Facebook Pixel

Derbynnydd

Yn y diwydiant adeiladu, derbynyddion yw pwynt cyswllt cyntaf cleientiaid, isgontractwyr a chyflenwyr. Fel derbynnydd, chi fydd wyneb blaen y sefydliad yn cyfarch gwesteion a chontractwyr, ac yn ymateb i ymholiadau dros y ffôn a thrwy e-bost. Bydd angen sgiliau trin pobl rhagorol arnoch er mwyn gallu darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid.

Cyflog cyfartalog*

£19000

-

£25000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i ddod yn dderbynnydd

Mae yna sawl llwybr i ddod yn dderbynnydd. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy gwblhau cwrs coleg neu brentisiaeth. Efallai y gallwch hefyd anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr os oes gennych sgiliau perthnasol.  

Dylech archwilio'r opsiynau i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. Er y bydd rhai o'r opsiynau hyn yn gofyn am gymwysterau, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sydd yn frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn  Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwr hyfforddiant

Efallai y bydd eich coleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau gweinyddu busnes. Gallech astudio am Dystysgrif Lefel 1 mewn Busnes a Gweinyddu. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Hyfforddeiaeth

Os ydych rhwng 16 a 24 oed gallech fod yn gymwys i gael hyfforddeiaeth. Cwrs byr yw hwn (2 wythnos - 6 mis) sy'n eich helpu i ennill profiad gwaith yn eich rôl ddewisol.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth ym maes gweinyddu busnes yn ffordd dda o gychwyn ar eich gyrfa yn y diwydiant adeiladu. Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych brofiad mewn gwasanaethau i gwsmeriaid neu weinyddu, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol am swyddi gwag ar gyfer derbynyddion. Bydd sawl cyflogwr yn cynnig hyfforddiant ychwanegol i'ch helpu i ddatblygu’ch gyrfa. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau neu’n ystod gwyliau i gwmni neu berthynas. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.  

Medrau

Ymhlith y sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sydd am ddod yn dderbynfa mae:

Sgiliau gweinyddu ardderchog
Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid
Hyderus yn defnyddio cyfrifiadur
Amynedd a'r gallu i barhau i bwyllo mewn sefyllfaoedd sy'n achosi straen
Sylw ardderchog i fanylion
Sensitifrwydd a dealltwriaeth
Sgiliau cyfathrebu geiriol cryf.

Cymwysterau


Beth mae derbynnydd yn ei wneud?

Fel derbynnydd, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Cyfarch ymwelwyr ac ymateb i ymholiadau
  • Ateb y ffôn yn brydlon ac yn gwrtais
  • Ymateb i e-byst
  • Trefnu post a phecynnau sy’n dod i mewn ac yn mynd allan
  • Gwneud dyletswyddau sylfaenol clerc 
  • Diweddaru cofnodion cronfeydd data
  • Archebu trafnidiaeth a gwneud trefniadau teithio
  • Cynnal ardal y dderbynfa
  • Rheoli'r llyfr ymwelwyr a rhoi pasys diogelwch i ymwelwyr
  • Darparu lluniaeth
  • Trefnu ystafelloedd i gynnal cyfarfodydd
  • Ymdrin â thaliadau ac anfonebau
  • Gweithio yn nerbynfa swyddfa neu gwmni adeiladu.

Faint allech ei ennill fel derbynnydd?

  • Gall derbynyddion sydd newydd eu hyfforddi ennill £19,000 - £20,000
  • Gall derbynyddion wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £20,000 - £25,000
  • Gall derbynyddion uwch ennill mwy na £25,000.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer derbynyddion:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Ar ôl cael profiad, gallech ddod yn uwch weinyddwr neu'n gynorthwyydd personol (PA) i aelodau uwch sefydliad, ac ennill cyflog uwch. 

Os ydych yn darganfod fod gwell gennych wneud rhannau penodol o'ch swydd, gallech ddod yn gynorthwyydd cyfrifon, cynghorydd adnoddau dynol, neu gydlynydd prosiectau.


Dyluniwyd y wefan gan S8080