Facebook Pixel

Cynorthwyydd Cyfrifon

A elwir hefyd yn -

Technegydd cyfrifon

Mae cynorthwywyr cyfrifon yn helpu i gadw golwg ar yr arian sy’n dod i mewn ac yn mynd allan o fusnes. Fel cynorthwyydd cyfrifon, byddech chi’n darparu cymorth cyfrifyddu a gweinyddol i staff cyfrifyddu a chyllid er mwyn sicrhau bod cyfrifon cwsmeriaid a chyflenwyr yn gywir; derbyn, prosesu a ffeilio gwaith papur; a rheoli trafodion arian mân.

Cyflog cyfartalog*

£18000

-

£25000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut mae dod yn gynorthwyydd cyfrifon

Mae sawl ffordd o ddod yn gynorthwyydd cyfrifon. Bydd angen dealltwriaeth sylfaenol o gyfrifyddu a chadw cyfrifon ar y rhan fwyaf o gwmnïau, gan gynnwys gwybodaeth am feddalwedd cyfrifon. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu drwy wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn gynorthwyydd cyfrifon, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Does dim angen cymwysterau ffurfiol arnoch chi i fod yn gynorthwyydd cyfrifon, ond fe allech chi gwblhau cwrs sydd wedi’i achredu gan Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) neu Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) i’ch helpu i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer y swydd hon.

Yn gyffredinol, bydd angen hyd at 5 TGAU arnoch, neu gymhwyster cyfatebol, ar raddau 9 i 3 (A* i D), a dealltwriaeth dda o fathemateg a TG, er mwyn cofrestru ar gwrs cyfrifyddiaeth.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Mae’n cymryd tua dwy flynedd i gwblhau prentisiaeth cyfrifyddu canolradd, ac mae prentisiaeth uwch mewn cyfrifyddu/trethu proffesiynol yn cymryd rhwng 18-20 mis.

Ar gyfer y cyrsiau hyn, bydd angen 5 TGAU (neu gymhwyster cyfwerth) arnoch gyda graddau 9 i 4 (A* i C), gan gynnwys Saesneg a mathemateg.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i ennill profiad fel cynorthwyydd cyfrifon, a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel cynorthwyydd cyfrifon. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel cynorthwyydd cyfrifon: 

  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol
  • Dealltwriaeth dda o rifedd
  • Sgiliau trefnu rhagorol.

Beth mae cynorthwyydd cyfrifon yn ei wneud?

Fel cynorthwyydd cyfrifon, gallech fod yn:

  • Goruchwylio’r arian sy’n dod i mewn ac yn mynd allan o’r cwmni
  • Sicrhau bod cyfrifon cwsmeriaid a chyflenwyr yn gywir (cysoni)
  • Derbyn, prosesu a ffeilio gwaith papur, e.e. anfonebau, treuliau, ceisiadau am daliadau
  • Gwirio/ cadarnhau cyfrifiadau i wneud yn siŵr eu bod yn gywir
  • Prosesu taliadau fel cyflogau gweithwyr y cwmni
  • Bwydo gwybodaeth i system gyfrifon ar gyfrifiadur
  • Cadw golwg ar ffigurau drwy weithio gyda thaenlenni
  • Rheoli trafodion arian mân
  • Gweithio mewn swyddfa.

Faint allech chi ei ennill fel cynorthwyydd cyfrifon?

Mae’r cyflog disgwyliedig i gynorthwyydd cyfrifon yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. Mae cyflogau ac opsiynau gyrfa yn gwella drwy gael statws siartredig. 

  • Gall cynorthwyydd cyfrifon sydd newydd gael ei hyfforddi ennill £17,000 - £18,000
  • Gall cynorthwyydd cyfrifon hyfforddedig gyda pheth profiad ennill £18,000 - £25,000
  • Gall cyfrifwyr uwch neu gyfrifwyr siartredig ennill £60,000 - £80,000.* 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer cynorthwyydd cyfrifon: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gallwch ddechrau fel hyfforddai neu gynorthwyydd cyfrifon a datblygu eich gyrfa i fod yn gyfrifydd iau neu gyfrifydd cynorthwyol tra byddwch yn rhannol gymwys.

Unwaith y byddwch yn gyfrifydd cwbl gymwys, gallech chi fod yn uwch gyfrifydd neu weithio ym maes rheoli ac ennill cyflog uwch. Yn y pen draw, gallech chi fod yn gyfarwyddwr cyllid.

Byddwch yn gwella eich rhagolygon gyrfa drwy fod yn siartredig drwy Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA). Bydd angen i chi fod â thair blynedd o brofiad gwaith mewn swydd berthnasol er mwyn cofrestru. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 3 a 4 blynedd i gymhwyso’n llawn.

Fel cynorthwyydd cyfrifon, gallech weithio yn y sector cyhoeddus neu breifat. Efallai y byddwch yn dewis arbenigo mewn un maes cyfrifeg fel busnes neu eiddo.

Gallech fod yn hunangyflogedig a gweithio’n llawrydd.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Cynorthwyydd Cyfrifon Dysgwch fwy am gyflog, cymwysterau, datblygiad gyrfa posibl a gwahanol ddyletswy...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Cyfrifydd Mae gan bersonél cyfrifyddu a chyllid rôl hollbwysig i’w chwarae ymhob busnes, g...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080