Facebook Pixel

Economegydd

Mae economegwyr yn astudio data ac ystadegau cymhleth ac yn defnyddio eu canfyddiadau i roi cyngor ariannol i fusnesau. Fel economegydd, byddech yn ymchwilio i dueddiadau economaidd ac yn eu monitro, ac yn creu modelau ystadegol i ragweld datblygiadau yn y dyfodol. Mae cyflogwyr yn dibynnu ar economegwyr i’w cynghori ynghylch effaith bosibl polisïau a buddsoddiadau.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£85000

Oriau arferol yr wythnos

37-39

Sut i fod yn economegydd

Mae sawl ffordd o ddod yn economegydd. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu brentisiaeth.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn economegydd, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Mae’n debygol y bydd angen gradd mewn economeg neu bwnc cysylltiedig arnoch, fel ystadegau, mathemateg, astudiaethau busnes neu gyllid a chyfrifeg.

Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn gofyn i chi feddu ar radd meistr ôl-raddedig mewn economeg. 

Bydd angen y canlynol arnoch:

Prentisiaeth

Gallech gwblhau gradd-brentisiaeth i fod yn economegydd. Bydd angen i chi gael 4 neu 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefelau A, neu gymhwyster cyfatebol, i gofrestru.

Mae prentisiaeth yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant adeiladu. Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel cyfrifydd, neu ym maes cyllid. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel economegydd: 

  • Dealltwriaeth dda o fathemateg, economeg a chyfrifeg
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol ac yn rhesymegol
  • Sylw i fanylion
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar.

Beth mae economegydd yn ei wneud?

  • Casglu gwybodaeth o sawl ffynhonnell. Casglu a dadansoddi nifer fawr o ddata o ffynonellau gan gynnwys ffigurau’r llywodraeth, cyhoeddiadau, ymchwil ar y we ac arolygon y diwydiant.
  • Ymchwilio a deall tueddiadau a modelau economaidd
  • Defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol i ddadansoddi'r data a gasglwyd
  • Cyfarfod â chydweithwyr a chleientiaid i rannu gwybodaeth
  • Paratoi adroddiadau sy’n egluro effaith economaidd bosibl gwahanol benderfyniadau
  • Rhoi cyflwyniadau i gynulleidfaoedd technegol ac annhechnegol
  • Paratoi rhagolygon sy’n galluogi sefydliadau i gynllunio’r gwaith o ddyrannu adnoddau
  • Rhagweld gofynion y farchnad yn y dyfodol
  • Sefydlu gofynion hyfforddi neu fuddsoddi
  • Asesu dichonoldeb prosiect arfaethedig
  • Gweithio oriau swyddfa safonol, dydd Llun i ddydd Gwener
  • Mae’n debygol y bydd adegau pan fydd angen gweithio’n hwyr, yn enwedig mewn rolau uwch.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel economegydd?

Mae’r cyflog disgwyliedig i economegydd yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall economegwyr sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall economegwyr hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £40,000 - £55,000
  • Gall economegwyr uwch, siartredig neu feistr ennill £60,000 - £85,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer economegwyr: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel economegydd, gallech symud ymlaen i rolau ariannol uwch, neu sefydlu eich hun fel ymgynghorydd busnes hunangyflogedig.


Dyluniwyd y wefan gan S8080