Facebook Pixel

Dadansoddwr ynni adnewyddadwy

A elwir hefyd yn -

Dadansoddwr ynni, ymgynghorydd ynni adnewyddadwy

Mae dadansoddwyr ynni adnewyddadwy yn mesur effeithlonrwydd ffynonellau ynni adnewyddadwy ac yn datblygu modelau ynni cynaliadwy ar gyfer adeiladau.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£80000

Oriau arferol yr wythnos

41-43

Sut i fod yn ddadansoddwr ynni adnewyddadwy

Mae sawl ffordd o ddod yn ddadansoddwr ynni adnewyddadwy. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu brentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn ddadansoddwr ynni adnewyddadwy i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.  

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Prifysgol 

I fod yn ddadansoddwr ynni adnewyddadwy, gallech chi gwblhau cwrs prifysgol israddedig neu ôl-raddedig mewn pwnc perthnasol.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth 

Gallech chi hyfforddi i fod yn ddadansoddwr ynni adnewyddadwy drwy gwblhau prentisiaeth uwch neu radd-brentisiaeth mewn peirianneg, pensaernïaeth neu dirfesur. 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith 

Os oes gennych chi brofiad o weithio mewn diwydiant cysylltiedig fel pensaernïaeth, tirfesur neu beirianneg, efallai y gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd fel dadansoddwr ynni adnewyddadwy. 

Profiad gwaith 

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel dadansoddwr ynni adnewyddadwy. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau  

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel dadansoddwr ynni adnewyddadwy:  

  • Gwybodaeth am ynni adnewyddadwy 
  • Galluoedd mathemategol rhagorol 
  • Sgiliau meddwl yn rhesymegol ac yn ddadansoddol 
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol 
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun 

Cymwysterau


Beth mae dadansoddwr ynni adnewyddadwy yn ei wneud?

Fel dadansoddwr ynni adnewyddadwy, byddwch yn datblygu datrysiadau ynni cynaliadwy i sicrhau bod ynni’n cael ei ddefnyddio’n fwy effeithlon mewn adeiladau. 

Mae swydd dadansoddwr ynni adnewyddadwy yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Archwilio effeithlonrwydd ffynonellau ynni adnewyddadwy mewn cartrefi a busnesau 
  • Defnyddio offer technegol fel foltmedrau a mesuryddion golau 
  • Dadansoddi data ar y defnydd o ynni 
  • Datblygu modelau ynni ar gyfer adeiladau newydd ac adeiladau presennol 
  • Cynghori landlordiaid a pherchnogion eiddo ar ffyrdd o wella effeithlonrwydd ynni adnewyddadwy. 
  • Darparu cymorth technegol i gontractwyr cyn ac yn ystod y gwaith gosod 
  • Cysylltu â chontractwyr, peirianwyr, cleientiaid ac arianwyr 
  • Cyfleu manteision ynni adnewyddadwy 
  • Defnyddio mesurau arbed ynni. 

Faint o gyflog allech chi ei gael fel dadansoddwr ynni adnewyddadwy?

Mae’r cyflog disgwyliedig i ddadansoddwr ynni adnewyddadwy yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall dadansoddwyr ynni adnewyddadwy sydd newydd gael eu hyfforddi ennill oddeutu £25,000 
  • Gall dadansoddwyr ynni adnewyddadwy profiadol ennill hyd at £80,000.* 
  • Dadansoddwyr ynni adnewyddadwy hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain. 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer dadansoddwyr ynni adnewyddadwy  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi. 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel dadansoddwr ynni adnewyddadwy, gallech symud ymlaen i rôl fel peiriannydd ynni neu arbenigo mewn math penodol o ymgynghori ar ynni adnewyddadwy. 

Gallech chi fynd yn hunangyflogedig a gweithio fel ymgynghorydd ynni adnewyddadwy.


Dyluniwyd y wefan gan S8080