Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae paentwyr ac addurnwyr yn dod â lleoedd bob dydd yn fyw. Maent yn paratoi ac yn gosod paent, papur wal a gorffeniadau eraill ar arwynebau, dan do ac yn yr awyr agored. Fel paentiwr ac addurnwr, byddai galw mawr am eich gwasanaeth. Gallech chwarae rhan allweddol yn y gwaith o drawsnewid prosiectau preswyl, masnachol a diwydiannol, neu gallech arbenigo mewn gwaith adnewyddu neu gynnal adeiladau treftadaeth.
£17000
-£50000
42-44
112,800
Mae sawl ffordd o ddod yn beintiwr ac addurnwr. Gallech chi ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Efallai y bydd eich coleg neu eich darparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau, fel Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Peintio ac Addurno.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Mae rhai colegau'n cynnig cyrsiau byr, rhan-amser yn y maes peintio ac addurno a allai fod yn ffordd dda o weld os mai dyma'r swydd iawn i chi, yn enwedig os nad oes gennych chi brofiad neu os ydych chi'n ystyried newid gyrfa.
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Os ydych chi rhwng 16 a 24 oed, efallai eich bod yn gymwys i wneud hyfforddeiaeth. Cwrs byr yw hwn (2 wythnos - 6 mis) sy’n eich helpu i gael profiad gwaith yn y rôl o’ch dewis.
> Rhagor o wybodaeth am hyfforddeiaethau
Mae prentisiaeth gyda chwmni peintio ac addurno yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Mae’n cymryd oddeutu dwy flynedd i gwblhau prentisiaeth ganolradd. Os gall eich cyflogwr roi'r profiadau iawn i chi, gallech symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch neu arbenigo mewn adnewyddu treftadaeth a hanesyddol.
Efallai y bydd angen TGAU (gan gynnwys Saesneg a mathemateg) neu gymhwyster cyfatebol arnoch i ddilyn prentisiaeth, ond nid yw pob cyflogwr yn gofyn am gymwysterau ffurfiol.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i waith yn helpu peintiwr/addurnwr cymwys ac ennill cymwysterau drwy astudio’n rhan-amser.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peintiwr ac addurnwr:
Fel peintiwr ac addurnwr, byddwch yn gyfrifol am amryw o wahanol dasgau – fel rhoi paent a staeniau ar ystafelloedd, dodrefn neu gyfarpar newydd, neu gallech chi fod yn cynorthwyo gyda phrosiectau eraill.
Mae swydd peintiwr ac addurnwr yn amrywio, a gall gynnwys y dyletswyddau canlynol:
Jordan Charters
Mae Jordan Charters yn berchen ar gwmni peintio ac addurno gyda’i dad.
Mae’r cyflog disgwyliedig i beintiwr ac addurnwr yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer peintwyr ac addurnwyr
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Ar ôl i chi gymhwyso, fe allech chi wneud NVQ Lefel 3 mewn Gorffeniadau Addurnol a Phaentio Diwydiannol i wella eich rhagolygon am waith.
Gydag amser, gallech symud ymlaen i fod yn rheolwr tîm neu’n oruchwyliwr ac ennill cyflog uwch. Gallech symud i faes adeiladu cysylltiedig fel dylunio mewnol, cadwraeth hanesyddol neu ddylunio setiau. Neu, gallech hyfforddi i amcangyfrif neu reoli contractau.
Mae rhai peintwyr ac addurnwyr yn sefydlu eu busnes eu hunain. Gallech weithio fel is-gontractwr ar brosiectau mwy a gosod eich cyfraddau tâl eich hun.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod