Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Cyfrifoldeb cynghorydd gwerthu eiddo yw gofalu am y broses o werthu eiddo ar y safle ar ran cwmni fel datblygwr eiddo. Mae hyn yn cynnwys tasgau fel gosod a chynnal cartrefi arddangos, delio ag ymholiadau gan brynwyr posibl a chynhyrchu adroddiadau yn seiliedig ar ddata gwerthu.
£20000
-£25000
Mae sawl ffordd o ddod yn gynghorydd gwerthu eiddo. Nid oes gofynion mynediad penodol, ond gallech chi gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, hyfforddiant yn y gwaith, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech ddilyn cwrs coleg i roi rhai sgiliau perthnasol i chi, fel Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Busnes a Gweinyddu.
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Mae prentisiaeth yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant adeiladu.
Gallech chi gwblhau prentisiaeth ganolradd i fod yn gynghorydd gwerthu eiddo.
Mae’n cymryd oddeutu dwy flynedd i gwblhau prentisiaeth gweinyddu busnes ganolradd. Os gall eich cyflogwr roi'r profiadau iawn i chi, gallech symud ymlaen i gymhwyster Lefel 3 (uwch).
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad mewn rôl werthu, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni i gael profiad ar safle fel cynghorydd gwerthu eiddo. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i gynghorydd gwerthu eiddo mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel cynghorydd gwerthu eiddo. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel cynghorydd gwerthu eiddo:
Fel cynghorydd gwerthu eiddo, byddwch chi’n gyfrifol am werthu eiddo. Efallai y bydd gofyn i chi fynd ati i ddenu ymwelwyr newydd drwy weithgareddau marchnata, sefydlu cartrefi arddangos a delio â gwerthiant eiddo newydd.
Mae swydd cynghorydd gwerthu eiddo yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i gynghorydd gwerthu eiddo yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer cynghorwyr gwerthu eiddo:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel cynghorydd gwerthu eiddo, gallech symud ymlaen i fod yn reolwr gwerthu. Neu, gallech drosglwyddo eich sgiliau i rôl marchnata neu gysylltiadau cyhoeddus.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod