Gary Smith
Mae Gary Smith yn Dechnegydd TG gyda Robertson Group Limited
Fy rôl gyda Robertson yw helpu i reoli'r ddesg gymorth fewnol, gan ateb a datrys galwadau am gymorth gan ddefnyddwyr pan fydd problemau'n codi gyda'u cyfrifiaduron. O ddydd i ddydd, byddaf hefyd yn rhoi cymorth dros y ffôn i'r defnyddwyr hynny nad oes modd iddynt gofnodi galwad am gymorth neu'r rheini y mae ganddynt broblem â blaenoriaeth uchel y mae angen ei datrys ar unwaith. Yn ogystal â delio â galwadau am gymorth, rwyf fi ac aelodau eraill y tîm TG yn cydweithio i gynnal a chadw'r gweinyddion a seilwaith y rhwydwaith.
Ar wahân i'r gwaith gyda TG, rwy'n cydweithio â'r Rheolwr Cyfathrebu i helpu ein safleoedd sydd â chysylltiadau rhyngrwyd neu ffôn. Gallai hyn olygu darparu cysylltiad newydd neu helpu gyda chysylltiad sydd eisoes yn bodoli.
Beth rydych yn ei fwynhau am eich swydd?
Yr hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf am y swydd yw y bydd pob diwrnod yn cyflwyno heriau gwahanol, sy'n golygu nad oes byth dau ddiwrnod fel ei gilydd ac nad yw fy swydd byth yn ddiflas. Rwyf wrth fy modd yn datrys problemau ac, ym myd TG, mae llawer o broblemau i'w datrys. Rwy'n mwynhau dysgu am dechnoleg newydd ac rwy'n cael cyfle i ymchwilio i'r cyfarpar diweddaraf yn fy rôl, yn ogystal â'i brofi o bryd i'w gilydd.
Sut beth yw eich diwrnod gwaith?
Mae fy niwrnod arferol yn cynnwys mynd drwy'r galwadau am gymorth TG sydd wedi'u trosglwyddo i mi a gwneud fy ngorau glas i ddatrys y materion sy'n codi. Rwy'n hoffi cynllunio fy niwrnod drwy flaenoriaethu pob galwad am gymorth. Fodd bynnag, fel arfer mae angen delio â phethau na allaf gynllunio ar eu cyfer. Gall hyn gynnwys pobl yn dod i'n gweld yn y swyddfa neu bobl o bob rhan o'r cwmni yn ffonio am fod ganddynt broblemau.
Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich swydd?
Er mwyn gweithio ym maes TG, mae angen i chi feddu ar ddealltwriaeth dda o dechnoleg a rhai sgiliau cyfrifiadurol / datrys problemau sylfaenol. Mae sgiliau da o ran gwasanaeth cwsmeriaid hefyd yn bwysig. Rwy'n delio â chwsmeriaid yn ddyddiol, felly er mwyn sicrhau fy mod yn darparu'r gwasanaeth gorau bosibl, rwyf wedi mireinio fy sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid nes eu bod yn cyrraedd safon uchel.
Beth oedd eich cefndir cyn dechrau yn y rôl hon?
Cyn dechrau gweithio i Robertson Group, roeddwn yn gweithio fel technegydd TG mewn ysgol uwchradd leol. Yn y rôl honno, fi oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r cymorth llinell gyntaf ac ail linell i ddatrys problemau TG yr ysgol. Dechreuais weithio yn yr ysgol fel cyflogai graddedig, gan gymryd y swydd yn syth ar ôl gadael coleg. Ar ôl blwyddyn, roeddwn wedi llwyddo i gael fy mhenodi'n gyflogai llawn amser.
Beth rydych yn fwyaf balch ohono yn eich gyrfa?
Yn fy swydd ddiwethaf, roeddwn yn gyfrifol am brentis modern. Roedd hyn yn golygu fy mod yn hyfforddi rhywun heb unrhyw sgiliau TG. Dyma'r peth rwy'n fwyaf balch ohono oherwydd llwyddais i hyfforddi rhywun heb unrhyw sgiliau TG ac mae'r unigolyn hwnnw bellach yn gweithio mewn rôl TG llawn amser.
Ble rydych yn gweld eich hun ymhen 10 mlynedd?
Ymhen 10 mlynedd, hoffwn fod yn gweithio yn y diwydiant TG o hyd. Fodd bynnag, hoffwn ymgymryd â rôl sydd â mwy o ddyletswyddau rheoli. Rwy'n credu y byddwn yn dda iawn am reoli tîm a hoffwn allu dangos hyn yn y dyfodol.
Gair o gyngor i unrhyw un sy'n ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu?
Os ydych yn ystyried ymuno â maes TG, p'un a ydych yn mynd i'r coleg neu'r brifysgol neu'n dechrau arni heb unrhyw sgiliau TG, byddwn yn argymell eich bod yn ystyried ennill rhai ardystiadau TG. Cymwysterau yw'r rhain a roddir i bobl sy'n gweithio'n galed i lwyddo ar gwrs mewn maes TG penodol. Hyd yn hyn, rwyf wedi llwyddo i gael dau ac rwy'n gobeithio ychwanegu rhagor. Mae'r ardystiadau TG hefyd yn edrych yn dda ar CV ac mae mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am bobl sy'n meddu arnynt.