Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gweithwyr chwarel yn defnyddio peiriannau pwerus i gloddio a drilio creigiau, tywod, llechi, graean a mwynau o chwareli a mwyngloddiau. Maent yn malu, yn cludo ac yn prosesu’r agregau hyn i’w defnyddio, yn aml ar safleoedd adeiladu.
£16000
-£30000
53-55
Mae sawl ffordd o ddod yn weithiwr chwarel. Gallech gwblhau prentisiaeth neu, yn dibynnu ar eich profiad blaenorol, gallech wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn weithiwr chwarel i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod angen cymwysterau penodol ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech gwblhau Tystysgrif Lefel 2 mewn Gweithredu Peiriannau Adeiladu neu Ddiploma Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig i’ch helpu i gael y profiad sydd ei angen i fod yn weithiwr chwarel.
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Gallech ddod yn weithiwr chwarel drwy brentisiaeth ganolradd fel gweithiwr peiriannau prosesu mwynau symudol a statig, neu drwy gwblhau prentisiaeth ganolradd gweithiwr peiriannau neu dechnegydd codi, neu NVQ/SVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peiriannau.
Bydd angen rhywfaint o gymwysterau TGAU arnoch, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol, ar gyfer prentisiaeth ganolradd.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych brofiad ym maes adeiladu, mwyngloddio, neu ddefnyddio peiriannau trwm, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni i gael profiad ar safle fel gweithiwr chwarel. Efallai y gall eich cyflogwr eich cefnogi gydag unrhyw hyfforddiant ychwanegol sy'n angenrheidiol.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr chwarel. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr chwarel:
Fel gweithiwr chwarel, byddwch yn defnyddio peiriannau ac offer trwm i gloddio agregau o chwareli a mwyngloddiau, sy’n aml yn cael eu defnyddio yn y diwydiant adeiladu. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio peiriannau drilio dwfn neu ffrwydron i durio neu dorri creigiau.
Mae swydd gweithiwr chwarel yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr chwarel yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithwyr chwarel:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel gweithiwr chwarel, gallech chi symud ymlaen i fod yn arweinydd tîm neu’n rheolwr peiriannau a goruchwylio logisteg ar safleoedd.
Neu, gallech hyfforddi i fod yn beiriannydd chwarel, neu sefydlu eich hun fel gweithiwr hunan-gyflogedig.
Gallech gael hyfforddiant pellach i arbenigo mewn iechyd a diogelwch ar y safle.