Facebook Pixel

Gweithiwr toi

A elwir hefyd yn -

Töwr, Töwr Llechi

Mae gweithwyr toi yn gweithio ar doeau adeiladau newydd a hefyd yn atgyweirio neu’n ail-doi strwythurau hŷn. Gall hyn gynnwys defnyddio amryw o wahanol ddeunyddiau, fel llechi, teils neu ddeunyddiau ar gyfer toeau fflat, yn ogystal â gosod ffenestri yn y to.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

42-44

Sut mae dod yn weithiwr toi

Does dim angen cymwysterau penodol i fod yn weithiwr toi. Fodd bynnag, gallech chi gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith i ddechrau arni yn yr yrfa hon. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cwrs yn eich coleg lleol megis Diploma Lefel 2 mewn Galwedigaethau Toi neu mewn Toi gyda Llechi a Theils. Byddai hyn yn rhoi sgiliau defnyddiol i chi ac yn eich helpu i gael gwaith fel gweithiwr toi dan hyfforddiant.

Bydd angen i chi gael 2 TGAU neu fwy ar raddau 9 i 3 (A* i D), neu gymhwyster cyfatebol.

Mae gan Gynghrair y Diwydiant Toi Brosbectws Hyfforddiant Toi sy’n rhoi rhagor o arweiniad ar lwybrau o ran cymwysterau a gofynion hyfforddi.

Prentisiaeth

Gallech chi ddod yn weithiwr toi drwy gwblhau prentisiaeth ganolradd mewn toi. 

Bydd angen i chi gael 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i D), neu gymhwyster cyfatebol i fod yn brentis canolradd.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr toi. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Gwaith

Gallech chi ddod o hyd i waith fel labrwr to a chael hyfforddiant yn y gwaith i’ch helpu i fod yn weithiwr toi. 

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr toi 

  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Lefel dda o ffitrwydd ac yn gallu gweithio mewn mannau uchel
  • Sylw da i fanylion
  • Amynedd a’r gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen
  • Gallu gweithio’n dda gydag eraill
  • Bod yn hyblyg ac yn barod i newid
  • Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol.

Beth mae gweithiwr toi yn ei wneud?

Fel gweithiwr toi, gallech chi arbenigo mewn maes penodol, fel gosod llenni a gorchuddion, neu deils ar doeau. Gallech chi arbenigo mewn prosiectau treftadaeth, neu weithio fel töwr gyda metel caled a chladin. 

Yn dibynnu ar faes eich arbenigedd, gallech chi fel gweithiwr toi fod yn:

  • Amcangyfrif faint o ddeunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith, a’r math o ddeunydd sydd ei angen
  • Defnyddio lluniadau a manylebau technegol
  • Gosod deunyddiau i sicrhau bod y to yn diogelu’n llwyr rhag y tywydd
  • Gweithio yn ôl rheoliadau adeiladu
  • Gweithio’n ddiogel mewn mannau uchel
  • Gosod ffenestri yn y to
  • Gweithio ar adeiladau hanesyddol neu adeiladau o bwysigrwydd diwylliannol
  • Creu plwm addurniadol neu eitemau metel sy’n gydnaws â’r strwythur.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel gweithiwr toi?

Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr toi yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gweithwyr toi sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000+
  • Gall gweithwyr toi hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £17,000 - £25,000
  • Gall uwch weithwyr toi neu dowyr meistr ennill £25,000 - £35,000*
  • Gweithiwyr toi hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i weithwyr toi: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gyda phrofiad, gallech fod yn syrfëwr neu’n ymgynghorydd toi, gan amcangyfrif costau, delio â chontractau a gweithio gyda phenseiri.  

Neu, gallech ddod yn rheolwr safle neu symud i faes gwerthiannau technegol. Rhai o’r opsiynau eraill yw hyfforddi eraill, sefydlu eich busnes eich hun neu weithio fel ymgynghorydd toi hunangyflogedig.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gweithiwr toi O osod llechi a theils i arolygu adeiladwaith toeau ar brosiectau eraill, mae go...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Amcangyfrifwr Mae’r gwaith yn golygu cyfrifo cost cyflenwi cynnyrch neu wasanaethau i gleienti...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080