Facebook Pixel

Gosodwr systemau diogelwch rhag tân

Mae gan osodwr systemau diogelwch rhag tân rôl bwysig o ran sicrhau bod adeiladau’n cael eu hinswleiddio a’u diogelu’n strwythurol rhag risg tân. Gall hyn gynnwys gosod fframiau amddiffynnol, waliau a nenfydau sy’n gwrthsefyll tân, a defnyddio triniaethau sy’n gwrthsefyll tân, yn enwedig ar adeiladau treftadaeth.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£40000

Oriau arferol yr wythnos

40-42

Sut i fod yn osodwr systemau diogelwch rhag tân

Mae sawl ffordd o fod yn osodwr systemau diogelwch rhag tân. Gallech chi gwblhau cwrs coleg, cwblhau cwrs hyfforddiant, cael hyfforddiant yn y gwaith, neu wneud cais uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

I fod yn osodwr systemau diogelwch rhag tân, gallech gwblhau cwrs hyfforddi a gynigir gan Y Gymdeithas Diogelwch Arbenigol Rhag Tân ar ffurf NVQ.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth i ddod yn osodwr systemau diogelwch rhag tân. Mae’n cymryd 18 mis i gwblhau’r cynllun prentisiaeth Diogelwch rhag Tân Goddefol, ac mae’n arwain at NVQ Lefel 2 mewn Diogelwch rhag Tân Goddefol. Ar ôl i chi gwblhau’r hyfforddiant, byddwch yn gymwys i ddefnyddio offer arbenigol a defnyddio neu osod deunyddiau diogelu rhag tân.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel gosodwr systemau diogelwch rhag tân. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i osodwr systemau diogelwch rhag tân mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gosodwr systemau diogelwch rhag tân. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gosodwr systemau diogelwch rhag tân: 

  • Gallu dilyn lluniadau technegol
  • Gallu i weithio ar eich liwt eich hun
  • Dealltwriaeth am adeiladau ac adeiladu
  • Lefel dda o ffitrwydd corfforol
  • Hyderus yn gweithio mewn mannau uchel.

Cymwysterau


Beth mae gosodwr systemau diogelwch rhag tân yn ei wneud?

Fel gosodwr systemau diogelwch rhag tân, byddwch yn gyfrifol am osod a chynnal a chadw systemau diogelu rhag tân.

Mae swydd gosodwr systemau diogelwch rhag tân yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Gosod cyfarpar diogelu strwythurol ar ffrâm adeilad, fel cladin sych, chwistrelli mwynol neu stribedi chwyddo.
  • Adeiladu waliau a leininau nenfwd sy’n gwrthsefyll tân
  • Gosod deunydd inswleiddio thermol ac acwstig, seliau tân, rhwystrau ceudod a phibelli sy’n gwrthsefyll tân
  • Defnyddio offer mynediad fel ysgolion
  • Dilyn lluniadau a chynlluniau technegol.
  • Cadw at ganllawiau iechyd a diogelwch llym.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel gosodwr systemau diogelwch rhag tân?

Mae’r cyflog disgwyliedig i osodwr systemau diogelwch rhag tân yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gosodwyr systemau diogelwch rhag tân sydd newydd eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall gosodwyr systemau diogelwch rhag tân hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £40,000
  • Gall uwch osodwyr systemau diogelwch rhag tân ennill mwy na £40,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i osodwyr systemau diogelwch rhag tân:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gosodwr systemau diogelwch rhag tân, gallech fod yn arweinydd tîm neu’n amcangyfrifwr, neu sefydlu eich busnes gosod eich hun.

Gallech hefyd drosglwyddo eich sgiliau i rôl gosod arall, fel gosodwr deunydd inswleiddio ceudod.


Dyluniwyd y wefan gan S8080