Rwy'n gweithio i un o'r cwmnïau llogi triniaethau wynebau annibynnol mwyaf yn y DU. Gall y gwaith bob dydd amrywio o wasanaethu i gwblhau gwaith sylweddol ar beiriannau. Gall y gwaith gwasanaethu fod yn fach neu'n fawr, gyda gwaith gwasanaethu bach yn gyfystyr ag archwiliad, sy'n cynnwys yr olew a'r peiriant yn gyffredinol. Bydd gwaith gwasanaethu mawr yn golygu newid yr olew a mynd dros y peiriant â chrib fân. Bydd yr amser a dreulir yn dibynnu ar y math o wasanaeth. Gall gwaith mawr fel peiriant yn torri i lawr fod mor gyflym ag ychydig oriau i mor hir â sawl diwrnod.
Sut y gwnaethoch ddechrau arni?
Gadewais ysgol yn 2009 gyda 15 TGAU. Yna astudiais wyddoniaeth yng Ngholeg Chweched Dosbarth Fenton ac ennill tair Safon Uwch. Tra'n y coleg gweithiais yn rhan-amser yng nghaffi fy ewythr.
Wedi tyfu i fyny o amgylch peiriannau fferm roeddwn bob amser wedi gwirioni ar y ffordd maent yn gweithio. Ar gyfer fy mhen-blwydd yn 16 oed cefais gar mini o 1994 gan fy rhieni a threuliais sawl noson yn gweithio arno gan benderfynu fy mod am ddilyn gyrfa yn gwneud rhywbeth fel hyn.
Ar ôl fy Safon Uwch, nid oeddwn am barhau ym maes gwyddoniaeth, roeddwn am wneud peirianneg. Gwnes gais i astudio cwrs llawn amser neu brentisiaeth cynnal a chadw/mecanwaith peiriannau yng Ngholeg Reaseheath. Anfonais fy CV i tua 50 o gwmnïau, rhai lleol a rhai mor bell i ffwrdd â Lerpwl, gan fyw mewn gobaith.
Cefais fy ngwrthod droeon, ac ni chefais ymateb gan rai o gwbl, ond yna cefais lythyr gan Clee Hill Plant yn gofyn i mi ddod am gyfweliad, lle credaf i mi newid barn sawl un am ferched yn y math hwn o rôl. Wythnos wedyn cefais alwad ffôn yn cynnig y swydd i mi. Ni allwn gredu'r peth. Credaf fy mod wedi profi sawl person yn anghywir am ferched yn y diwydiant hwn ac roedd y daith yn werth chweil.
Beth rydych yn ei fwynhau am eich gwaith?
Gyda'r holl beiriannau gwahanol o fewn y cwmni nid yw'r dysgu beth yn dod i ben. Mae pob diwrnod yn wahanol. Rwy'n dwli ar yr ochr ymarferol a gweld sut mae'r peiriannau'n gweithio a sut i'w trwsio os byddant yn torri i lawr. Rwy'n ymfalchïo yn fy ngwaith a chaf fy nghanmol am y gwaith a wnaf. Os byddaf yn cael trafferth bydd rhywun wrth law bob amser i helpu a'm tywys i'r cyfeiriad cywir.
Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch?
I fod yn llwyddiannus yn y gwaith hwn mae angen sgiliau gwrando da a gallu dilyn cyfarwyddiadau. A rhaid mwynhau'r ochr ymarferol o bethau. Mae bach o hiwmor hefyd yn helpu yn y diwydiant hwn oherwydd mae digon o dynnu coes i'w gael yn y gweithdy.
Profiad gorau yn eich gyrfa?
Fi yw mecanydd peiriannau/gosodwr benywaidd cyntaf Clee Hill Plant. Dim ond llond llaw o ferched sy'n gwneud y gwaith hwn mewn cwmnïau eraill ac rwy'n falch o fod yn un ohonynt. Mae fy holl waith caled wedi dwyn ffrwyth. Rwyf wedi profi fy mod yn gallu gwneud y gwaith ac ni all unrhyw beth fy atal rhag anelu'n uwch yn fy ngyrfa.
Uchelgais fawr?
Rwyf wedi cyflawni fy NVQ Lefel 2 a nawr rwy'n mynd i wneud Lefel 3. Wedi hynny byddaf yn ystyried dilyn cwrs trydanol uwch. Yna hoffwn gael fy fan cwmni pinc fy hun a dod yn osodwr safle. Rwyf am wthio fy hun i wneud yr holl gyrsiau er mwyn meithrin llawer o wybodaeth a gallu rhannu fy ngwybodaeth â phrentisiaid newydd.
Unrhyw gyngor ar ymuno â'r diwydiant adeiladu?
Dilynwch fy esiampl i ac ewch amdani. Os yw'ch bryd ar rywbeth pam lai. Mae'r diwydiant adeiladu bob amser yn chwilio am bobl newydd i ddysgu sgiliau ymarferol. Os nad oes ofn gwaith caled arnoch a'ch bod am ddysgu sut i wneud neu drwsio pethau a gweld canlyniad cadarnhaol ar y diwedd, y diwydiant adeiladu yw'r diwydiant i chi.