Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gosodwyr asffalt mastig yn rhoi cymysgedd poeth o galchfaen a bitwmen ar amrywiaeth o arwynebau i’w hamddiffyn, eu cryfhau a’u gwneud yn wrth-ddŵr. Mae’r asffalt mastig yn caledu pan fydd yn oeri, felly gellir ei ddefnyddio ar gyfer toi, gosod arwynebau lloriau fel platfformau rheilffyrdd a meysydd parcio, leinio tanciau a phyllau nofio, fel amddiffynfeydd môr neu afonydd, neu fwy.
£17000
-£35000
Mae sawl ffordd o ddod yn osodwr asffalt mastig. Gallech chi ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Er nad oes angen cymwysterau penodol i fod yn osodwr asffalt mastig, gall fod yn fuddiol cael cymwysterau TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) ar raddau A* i C neu lefelau 4 i 9 mewn mathemateg, Saesneg a thechnoleg dylunio.
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Gallech chi gwblhau prentisiaeth i ddod yn osodwr asffalt mastig. Gallech chi hyfforddi i fod yn döwr neu’n osodwr ffyrdd ac arbenigo wedyn mewn gweithio gydag asffalt mastig.
Bydd angen i chi gael hyd at 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i fod yn brentis.
Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol fel töwr neu osodwr ffyrdd, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle gydag asffalt mastig. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i osodwr asffalt mastig mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Efallai y bydd eich cyflogwr yn eich helpu i ennill cymwysterau proffesiynol gan y Sefydliad Toi, i'ch helpu i gamu ymlaen yn eich gyrfa.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gosodwr asffalt mastig. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gosodwr asffalt mastig:
Fel gosodwr asffalt mastig, byddwch yn gyfrifol am osod asffalt mastig poeth ar amrywiaeth o arwynebau. Gallech chi weithio i gontractwyr arbenigol, naill ai fel staff neu fel labrwr cyflogedig ar amrywiaeth o brosiectau.
Mae swydd gosodwr asffalt mastig yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Dan Glynn
Mae Dan Glynn yn Gosodwr Asffalt Mastig gyda’r cwmni toi cenedlaethol, BriggsAmasco
Mae’r cyflog disgwyliedig i osodwr asffalt mastig yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i osodwyr asffalt mastig:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel gosodwr asffalt mastig, gallech symud ymlaen i fod yn beiriannydd safle neu’n rheolwr prosiect.
Fel arall, gallech ddod yn rheolwr contractau neu hyfforddi i fod yn athro, i rannu eich sgiliau ag eraill.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod