Facebook Pixel

Gweithiwr atal lleithder

Mae lleithder yn achosi problemau difrifol i adeiladau a gall beryglu iechyd pobl. Fel gweithiwr atal lleithder, byddech yn atal lleithder rhag treiddio i mewn i adeiladau o'r ddaear, a thrwy waliau a chraciau. Gallech fod yn gosod cynhyrchion atal lleithder ac yn diogelu brics a phren. Efallai y byddwch hefyd yn atgyweirio difrod strwythurol a bydd angen deall systemau draenio ac awyru.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£30000

Sut i ddod yn weithiwr atal lleithder

Mae sawl llwybr i ddod yn weithiwr atal lleithder. Gallwch ennill cymwysterau trwy gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu hyfforddi yn y gwaith.

Dylech archwilio'r llwybrau hyn i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. Er y bydd rhai o'r opsiynau hyn yn gofyn am gymwysterau, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sydd yn frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwr hyfforddiant

Efallai y bydd angen i chi fynychu cyrsiau gan goleg neu ddarparwr hyfforddiant arbenigol er mwyn dod yn weithiwr atal lleithder. Gallech gwblhau NVQ Lefel 2 mewn Inswleiddio a Thriniaethau Adeiladau (Adeiladu) Diogelu Pren ac Atal Lleithder.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

I ddod yn weithiwr atal lleithder, byddech yn cwblhau Rhaglen Brentisiaeth Arbenigol, gan ganolbwyntio ar drin lleithder mewn adeiladau. Mae’n cymryd tua 2 flynedd i'w chwblhau, ac mae'n cynnig hyfforddiant yn y gwaith ac amser gyda darparwr hyfforddiant arbenigol.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os ydych yn gweithio yn y diwydiant adeiladu eisoes, efallai eich bod wedi datblygu'r profiad perthnasol sydd ei angen i ddod yn weithiwr atal lleithder. Efallai y bydd rhai cwmnïau'n cynnig cyrsiau hyfforddi byr i ddatblygu sgiliau mwy arbenigol.  Gallwch anfon cais yn uniongyrchol at y cwmnïau hyn trwy wefan Cymdeithas Gofal Eiddo  (Cymdeithas Diogelu Pren ac atal lleithder Prydain yn flaenorol).

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gellid bod wedi cael y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV. 

Cymwysterau


Beth mae Gweithiwr atal lleithder yn ei wneud?

Fel gweithiwr atal lleithder, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Archwilio eiddo a chanfod problemau lleithder
  • Glanhau a pharatoi ardaloedd ar gyfer eu trin
  • Gosod pilenni gwrth-leithder
  • Defnyddio deunyddiau atal lleithder megis silicôn i lenwi waliau
  • Sicrhau bod gan adeiladau ddraeniad digonol ac awyru da
  • Rhoi cyngor i gleientiaid neu gontractwyr
  • Gweithio yn yr awyr agored, beth bynnag fo'r tywydd.

Faint allech ei ennill fel gweithiwr gwrth-leithder?

  • Gall gweithwyr gwrth-leithder sydd newydd eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall gweithwyr gwrth-leithder wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £20,000 - £30,000
  • Bydd gweithwyr gwrth-leithder hunangyflogedig yn pennu eu cyfraddau cyflog eu hunain.

 Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithwyr atal lleithder:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Ar ôl cael profiad, gallech weithio i berchnogion tai, cwmnïau adeiladu neu fusnesau.

Gallech wneud rhagor o hyfforddiant ac arbenigo mewn adnewyddu adeiladau neu amddiffyn adeiladau newydd.

Fel arall, gallech symud ymlaen i swydd uwch reolwr neu reolwr prosiectau ac ennill cyflog uwch. Gallech hefyd sefydlu eich busnes eich hun a gweithio fel is-gontractwr.


Dyluniwyd y wefan gan S8080