Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gweithwyr dosbarthu trydanol yn gyfrifol am gynnal a chadw llinellau pŵer sy’n cysylltu adeiladau â’r grid cenedlaethol.
£16000
-£35000
42-44
Mae sawl ffordd o ddod yn weithiwr dosbarthu trydanol. Gallech gwblhau cwrs coleg neu brentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn weithiwr dosbarthu trydanol i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Mae amrywiaeth o gyrsiau coleg y gallech eu dilyn i’ch helpu ar eich taith i fod yn weithiwr dosbarthu trydanol, fel Tystysgrif Lefel 2 mewn Technoleg Peirianneg Electronig a Thrydanol neu Ddiploma Lefel 3 mewn Technoleg Peirianneg.
Bydd angen o leiaf yr isod arnoch:
> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Gallech hyfforddi i fod yn weithiwr dosbarthu trydanol drwy gwblhau uwch brentisiaeth fel crefftwr rhwydwaith pŵer, neu brentisiaeth uwch ar gyfer peirianwyr rhwydwaith pŵer trydanol.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych brofiad o weithio yn y diwydiant pŵer neu waith cynnal a chadw peirianneg drydanol mewn diwydiant arall, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am waith neu wneud cais am swydd ar raglen hyfforddiant peirianneg sy’n cael ei rhedeg gan gyflogwr.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr dosbarthu trydanol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr dosbarthu trydanol:
Fel gweithiwr dosbarthu trydanol, byddwch yn gosod, yn cynnal a chadw ac yn atgyweirio llinellau pŵer i sicrhau bod cartrefi a busnesau yn cael eu cysylltu â’r grid cenedlaethol.
Mae swydd gweithiwr dosbarthu trydanol yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr dosbarthu trydanol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithwyr dosbarthu trydanol:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel gweithiwr dosbarthu trydanol, gallech chi symud ymlaen i swydd fel arweinydd tîm neu reolwr prosiect. Gyda hyfforddiant, gallech fod yn beiriannydd neu’n dechnegydd peirianneg drydanol.