fyddai’n eich helpu ar eich llwybr gyrfa i ddod yn gyfarwyddwr prosiect.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Gallech astudio am uwch-brentisiaeth neu brentisiaeth gradd mewn rheoli prosiect adeiladu neu fusnes a rheolaeth. Fel arfer, bydd angen 4 - 5 o gymwysterau TGAU (neu gyfwerth) arnoch â graddau 9 - 4 (A* - C) a chymwysterau safon uwch (neu gyfwerth) i wneud prentisiaeth uwch neu brentisiaeth gradd.

Gwaith

Os ydych eisoes wedi bod mewn rolau cefnogi o fewn timau prosiect ac wedi cael profiad rheoli neu gymwysterau rheoli, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol am swydd fel rheolwr neu gyfarwyddwr prosiectau.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.  


Beth mae cyfarwyddwr prosiectau yn ei wneud?

Gan y bydd cyfarwyddwr prosiect yn gyfrifol am oruchwylio pob agwedd ar brosiect er mwyn sicrhau bod yr ansawdd yn safon uchel, a'i fod yn rhedeg i'r amserlenni sy'n cael eu caniatáu.

Fel rheolwr prosiectau, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Monitro cynnydd gwaith adeiladu, goruchwylio cyllid a sicrhau ansawdd prosiectau
  • Gwneud penderfyniadau strategol a darparu arweinyddiaeth a chyfarwyddyd i reolwyr prosiectau i roi’r  penderfyniadau hynny ar waith
  • Cyfarfod â chleientiaid, rhanddeiliaid a rheolwyr prosiect i adrodd am gynnydd prosiectau
  • Cysylltu â chleientiaid a datblygu perthnasau gwaith cryf
  • Dyfeisio cynlluniau cost effeithiol i alluogi prosiectau i gael eu cwblhau'n effeithiol
  • Rheoli risgiau er mwyn atal oedi neu niwed i enw da
  • Sicrhau fod trwyddedau a dogfennau cyfreithiol ar gael cyn i brosiectau gychwyn
  • Rheoli rheolwyr prosiect a'u galluogi i oruchwylio a rheoli eu timau eu hunain
  • Gweithio mewn swyddfa ac ar safle adeiladu.

Faint allech ei ennill fel cyfarwyddwr prosiect?

  • Gall cyfarwyddwyr prosiect sydd â phrofiad cyfyngedig o'r gwaith ennill £40,000 - £60,000
  • Gall cyfarwyddwyr prosiect sydd â mwy o brofiad ennill £60,000 - £90,000
  • Gall cyfarwyddwyr prosiect uwch ennill £90,000 - £110,000 neu’n uwch.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer cyfarwyddwyr prosiectau: 

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Byddwch angen o leiaf deng mlynedd o brofiad yn y diwydiant i fod yn gyfarwyddwr prosiect. Bydd cymwysterau proffesiynol gan y Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM), y Sefydliad Rheoli Prosiect (PMI) a'r Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI) yn eich helpu i baratoi at rôl uwch.

Pan fyddwch wedi cychwyn gweithio fel cyfarwyddwr prosiect, gallech arbenigo a goruchwylio maes penodol o reoli prosiect, megis contractau neu gynllunio. Fel arall, efallai y gallech ddod yn ymgynghorydd hunangyflogedig a phennu eich cyflog eich hun.

Fel cyfarwyddwr profiadol, gallech symud ymlaen i fod yn gyfarwyddwr gweithredol neu’n brif swyddog gweithredol cwmni, neu sefydlu eich busnes eich hun.


Dyluniwyd y wefan gan S8080