Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gosodwyr lloriau mynediad yn gosod systemau lloriau uchel gan ddefnyddio offer a thechnegau arbenigol. Gallai hyn gynnwys unrhyw brosiect lle mae angen lloriau uchel – o dai i glybiau nos, a meysydd awyr i swyddfeydd.
£19000
-£30000
Mae sawl ffordd o ddod yn osodwr lloriau mynediad. Gallech ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn osodwr lloriau mynediad, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Coleg
Nid oes angen cymwysterau academaidd ffurfiol i ddod yn osodwr lloriau mynediad, ond gall rhai cymwysterau galwedigaethol eich helpu i gael swydd.
Mae'n bosib y bydd eich coleg neu'ch darparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau fel Diploma NVQ mewn Systemau Mewnol (Gosod Lloriau Mynediad).
Bydd angen i chi gael o leiaf 2 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i D) neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, i astudio am NVQ.
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Prentisiaeth
Mae prentisiaeth gyda chwmni gosod lloriau mynediad yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.
Bydd angen i chi gael hyd at 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i fod yn brentis.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Gwaith
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni gosod lloriau mynediad i gael profiad ar safle fel gosodwr lloriau mynediad. Gallech ddechrau fel cynorthwyydd i osodwr lloriau mynediad mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Profiad gwaith
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gosodwr lloriau mynediad. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Sgiliau
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gosodwr lloriau mynediad:
Fel gosodwr lloriau mynediad, byddwch yn gyfrifol am osod lloriau uchel mewn amryw o wahanol leoliadau. Gall y dyletswyddau gynnwys defnyddio offer arbenigol a deall gofynion y busnes rydych chi’n gweithio ynddo. Gallai hefyd fod angen i chi weithio gyda’r nos neu ar benwythnosau, yn dibynnu ar y gwaith rydych chi’n ei wneud.
Mae rôl y gosodwr lloriau mynediad yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i osodwyr lloriau mynediad yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gosodwyr lloriau mynediad:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel gosodwr lloriau mynediad, gallech drosglwyddo eich sgiliau i fod yn osodwr lloriau, yn arweinydd tîm neu’n gontractwr hunangyflogedig.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod