Facebook Pixel

Gweithiwr Tir

A elwir hefyd yn -

Gweithiwr ffurfwaith, Gweithrediadau peiriannau

Mae gweithiwr tir yn weithiwr proffesiynol adeiladu sy’n paratoi’r tir cyn, yn ystod ac ar ôl adeiladu. Fel arfer y crefftwr cyntaf ar safle adeiladu, mae gweithwyr tir yn gosod ac yn paratoi'r is-wynebau yn barod i'r gwaith strwythurol ddechrau, gosod systemau draenio, concrid, cyflawni dad-lystyfiant, dehongli manylebau dylunio a mwy. Mae gweithwyr tir yn gweithio trwy gydol prosiect adeiladu ac yn aml yn cyflawni'r tasgau terfynol, fel gosod tramwyfeydd a llwybrau troed.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£30000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn weithiwr tir

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i ddod yn weithiwr tir, mae sawl llwybr y gallech ei gymryd i ddilyn yr yrfa hon. Gallech wneud cwrs yn y coleg neu brentisiaeth neu wneud cais am swydd yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw'r un iawn i chi. Er bod angen cymwysterau penodol i ddilyn rhai o'r llwybrau hyn, mae’n well gan lawer o gyflogwyr fod unigolion yn frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Gall fod angen cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Os ydych yn ymwneud â gweithrediadau peiriannau, bydd angen cerdyn Cynllun Cymhwysedd Peiriannau Adeiladu (CPCS) arnoch.

Y coleg/darparwr hyfforddiant

Er nad oes unrhyw ofynion mynediad penodol, byddai unrhyw un sy'n ystyried gyrfa fel gweithiwr tir yn elwa o gyflawni cymwysterau TGAU (neu gyfwerth) mewn mathemateg a Saesneg.

Gallech astudio am dystysgrif Lefel 1 mewn Gwaith Tir neu Sgiliau Adeiladu neu NVQ Ddiploma Lefel 2 mewn Gwaith Tir ac Adeiladu cyffredinol.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Hyd at 2 TGAU (neu gyfwerth) gyda graddau 3 i 1 (D i G) (cwrs lefel 1)
  • 2 neu fwy o raddau TGAU 9 i 3 (A* i D), neu gymwysterau cyfwerth (cwrs lefel 2).

> Gofynion mynediad cyfatebol wedi’u hesbonio

> Dod o hyd i gwrs yn agos atoch chi

> Cyngor ar gyllid

Prentisiaeth

Mae cwblhau prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda o ymuno â’r diwydiant.

Gallech gwblhau prentisiaeth gweithiwr tir lefel 2, sy’n gyfwerth â phump TGAU ac sy’n uchel ei barch gan gyflogwyr adeiladu.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad, er y bydd angen dealltwriaeth dda o Saesneg ysgrifenedig ac ar lafar arnoch.

Gall unrhyw un dros 16 oed wneud prentisiaeth. Fel prentis, byddwch wedi’ch cyflogi'n llawn gan y cwmni rydych yn gweithio iddo a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng y gweithle a’r coleg neu'r darparwr hyfforddiant.

> Dod o hyd i brentisiaeth yn agos atoch chi

> Canllaw i brentisiaethau

Gwaith

Gallech wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr i ddod yn weithiwr tir dan hyfforddiant, yn enwedig os oes gennych rywfaint o brofiad ar y safle mewn rôl debyg fel labrwr neu weithiwr peiriannau. Byddai hyn yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau, a gallai eich cyflogwr ddarparu hyfforddiant i'ch helpu i symud ymlaen i fod yn weithiwr tir profiadol neu'n uwch weithiwr tir. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol i sicrhau swydd yn y diwydiant adeiladu. Gallech gael profiad gwaith yn yr ysgol neu drwy weithio dros benwythnosau a gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy'n gweithio fel gweithiwr tir. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith ar eich CV.

> Rhagor o wybodaeth am brofiad gwaith

Sgiliau

Mae sgiliau ychwanegol a all fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr tir yn cynnwys:

  • Sgiliau datrys problemau da
  • Sgiliau rhifedd sylfaenol
  • Ffitrwydd corfforol da
  • Brwdfrydig gyda moeseg gwaith da
  • Gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm
  • Gallu dilyn cyfarwyddiadau

Beth mae gweithiwr tir yn ei wneud?

Fel gweithiwr tir byddwch yn gweithio fel rhan o dîm sy'n cyflawni'r gwaith cyntaf, ac olaf yn aml, ar safle adeiladu. Mae gweithiwr tir yn gyfrifol am gyflawni ystod eang o ddyletswyddau, gan gynnwys:

  • Clirio safle adeiladu
  • Cloddio ffosydd ar gyfer sylfeini
  • Creu safle, gosod rhwystrau, arwyddion diogelwch, cytiau, ac ati.
  • Dilyn holl weithdrefnau iechyd a diogelwch
  • Darparu cymorth cloddio i weithwyr proffesiynol adeiladu eraill
  • Dehongli'r defnydd o luniadau a manylebau
  • Gosod palmentydd, cyrbau a thramwyfeydd
  • Gosod concrit ar safleoedd
  • Cael gwared ar systemau draenio a phibellau
  • Gweithredu peiriannau, megis cloddwyr a thryciau dympio
  • Paratoi'r tir/sylfeini i ganiatáu i'r gwaith adeiladu ddechrau
  • Ailgyfeirio dyfrffyrdd a chysylltu pibellau â phibellau presennol.

Faint y gallech ei gael fel gweithiwr tir?

Mae cyflog disgwyliedig gweithiwr tir yn amrywio wrth i chi ddod yn fwy profiadol.

  • Gall gweithwyr tir sydd newydd hyfforddi gael rhwng £17,000 a £20,000 y flwyddyn
  • Gall gweithwyr tir sydd ag ychydig o brofiad gael rhwng £20,000 a £25,000 y flwyddyn
  • Gall uwch weithwyr tir gael rhwng £25,000 a £30,000* y flwyddyn.
  • Mae gweithwyr tir hunangyflogedig yn gosod eu cyfraddau eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallwch ei weithio.

*Mae’r cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell a chawsant eu diweddaru yn 2019

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gweithiwr tir sy’n wag ar hyn o bryd:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a datlygu yn eich gyrfa

Fel gweithiwr tir, fe allech chi adeiladu ar eich set sgiliau presennol trwy gwblhau hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol i arbenigo mewn rôl debyg, fel gweithiwr peiriannau, gweithredwr dymchwel neu weithiwr ffordd.

Neu, gallech symud ymlaen i rôl wahanol o fewn adeiladu, fel gweithiwr gosod brics neu saer coed.

Gyda phrofiad, gallech ddod yn oruchwyliwr safle neu reolwr adeiladu. 


Dyluniwyd y wefan gan S8080