Facebook Pixel

Dodrefnwr siopau

Mae dodrefnwyr siopau’n trawsnewid y tu mewn i swyddfeydd, siopau, bwytai, bariau a mwy. Maent yn paratoi cynlluniau, ac yna’n gwneud ac yn gosod ffitiadau i wella ein profiad mewn gofod. Fel dodrefnwr siopau, byddwch yn tynnu’r hen ffitiadau ac ati ac yn gosod rhai newydd yn eu lle. Gallech fod yn goruchwylio gwaith adeiladu ac yn gweithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau i ddod â llecyn yn fyw.

Cyflog cyfartalog*

£14000

-

£30000

Oriau arferol yr wythnos

43-45

Sut i fod yn ddodrefnwr siopau

Mae sawl ffordd o ddod yn ddodrefnwr siopau. Gallech ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.

 Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Efallai y bydd eich coleg neu'ch darparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau a fydd yn eich helpu i ddechrau ar yrfa fel dodrefnwr siopau.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Mae’n cymryd oddeutu dwy flynedd i gwblhau prentisiaeth ganolradd. Os gall eich cyflogwr roi'r profiadau iawn i chi, gallech symud ymlaen wedyn i gymhwyster Lefel 3 (uwch). Mae rhai dodrefnwyr siopau yn dechrau fel seiri coed neu asiedyddion ac wedyn yn arbenigo mewn dodrefnu siopau a chontractio mewnol.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi brofiad mewn teilsio, gwaith coed neu saernïaeth, efallai y gallwch chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd fel dodrefnwr siopau.

Oes oes gennych swydd yn barod, gallech gwblhau Diploma NVQ Lefel 3 mewn Galwedigaethau Gwaith Coed (yn y gwaith) i wella eich sgiliau.  

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel dodrefnwr siopau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel dodrefnwr siopau:

  • Gwybodaeth dda am fathemateg
  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Yn drylwyr, gyda'r gallu i roi sylw rhagorol i fanylion
  • Yn hyderus wrth weithio gyda’ch dwylo
  • Yn gweithio’n dda fel aelod o dîm
  • Y gallu i weithio dan bwysau
  • Sgiliau dylunio
  • Dealltwriaeth o brosesau gweithgynhyrchu a chynhyrchu.

Cymwysterau


Beth mae dodrefnwr siopau yn ei wneud?

Fel dodrefnwr siopau, byddwch yn gyfrifol am baratoi dyluniadau ar gyfer cleient, cyn eu hadeiladu yn y siop ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo. 

Mae swydd dodrefnwr siopau yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Paratoi cynlluniau dylunio manwl
  • Gwneud blaenau siopau, fframiau, unedau a ffitiadau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau fel pren, metel, gwydr neu blastig ymysg pethau eraill
  • Creu’r darnau mewnol ar gyfer y sectorau manwerthu, hamdden a threftadaeth, neu fanciau, bwytai a bariau
  • Goruchwylio prosiectau a threfnu i isgontractwyr wneud y gwaith plastro, lloriau, gwresogi, goleuo ac ynysu rhag sŵn
  • Amcangyfrif symiau a chostau deunyddiau
  • Paratoi tendrau a dyfynbrisiau ar gyfer tasgau
  • Mesur a marcio gwaith ar y safle
  • Gweithio mewn gweithdai neu fusnesau cleientiaid mewn amodau swnllyd, llychlyd a chyfyng.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel dodrefnwr siopau?

Mae’r cyflog disgwyliedig i ddodrefnwr siopau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad

  • Gall dodrefnwyr siopau sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall dodrefnwyr siopau hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £30,000
  • Gall dodrefnwyr siopau uwch/meistr ennill £30,000 - £35,000.*

Mae cyflogau fel arfer yn amrywio yn ôl y lleoliad a goramser. Dodrefnwyr siopau hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer dodrefnwyr siopau:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel dodrefnwr siopau profiadol, gallech fod yn amcangyfrifwr neu’n ddylunydd.

Gallech symud i rôl oruchwylio, fel fforman, rheolwr prosiectau neu reolwr contractau. Gallech benderfynu dechrau eich busnes eich hun neu weithio fel is-gontractwr.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Dodrefnwr siopau Heb fod yn gyfyngedig i siopau, fel Dodrefnwr Siopau byddwch yn gwneud unedau a ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Amcangyfrifwr Mae’r gwaith yn golygu cyfrifo cost cyflenwi cynnyrch neu wasanaethau i gleienti...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080