Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae fforman gorffen yn gweithio gyda rheolwyr, contractwyr a gweithwyr eraill ar y safle i sicrhau bod y gwaith adeiladu’n cael ei gwblhau’n llwyddiannus mewn pryd, o fewn y gyllideb, a’i fod yn cael ei orffen yn unol â’r safon a’r fanyleb y cytunwyd arnynt gyda’r cleient.
£25000
-£60000
38-40
Mae sawl ffordd o ddod yn fforman gorffen. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth, neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn fforman gorffen i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
I’ch helpu i ddod yn fforman gorffen, gallech gwblhau Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), gradd sylfaen neu radd israddedig sydd wedi’i hachredu gan y Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB), fel:
Bydd angen y canlynol arnoch:
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
I’ch helpu ar eich taith i fod yn fforman gorffen, gallech gwblhau cwrs mewn:
Bydd angen i chi gael o leiaf 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Gallech chi ddechrau eich gyrfa fel prentis yn y rhan fwyaf o grefftau adeiladu ac wedyn chamu ymlaen i fod yn fforman gorffen. Neu, gallech chi wneud cais am brentisiaeth uwch ym maes rheoli adeiladu.
Bydd angen i chi gael o leiaf 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefelau A (neu gymhwyster cyfatebol).
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os ydych chi’n dirfesurydd profiadol, yn oruchwyliwr safle, yn beiriannydd neu’n dechnegydd adeiladu, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol am rôl fforman gorffen a chael yr hyfforddiant pellach sydd ei angen yn y swydd.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel fforman gorffen. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel fforman gorffen:
Fel fforman gorffen, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio prosiectau adeiladu a sicrhau bod y gwaith gorffenedig yn bodloni’r safonau a’r manylebau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw gyda chleientiaid.
Mae swydd fforman gorffen yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i fforman gorffen yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer fforman gorffen:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd swyddi newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel fforman gorffen, gallech chi symud ymlaen i fod yn rheolwr sicrhau ansawdd, rheolwr safle, neu reolwr neu gyfarwyddwr adeiladu. Yn dibynnu ar eich gallu, gallech hefyd fynd yn eich blaen i faes arolygu, peirianneg neu amcangyfrif.
Neu, gallech sefydlu eich hun fel ymgynghorydd hunangyflogedig.