Facebook Pixel

Darlithydd addysg uwch (AU)

Mae darlithwyr Addysg Uwch (AU) yn gwneud gwaith ymchwil ac yn addysgu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu proffesiynol mewn prifysgolion a cholegau addysg uwch. Fel darlithydd mewn maes sy’n gysylltiedig ag adeiladu, byddwch yn arbenigo mewn un maes astudio, fel pensaernïaeth, peirianneg, busnes a rheoli, cynllunio, arolygu neu fwy.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£55000

Oriau arferol yr wythnos

36-38

Sut i fod yn ddarlithydd addysg uwch

Mae sawl ffordd o ddod yn ddarlithydd AU. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu gradd-brentisiaeth, neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Bydd disgwyl i chi ennill cymhwyster addysgu. Mae hyn fel arfer yn cael ei gynnig gan eich prifysgol a gellir ei gwblhau wrth weithio.

Er mwyn addysgu pynciau galwedigaethol, fel peirianneg neu arolygu, bydd angen i chi fod wedi cael sawl blwyddyn o brofiad gwaith perthnasol yn y diwydiant adeiladu.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Cynllun hyfforddi graddedigion

Mae rhai darlithwyr AU yn cael profiad addysgu drwy gynllunio ac arwain dosbarthiadau israddedig tra byddant yn cwblhau astudiaethau ôl-radd. Mae rhai prifysgolion yn cynnig rolau â thâl i gynorthwywyr addysgu â gradd, a fydd yn eich galluogi i weithio tuag at fod yn ddarlithydd AU.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau gradd-brentisiaeth i ddod yn ddarlithydd AU.

Bydd gan gyflogwyr eu gofynion mynediad eu hunain ond mae’n debygol y bydd angen cymhwyster ôl-radd arnoch, fel gradd meistr neu PhD i fod yn ddarlithydd AU.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi eisoes brofiad o weithio ym maes adeiladu, a gradd berthnasol, gallech wneud cais yn uniongyrchol i brifysgol am waith fel darlithydd AU. Efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi gwblhau rhai cymwysterau addysgu yn y gwaith.

Profiad gwaith

Er mwyn bod yn ddarlithydd AU mewn pwnc galwedigaethol, bydd angen i chi gael profiad gwaith sylweddol yn y maes rydych yn bwriadu ei ddysgu.

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio yn y diwydiant. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel darlithydd AU:

  • Gwybodaeth am addysgu ac ymchwil
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Sensitifrwydd a dealltwriaeth
  • Gallu meddwl yn ddadansoddol a meddu ar sgiliau datrys problemau
  • Gallu gweithio ar eich liwt eich hun.

Cymwysterau


Beth mae darlithydd addysg uwch yn ei wneud?

Fel darlithydd Addysg Uwch, byddwch yn gyfrifol am addysgu pynciau academaidd a/neu alwedigaethol i fyfyrwyr sy’n hyfforddi i ymuno â’r diwydiant adeiladu. Mae’n rôl werth chweil i unrhyw un sydd eisiau trosglwyddo gwybodaeth, sgiliau a hoffter o'r amgylchedd adeiledig.

Weithiau mae darlithwyr yn cael eu cyflogi mewn swydd addysgu ac ymchwil ar y cyd. Mewn coleg, bydd prif ffocws eich gwaith yn debygol o fod ar addysgu, ond mewn prifysgol bydd y ffocws yn cynnwys ymchwil.

Mae swydd darlithydd Addysg Uwch yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Paratoi cynlluniau gwersi
  • Datblygu deunyddiau addysgu
  • Gosod a marcio profion
  • Asesu cynnydd myfyrwyr
  • Gwaith gweinyddol megis ysgrifennu adroddiadau
  • Addysgu mewn darlithoedd, seminarau a thrwy arddangosiadau ymarferol a gwaith maes
  • Addysgu mewn prifysgol neu goleg addysg uwch.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel darlithydd addysg uwch (AU)?

Mae’r cyflog disgwyliedig i ddarlithydd AU yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall darlithwyr AU sydd ar gontract amser llawn ennill £20,000 - £45,000
  • Gall uwch ddarlithwyr AU ennill mwy na £55,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer Darlithwyr AU: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. 

Edrychwch bob dydd i weld cyfleoedd newydd wrth iddynt gael eu postio!

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel darlithydd Addysg Uwch, gallech weithio mewn prifysgolion a cholegau addysg uwch.

Gyda phrofiad, gallech symud ymlaen i fod yn uwch ddarlithydd, yn ddarllenydd neu'n athro.


Dyluniwyd y wefan gan S8080