Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gweithiwr gosod seilbyst, neu yrrwr rigiau, yn gyfrifol am yrru colofnau pren, dur neu goncrid i mewn i’r ddaear yn ystod prosiectau adeiladu er mwyn cynnal strwythurau fel tai, swyddfeydd, ysbytai, pontydd a phierau.
£20000
-£40000
Mae sawl ffordd o ddod yn weithiwr gosod seilbyst. Er nad oes angen cymwysterau penodol, gallech chi gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, hyfforddiant yn y gwaith, neu wneud cais uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech gwblhau cwrs coleg mewn crefft sy’n gysylltiedig ag adeiladu, fel gwaith paratoi’r tir, ac wedyn arbenigo i fod yn weithiwr gosod seilbyst ar ôl i chi ddechrau gweithio.
Yn gyffredinol, bydd angen i chi gael 2 TGAU neu fwy ar raddau 9 i 3 (A* i D) neu gymhwyster cyfatebol i gofrestru ar gwrs coleg.
> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.
Os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn, gallech gwblhau prentisiaeth arbenigol i fod yn weithiwr gosod seilbyst neu’n yrrwr rigiau.
Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i D), neu gymhwyster cyfatebol.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol yn y diwydiant, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr i gael gwaith fel gweithiwr gosod seilbyst. Efallai y byddant yn darparu hyfforddiant ar y safle a chymwysterau i chi symud ymlaen yn eich gyrfa.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr gosod seilbyst. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr gosod seilbyst:
Fel gweithiwr gosod seilbyst, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y cynheiliaid ar gyfer adeiladau yn eu lle, drwy yrru gwahanol ddeunyddiau i mewn i’r ddaear i greu cynhaliaeth strwythurol. Efallai y bydd gofyn i chi hefyd symud deunyddiau o amgylch safleoedd adeiladu, a byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y peiriannau rydych chi’n eu defnyddio yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda.
Mae swydd gweithiwr gosod seilbyst yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr gosod seilbyst yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i weithwyr gosod seilbyst:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel gweithiwr gosod seilbyst neu yrrwr rigiau, gallech symud ymlaen i swydd fel peiriannydd safle, peiriannydd geo-dechnegol neu ddod yn rheolwr contractau neu’n gontractwr hunangyflogedig.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod