Facebook Pixel

Cynllunydd

A elwir hefyd yn -

Cynllunydd adeiladu, cynllunydd adeiladau

Mae cynllunwyr yn creu rhaglenni o’r holl waith sydd ei angen ar brosiectau adeiladu mawr a gweithgareddau uniongyrchol. Fel cynllunydd, byddwch yn goruchwylio logisteg, yn trefnu gweithwyr, yn rheoli cyllidebau ac yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â’r amserlen. Byddwch yn cydweithio’n agos ag amcangyfrifwyr, peirianwyr, syrfewyr a phenseiri i gadw prosiectau ar y trywydd iawn a rheoli blaenoriaethau sy’n gwrthdaro.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£70000

Sut i fod yn gynllunydd

Mae sawl ffordd o ddod yn gynllunydd. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth. Os oes gennych rywfaint o brofiad yn barod, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol i fod yn gynorthwyydd cynllunio.

Dylech chi ymchwilio i’r opsiynau i weld pa un yw’r un iawn i chi.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech gwblhau gradd mewn rheoli adeiladu neu reoli prosiectau.

Os oes gennych chi radd gyntaf yn barod, gallech astudio am gymhwyster ôl-raddedig mewn rheoli prosiectau adeiladu.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • 2 - 3 lefel A neu gyfwerth (cwrs gradd)
  • Gradd gyntaf mewn pwnc perthnasol (cwrs ôl-radd).

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech ddilyn Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn Astudiaethau Adeiladu.

Bydd angen y canlynol arnoch: 

  • 4 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) ar raddau 9 i 4 (A* i C), gan gynnwys Saesneg a mathemateg (diploma estynedig)
  • Cymhwyster lefel A neu Lefel 3 mewn crefft neu bwnc perthnasol (HNC).

Os ydych chi eisoes yn gweithio fel goruchwyliwr safle ym maes crefftau adeiladu, gallech ddilyn Diploma Lefel 3 NVQ mewn Goruchwylio Gwaith Galwedigaethol i'ch helpu i ddod yn gynllunydd.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Mae’n cymryd oddeutu dwy flynedd i gwblhau prentisiaeth ganolradd. I ddod yn gynllunydd adeiladu, gallech chi ddilyn prentisiaeth uwch mewn Rheoli Adeiladu.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • 2 TGAU neu fwy, neu gymhwyster cyfatebol, ar raddau 9 i 4 (A* i C) (prentisiaeth ganolradd)
  • 3 TGAU, neu gymhwyster cyfatebol, ar raddau 9 i 4 (A* i C) (uwch brentisiaeth)

  • Canllawiau i brentisiaethau

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel cynllunydd:

  • Gwybodaeth am Saesneg, mathemateg a daearyddiaeth
  • Gallu gweithio’n dda gydag eraill
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Dyfalbarhad a phenderfyniad
  • Uchelgeisiol ac yn awyddus i lwyddo
  • Sgiliau rheoli busnes
  • Gallu defnyddio cyfrifiadur a’r prif becynnau meddalwedd yn hyderus

Beth mae cynllunydd yn ei wneud?

Fel cynllunydd, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod prosiectau’n cael eu cadw ar y trywydd iawn drwy baratoi adroddiadau a defnyddio adnoddau rheoli prosiectau i gadw’r holl dimau eraill sy’n ymwneud â’r prosiect ar y trywydd iawn.

Mae swydd cynllunydd yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Creu, cynnal ac adolygu rhaglen waith
  • Sicrhau bod prosiectau’n cael eu cwblhau'n brydlon ac o fewn y gyllideb
  • Cysylltu â syrfewyr, peirianwyr a phenseiri
  • Llunio adroddiadau cynnydd a rhagolygon ar gyfer aelodau'r tîm, cleientiaid a rhanddeiliaid
  • Rhannu tasgau mawr yn gamau datblygu
  • Defnyddio adnoddau rheoli prosiectau i gynllunio amserlenni
  • Cydweithio ag amcangyfrifwyr i gyfrifo'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer prosiect
  • Cynllunio rhaglenni wrth gefn rhag ofn y bydd amserlenni'n newid
  • Cyfarfod â chontractwyr a chyflenwyr
  • Dangos gwybodaeth am adeiladu
  • Ysgrifennu bidiau am dendrau
  • Rheoli nifer o brosiectau gyda chymorth cynllunwyr iau
  • Gweithio rhwng swyddfeydd a safleoedd adeiladu.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel cynllunydd?

Mae’r cyflog disgwyliedig i gynllunydd yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall cynllunydd sydd newydd gael ei hyfforddi ennill oddeutu £20,000 - £30,000
  • Gall cynllunwyr sydd wedi’u hyfforddi ac sydd â rhywfaint o brofiad ennill oddeutu £30,000 - £50,000
  • Gall cynllunwyr uwch, siartredig neu feistr ennill oddeutu £50,000 - £70,000

Mae’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr a lefel y cyfrifoldeb, a gall cyflogau ac opsiynau gyrfa wella os bydd gennych statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer cynllunwyr: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Mae’r rhan fwyaf o gynllunwyr yn dechrau fel cynorthwywyr neu hyfforddeion cynllunio. Maent yn rhannu rhaglenni gwaith gyda chydweithwyr a chyflenwyr ac yn sicrhau bod pob cam yn cael ei gyflawni yn unol â’r amserlen.

Fel cynllunydd mwy profiadol, gallech symud ymlaen i fod yn uwch-reolwr prosiectau neu'n gyfarwyddwr adeiladu.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Cynllunydd Byddwch yn gwneud rôl hanfodol yn ystod y broses adeiladu drwy greu cynllun sy’n...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Cyfarwyddwr prosiect O gynllunio i gwblhau, cyfarwyddwyr prosiect sy'n bennaf cyfrifol am gyflawni pr...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Cyfarwyddwr adeiladu Cyfarwyddwyr adeiladu sy'n gyfrifol am gynllunio a rheoli'r holl weithgareddau y...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080