Facebook Pixel

Cynghorydd amgylcheddol

A elwir hefyd yn -

Ymgynghorydd Amgylcheddol

Mae cynghorwyr amgylcheddol yn sicrhau bod prosiectau adeiladu yn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol ac yn cyrraedd targedau. Maen nhw’n cynllunio’n strategol ffyrdd o sicrhau cyn lleied â phosibl o lygredd aer neu lygredd dŵr a phridd, lleihau gwastraff deunyddiau a sicrhau bod unrhyw wastraff angenrheidiol yn cael ei waredu yn y modd cywir.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£40000

Oriau arferol yr wythnos

37-39

Sut i fod yn gynghorydd amgylcheddol

Mae dwy brif ffordd i fod yn gynghorydd amgylcheddol. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu radd-brentisiaeth.

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn gynghorydd amgylcheddol, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Prifysgol

Gallech chi gwblhau gradd israddedig mewn pwnc perthnasol fel peirianneg amgylcheddol, gwyddor yr amgylchedd, astudiaethau amgylcheddol, geowyddoniaeth, bioleg, ecoleg neu wyddor amaethyddol.

Mae llawer o gyflogwyr hefyd yn chwilio am ymgeiswyr sydd â chymwysterau ôl-radd perthnasol a phrofiad gwaith mewn lleoliad amgylcheddol.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallwch ddod yn ymgynghorydd amgylcheddol drwy gwblhau gradd-brentisiaeth fel ymarferwr amgylcheddol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel cynghorydd amgylcheddol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. Mae llawer o fudiadau amgylcheddol yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli a fydd yn rhoi blas i chi ar waith amgylcheddol, ac yn datblygu eich sgiliau a'ch cysylltiadau.

Sgiliau

Fel cynghorydd amgylcheddol, gallai’r sgiliau canlynol fod yn ddefnyddiol: 

  • Gwybodaeth fathemategol 
  • Gallu meddwl yn ddadansoddol ac yn feirniadol 
  • Gwybodaeth am ddaearyddiaeth
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol 
  • Gallu defnyddio cyfrifiadur yn effeithlon
  • Gallu gweithio’n drylwyr a rhoi sylw i fanylion

Cymwysterau


Beth mae cynghorydd amgylcheddol yn ei wneud?

Prif gyfrifoldeb cynghorydd amgylcheddol yw sicrhau bod prosiectau’n cydymffurfio â rheoliadau a thargedau amgylcheddol drwy roi sylw i faterion fel ansawdd aer, halogi tir a dŵr, rheoli gwastraff ac effaith amgylcheddol.

Dyma rai o ddyletswyddau eraill cynghorydd amgylcheddol: 

  • Sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau amgylcheddol
  • Cysylltu â thimau’r safle, cleientiaid, rhanddeiliaid a’r tîm amgylcheddol ehangach
  • Rheoli materion deddfwriaethol ar gyfer cleientiaid, gan gynnwys caniatâd cynllunio a chydsyniadau
  • Cynnal arolygon maes i sefydlu gwaelodlin ar gyfer lefelau llygredd neu halogiad ar gyfer safle
  • Dehongli data ac ysgrifennu adroddiadau manwl 
  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau diweddaraf mewn cyfraith amgylcheddol
  • Cyfathrebu â chleientiaid
  • Ymchwilio i hanes safleoedd a darparu gwybodaeth i gleientiaid sy’n ystyried prynu
  • Creu cynlluniau rheoli gwastraff
  • Sicrhau bod argymhellion bioamrywiaeth yn cael eu bodloni ar y safle ac nad yw gwaith yn tarfu ar rywogaethau a warchodir.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel cynghorydd amgylcheddol?

Mae’r cyflog disgwyliedig i gynghorwyr amgylcheddol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall cynghorwyr amgylcheddol sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall cynghorwyr amgylcheddol cymwys a phrofiadol ennill £25,000 - £40,000
  • Gall cynghorwyr amgylcheddol uwch, siartredig neu feistr ennill £40,000 - £65,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer cynghorwyr amgylcheddol:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel cynghorydd amgylcheddol, gallech symud ymlaen i rôl fel peiriannydd amgylcheddol, rôl arbenigol sy’n canolbwyntio ar ddiogelu’r amgylchedd drwy leihau gwastraff a llygredd. 

Fel arall, gallech ddod yn arbenigwr adfer, gan ddelio â’r gwaith o drin a gwaredu halogiad o bridd a dŵr daear.

Gallech gwblhau cymwysterau proffesiynol drwy’r Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol (IEMA) ac arbenigo mewn meysydd penodol o ymgynghori amgylcheddol. Gydag amser a phrofiad, gallech fod yn siartredig a gwella eich rhagolygon gyrfa a’ch cyflog.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Cynghorydd amgylcheddol Mae cynghorwyr amgylcheddol yn mynd i’r afael â materion fel ansawdd aer, llygre...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd amgylcheddol Helpu i warchod yr amgylchedd yn ystod prosiectau adeiladu drwy leihau llygredd....
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Arbenigwr adfer Atal safleoedd rhag cael eu llygru drwy ddylunio a rhoi cynlluniau gweithredu ad...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080