Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae dylunwyr mewnol yn gweithio gyda chleientiaid i greu mannau dan do sy’n ymarferol ac yn ddeniadol. Maent yn helpu i gynllunio cynllun ac addurn y tu mewn i adeiladau, a gallant weithio gyda chontractwyr i ddod â’u dyluniadau’n fyw.
£18000
-£45000
40-42
Mae sawl ffordd o ddod yn ddylunydd mewnol. Gallech chi ddilyn cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu hyfforddiant yn y gwaith.
Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn ddylunydd mewnol i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan rai cyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu, a bydd hynny'n golygu bod yn rhaid i chi gael prawf iechyd, diogelwch a’r amgylchedd CITB dilys.
I fod yn ddylunydd mewnol gallech gwblhau gradd sylfaen, diploma cenedlaethol uwch (HND), neu radd israddedig mewn pwnc perthnasol, megis:
Gallech hefyd symud i faes dylunio mewnol ar ôl astudio pensaernïaeth, celfyddyd gain, dylunio graffeg, neu ddylunio tecstilau neu ddodrefn.
Bydd angen y canlynol arnoch:
> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol
Mae amrywiaeth o gyrsiau coleg y gallech eu dilyn i’ch helpu ar eich taith i fod yn ddylunydd mewnol, fel:
Er mwyn ymuno â’r cyrsiau hyn, bydd angen 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, arnoch gan gynnwys Saesneg, mathemateg a phwnc celf neu ddylunio.
> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Does dim llawer o brentisiaethau penodol ar gyfer dylunwyr mewnol. Gallech chi gwblhau uwch brentisiaeth fel technegydd dylunio dodrefn i’ch helpu i ddechrau yn y rôl, neu hyfforddi fel prentis paentiwr ac addurnwr.
Efallai y bydd angen TGAU (gan gynnwys Saesneg a mathemateg) neu gymhwyster cyfatebol arnoch i ddilyn prentisiaeth lefel mynediad, ond nid yw pob cyflogwr yn gofyn am gymwysterau ffurfiol.
Bydd angen i chi gael 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, ar gyfer uwch brentisiaeth.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os gallwch ddod o hyd i waith fel cynorthwyydd dylunio, efallai y bydd eich cyflogwr yn eich helpu i ennill cymwysterau proffesiynol yn y gwaith, i'ch helpu i ddod yn ddylunydd mewnol.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel dylunydd mewnol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel dylunydd mewnol:
Fel dylunydd mewnol, byddwch yn helpu i guradu neu adnewyddu mannau y tu mewn i adeiladau, fel eu bod yn ymarferol ac yn ddymunol yn esthetig i’ch cleient. Efallai y byddwch yn argymell lliwiau waliau, goleuadau, ffitiadau, dodrefn a ffabrig i wella'r gofod. Neu, gallech oruchwylio'r elfennau dylunio strwythurol mewn ystafell, fel silffoedd mewnol, grisiau, dyluniadau nenfwd a mwy.
Mae swydd dylunydd mewnol yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i ddylunydd mewnol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer dylunwyr mewnol:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt ddod ar gael.
Fel dylunydd mewnol, gallech symud ymlaen i weithio ar brosiectau mwy ac uchel eu proffil.
Gallech ddewis bod yn gyflogedig a gweithio fel rhan o bractis sefydledig, neu sefydlu eich hunan fel dylunydd mewnol hunangyflogedig.