Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gorffenwyr concrid yn taenu ac yn tywallt concrid i greu gorffeniadau llyfn ar wynebau fel ffyrdd, palmentydd, lloriau a chyrbiau, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer arbenigol. Fel gorffennwr concrid, gallwch hefyd ddefnyddio ffurfiau (mowldiau) i greu blociau concrid ar gyfer prosiectau adeiladu.
£17000
-£25000
35-40
Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn orffennwr concrid, mae sawl llwybr y gallech ei ddilyn i'ch helpu i ddilyn yr yrfa hon. Gallech gwblhau cwrs coleg neu brentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn orffennwr concrid i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
I fod yn orffennwr concrid, byddai hyd at 5 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg ar radd 4 neu uwch o fudd.
Gallech chi gwblhau cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn pwnc sy'n gysylltiedig ag adeiladu, er mwyn cael mwy o wybodaeth a'ch helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa.
> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Gallech chi gwblhau prentisiaeth adeiladu i’ch helpu i ddod yn orffennwr concrid.
Bydd angen i chi gael hyd at 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i fod yn brentis.
Bydd prentisiaethau ym maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, neu beirianneg yn rhoi’r cymwysterau angenrheidiol i chi ddechrau gweithio yn y maes hwn ac yn agor cyfleoedd i arbenigo mewn gorffeniadau concrid.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych brofiad blaenorol fel labrwr, gallech wneud cais am waith mewn cwmni adeiladu er mwyn datblygu eich sgiliau. Efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig hyfforddiant i'ch helpu i arbenigo a dod yn orffennwr concrid.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gorffennwr concrid. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Mae sgiliau delfrydol ar gyfer gorffennwr concrid yn cynnwys:
Mae gorffennwr concrid yn gyfrifol am sicrhau bod concrid wedi’i dywallt yn cael ei daenu a’i orffen i’r safon uchaf.
Mae dyletswyddau gorffennwr concrid yn cynnwys:
Mae’r cyflog disgwyliedig i orffennwr concrid yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gorffenwyr concrid:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel gorffennwr concrid, gallech symud ymlaen i rôl rheolwr safle ac ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros reoli’r gweithlu ar y safle.
Neu, gallech symud i rôl gynllunio neu beirianneg, neu weithio i asiantaethau’r llywodraeth ac awdurdodau lleol.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod