Facebook Pixel

Gweithiwr cynnal a chadw

Mae gweithiwr cynnal a chadw yn rhywun sy’n gwneud amrywiaeth o dasgau mewn adeiladau, i’w cadw mewn cyflwr da. Gall y dyletswyddau gynnwys gweithgareddau fel trwsio toeau, paentio waliau, neu osod drysau a sgyrtin.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£25000

Oriau arferol yr wythnos

35-40

Sut mae dod yn weithiwr cynnal a chadw

Mae sawl ffordd o ddod yn weithiwr cynnal a chadw. Gallech ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cwrs coleg mewn crefft sy’n gysylltiedig ag adeiladu, fel paentio ac addurno, gwaith coed, plastro, neu fwy, i’ch helpu i ennill rhai o’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i fod yn weithiwr cynnal a chadw.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth i ddod yn weithiwr cynnal a chadw.

Gallech chi hefyd gwblhau prentisiaeth ganolradd neu uwch brentisiaeth mewn crefft adeiladu fel plymio, gwaith coed neu deilsio.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad fel gweithiwr cynnal a chadw. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i weithiwr cynnal a chadw mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Gallech wirfoddoli i helpu gyda thasgau DIY ar gyfer cymdeithas dai neu elusen. Byddai hyn yn gyfle i chi ddysgu sgiliau a gwneud cysylltiadau, a allai arwain at waith am dâl.

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr cynnal a chadw. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr cynnal a chadw: 

  • Gallu defnyddio, atgyweirio a chynnal a chadw peiriannau ac offer
  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Gallu gweithio’n dda gyda’ch dwylo
  • Sgiliau datrys problemau
  • Sgiliau ymarferol ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw cyfarpar
  • Sylw da i fanylion
  • Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.

Cymwysterau


Beth mae gweithiwr cynnal a chadw yn ei wneud?

Fel gweithiwr cynnal a chadw, byddwch yn gyfrifol am gynnal a chadw, atgyweirio neu drwsio amrywiaeth o bethau mewn adeiladau neu’r tu allan iddynt. Gall y dyletswyddau gynnwys paentio ac addurno, trwsio gollyngiadau mewn toeau, neu adeiladu dodrefn.

Gall swydd gweithiwr cynnal a chadw gynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Trwsio toeau a landeri
  • Paentio waliau
  • Gosod drysau a sgyrtin
  • Atgyweirio neu ailadeiladu waliau
  • Gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi
  • Teilsio waliau a lloriau
  • Gwneud gwaith plymio bach a mân dasgau trydanol
  • Archwilio offer diogelwch a thân
  • Gwaith maen ar waliau neu risiau allanol, gosod slabiau, codi ffensys, gosod lloriau finyl, gwydr, ac amnewid gwydr.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel gweithiwr cynnal a chadw?

Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr cynnal a chadw yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gweithwyr cynnal a chadw sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall gweithwyr cynnal a chadw hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £30,000*
  • Gweithiwyr cynnal a chadw hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i weithwyr cynnal a chadw: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gweithiwr cynnal a chadw, gallech ddilyn cyrsiau pellach ac arbenigo mewn maes penodol, fel gwaith coed neu blymio. Mae llawer o weithwyr cynnal a chadw yn sefydlu eu cwmnïau eu hunain ac yn gweithio ar sail hunangyflogedig. 

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gweithiwr cynnal a chadw Bod yn gyfrifol am wneud gwaith atgyweirio cyffredinol a sicrhau bod yr adeilada...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Contractwr hunangyflogedig Fel contractwr neu is-gontractwr, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’ch cle...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Briciwr Mae bricwyr yn gosod brics, cerrig wedi'u torri, blociau concrid a mathau eraill...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Saer Mae seiri coed adeiladu yn gosod ffitiadau pren amrywiol, gan gynnwys drysau, ll...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Asiedydd Gweithio gyda gwahanol goed a lluniadau technegol i greu grisiau, ffenestri a mw...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Teilsiwr waliau a lloriau Defnyddiwch eich medr a’ch gallu i fod yn fanwl gywir i osod teils ar amrywiaeth...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Plastrwr Mae'r plastrwr yn aelod anhepgor o'r rhan fwyaf o safleoedd adeiladu – mae'n gwn...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Plymwr Mae plymwr yn gyfrifol am unrhyw beth sy'n ymwneud â phibwaith ar safle adeiladu...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr safle Mae rheolwyr safle yn rhedeg y gweithlu ar safle adeiladu. ...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080