Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gyrrwr siyntiau yn gyfrifol am sicrhau bod cerbydau’n symud yn ddiogel ar safleoedd adeiladu. Gallai hyn gynnwys cerbydau nwyddau trwm neu drelars, a gall olygu symud nwyddau o amgylch y safle, i fannau storio neu lwytho, neu i gael eu codi gan weithwyr eraill.
£20000
-£35000
37-42
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn yrrwr siyntiau, ond gallech gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu wneud cais am y swydd hon yn uniongyrchol i gyflogwr.
Mae’n rhaid bod gennych chi drwydded yrru lawn y DU ac efallai y bydd rhaid bod gennych drwydded LGV C+E hefyd.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn yrrwr siyntiau, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech gwblhau Tystysgrif Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peiriannau Adeiladu neu Ddiploma Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig i’ch helpu i gael y profiad sydd ei angen i fod yn yrrwr siyntiau.
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.
Gallech chi gwblhau prentisiaeth ganolradd fel gweithredwr peiriannau, neu NVQ/SVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peiriannau i gychwyn eich taith tuag at fod yn yrrwr siyntiau. Mae’n cymryd oddeutu dwy flynedd i gwblhau prentisiaeth ganolradd.
Efallai y bydd angen 2 - 3 TGAU (gan gynnwys Saesneg a mathemateg) neu gymhwyster cyfatebol arnoch i ddilyn prentisiaeth, ond nid yw pob cyflogwr yn gofyn am gymwysterau ffurfiol.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel gyrrwr siyntiau. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i yrrwr siyntiau mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella. Bydd yn rhaid bod gennych chi drwydded yrru DU lawn.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gyrrwr siyntiau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gyrrwr siyntiau:
Fel gyrrwr siyntiau, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod cerbydau mawr a threlars yn symud yn ddiogel o gwmpas safleoedd. Gall hyn amrywio rhwng safleoedd adeiladu, iardiau llongau, dociau llwytho, neu fwy.
Mae swydd gyrrwr siyntiau yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i yrrwr siyntiau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gyrwyr siyntiau:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel gyrrwr siyntiau, gallech ddatblygu eich sgiliau i fod yn yrrwr wagen fforch godi, gyrrwr HGV neu fancwr.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod